Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Emlyn Davies; Adelina Patti (Cymraeg)

(September 01, 2016)

English

Rhyfeddod Craig y Nos
Hanes Adelina Patti (1843-1919)

Adelina Patti
Adelina Patti

Mae’n anodd iawn i ni heddiw geisio amgyffred pa mor enwog oedd Adelina Patti. Hi oedd soprano orau ei chyfnod, a medrai hawlio ffioedd a fyddai’n peri syndod hyd yn oed yn ôl ein safonau ni heddiw, heb sôn am y cyfnod hwnnw. Byddai’n cymysgu’n rheolaidd gyda rhai o bobl mwyaf pwerus y byd, gan gynnwys sawl teulu brenhinol, ac roedd y byd operatig wrth ei thraed. Gallai fod yn berson anodd, cymhleth ac oriog, yn llawn paradocs ac yn fyr ei thymer, ond roedd trigolion cyffredin Cwm Tawe’n meddwl y byd ohoni ac yn gweld mwy o’i haelioni a’i chynhesrwydd na dim arall. Tra roedd y byd i gyd yn ei galw’n “Queen of Song” roedd pobol Cymru’n ei galw’n “Queen of Hearts.”

Er nad oedd unrhyw arlliw o waed Cymreig yn perthyn iddi, cwympodd mewn cariad yn llwyr â Chymru, a gwnaeth lawer i gyfoethogi ein bywyd fel cenedl, yn faterol ac yn ddiwylliannol. Cafwyd sawl cyfrol yn cloriannu ei gorchestion yn y byd cerdd, ac ysgrifennwyd llyfrau mwy personol am hynt a helynt ei bywyd prysur a chyffrous gan awduron megis Tony Hibbert (Fresh Flowers for M'Lady) a Gwyn Briwnant Jones (Craig-y-Nos). O ystyried y rhin a’r dirgelwch sydd wedi eu plethu o amgylch ei phersonoliaeth liwgar, does ryfedd ein bod ni’r Cymry yn cael ein denu’n ôl ati’n gyson i synnu at wychder ei byd ysblennydd a’i thalent ogoneddus.

A hithau’n mwynhau’r bywyd bras a’r partïon moethus ledled Ewrop, y rhyfeddod yw iddi ddewis dod i fyw i lecyn hollol anghysbell ym mhen uchaf Cwm Tawe, lle yr aeth ati i ymestyn castell Craig y Nos drwy godi tyrau Gothig a theatr fodern. Roedd pob dyfais a chyfleuster ar gael yma, a hwn oedd un o’r cartrefi preifat cyntaf yng Nghymru i gael trydan. Gyda dros ddeg ar hugain o stafelloedd gwely, roedd yno ddwy gegin anferth, capel preifat, ystafell gerdd, a nifer o stafelloedd moethus i gymdeithasu ac ymlacio. Y tu allan, roedd tŷ gwydr anferth ar gyfer adar, pafiliwn lle y medrai hi fynd am dro ynghanol y planhigion ecsotig yn y gaeaf, gerddi eang, llyn, a hyd yn oed ystafell i gynhyrchu rhew. Dynes fechan iawn oedd hi, yn bum troedfedd a dwy fodfedd, ond er nad oedd hi fawr o gorffolaeth, llwyddai i dynnu sylw ati’i hun ble bynnag yr âi.

Ym Madrid y cafodd ei geni, a hynny ar Chwefror 19, 1843, er mai o dras Eidalaidd oedd y teulu. Hi oedd yr ieuengaf o chwech o blant. Ei henw bedydd oedd Adela Juana Maria Patti. Cantorion oedd ei rhieni a digwydd bod yn canu ym Madrid roedden nhw pan anwyd Adelina.

Deunaw oed oedd hi erbyn dod i Brydain yn 1861 i berfformio’n gyhoeddus am y tro cyntaf yn Covent Garden, a bu’r achlysur yn garreg filltir bwysig yn ei hanes. Dyna’r perfformiadau a’i gosododd ar y llwyfan cydwladol fel seren fyd-eang. Yn fuan iawn roedd wedi ennill ei phlwyf fel y soprano bel canto coloratura orau a glywyd erioed.

 

Adelina Patti, by Franz Xaver Winterhalter, 1863, oil on canvasAdelina Patti, gan Franz Xaver Winterhalter, 1863, olew ar ganfas

Teithiodd drwy Ewrop yn canu yn y tai opera mwyaf. Doedd neb tebyg iddi, a phawb yn canmol purdeb a phrydferthwch ei llais. Dywedodd Giuseppe Verdi ei hun mai dyma’r gantores orau erioed. Roedd hi wrth ei bodd gyda’r sylw, y cyhoeddusrwydd, y gwisgoedd a’r cymdeithasu, yn enwedig felly ym Mharis. Ac yno y cyfarfu â’i gŵr cyntaf, a hithau yn ei hugeiniau cynnar. Roedd yr Ardalydd de Caux ddeunaw mlynedd yn hŷn na hi, ac yn gyn-filwr, wedi bod yn un o uchel-swyddogion Napoleon y Trydydd.

Cynnal partïon a gwledda oedd prif ddileit yr Ardalydd mewn bywyd, ac agorodd ddrysau i’w briod ifanc ddod i adnabod y mawrion a’r pwysigion ledled Ewrop. Priodwyd y ddau yn Llundain yn 1868, ond doedd hi ddim yn briodas hapus. Ceisiodd yr Ardalydd ei pherswadio i adael y llwyfan, a go brin bod hynny’n sail dda iawn i’w perthynas. Ar ben hynny, doedd yr un o’r ddau yn ffyddlon i’w gilydd, ac felly chwalodd y briodas mewn ysgariad chwerw iawn a gostiodd yn ddrud i Adelina gan iddi golli hanner ei ffortiwn.

Ernesto Nicolini (1834-1898) by August Weger (1823-1892)Ernesto Nicolini (1834-1898), gan August Weger (1823-1892)

Ond cyn iddi ysgaru, roedd hi eisoes mewn perthynas gyda dyn arall, Ernesto Nicolini, tenor o Ffrainc. Roedd Adelina wedi ei swyno ganddo, er ei fod yntau’n briod ar y pryd. Ond yn ddiddorol iawn, ni amharodd y sgandal o gwbwl ar yrfa Adelina Patti. Os rhywbeth, mynd o nerth i nerth wnaeth hi o ran ei bywyd proffesiynol.

Eto, cafodd y cyfan effaith annisgwyl arni mewn cyfeiriad arall. Roedd Adelina yn dechrau hiraethu am rywle i ddianc oddi wrth y goleuadau llachar. Rhywle lle y medrai hi a Nicolini fwynhau cwmni ei gilydd. Rhywle y medrai hi ei alw’n gartref. A hynny a’i denodd i Gwm Tawe.

Roedd Craig y Nos, tŷ helaeth yn ardal Penwyllt ar gyrion Bannau Brycheiniog, yn ddelfrydol. Daeth i wybod am y lle drwy ei ffrind, Syr Henry Hussey Vivian, yr aelod seneddol oedd yn byw yng Nghastell Nedd. Y pris a dalwyd oedd £3,500 a bu hi a Nicolini yn byw yno gyda’i gilydd am saith neu wyth mlynedd cyn priodi, oedd yn dipyn o sgandal yn yr oes honno.

Agorwyd y theatr yn swyddogol yn 1891, fel rhyw fath o gysegrfan i’r diva fyd-enwog, gyda lle i 150 o bobl eistedd, wedi ei haddurno gyda llenni glas drudfawr, enwau’r cyfansoddwyr enwocaf mewn aur uwchben y llwyfan, a murlun o Patti fel y cymeriad Semiramide allan o opera Rossini.

Craig y Nos
Craig y Nos, Powys

Ar ffurflen Cyfrifiad 1891, sef y flwyddyn yr agorwyd y theatr, disgrifir Nicolini fel un sy’n “living on his means” a gwyddom ei fod yn treulio’i amser yn pysgota ac yn saethu ac yn chwarae rhan bonheddwr ar ei stad. Yn y cyfamser, roedd Adelina yn gwario ffortiwn ar greu croeso i’w gwesteion. Talodd am agor ffordd newydd o’r castell i orsaf Penwyllt, a ail-enwyd yn orsaf Craig y Nos.

Does dim amheuaeth am bwysigrwydd Madam Patti i economi’r ardal. Ar wahân i gyflogi ymron i hanner cant o staff yn y castell, cynnyrch lleol fyddai’n cael ei ddefnyddio ar bob achlysur posib. Trefnodd ddwsinau o gyngherddau elusennol i godi arian at achosion da, a byddai’n gefnogol i ddigwyddiadau diwylliannol Cymraeg megis yr Eisteddfod Genedlaethol. Er enghraifft, bu’n canu “Hen Wlad fy Nhadau” o flaen torf o ddeuddeng mil o bobl yn Eisteddfod Aberhonddu ym 1889. Roedd y Cymry yn meddwl y byd ohoni.

Fel arfer, trol a cheffyl fyddai’n mynd â hi i’r orsaf, ac roedd ganddi ystafell aros breifat, gyfforddus iawn yn y fan honno. Roedd ganddi gerbyd preifat ar y trên, ac o ganlyniad, gallai deithio’r holl ffordd o Benwyllt i Lundain neu Lerpwl heb orfod gadel ei cherbyd ei hun. Ble bynnag yr âi hi yn Ewrop neu yn America roedd hi’n mynnu cael ei thrên ei hun, ac enw Craig y Nos wedi ei beintio ar yr ochr.

Bregus oedd iechyd Ernesto Nicolini yn y cyfnod hwn, a maes o law symudodd allan o’r tŷ i fyw yn Abertawe er mwyn bod yn nes at wynt y môr. Bu farw ym mis Ionawr 1898.

Adelina PattiAdelina Patti

Ond gyda marwolaeth Nicolini, daeth y bywyd moethus, gwastraffus i ben yn Nghraig y Nos.

Ymhen llai na blwyddyn, roedd Adelina wedi priodi unwaith eto, gyda dyn o Sweden y tro hwn, sef y Barwn Rolf Cederström, oedd ymron i 20 mlynedd yn iau na hi. Roedd Cederström yn gwbl wahanol i Nicolini, yn berson darbodus iawn a roes derfyn ar y gwario afradlon. Cwtogwyd y staff o 48 i 18. Erbyn hyn, roedd perfformiadau cyhoeddus Adelina yn mynd yn brinnach, a bu’r ymddangosiad proffesiynol olaf yn 1914 pan ganodd ar gyfer y Groes Goch yn Neuadd Albert. Perswadiodd Cederström hi i werthu Craig y Nos a symud i fyw i Sweden, ond gan na chafwyd prynwr, medrodd Adelina Patti aros yno hyd ei marwolaeth yn 76 oed. Ei dymuniad oedd cael ei chladdu yn yr un fynwent â Rossini yn Ffrainc, ac yno y mae ei bedd ym mynwent Père Lachaise. Yn eironig braidd, cafodd corff Rossini ei symud oddi yno i’r Eidal yn nes ymlaen.

Doedd dim cyfleusterau i recordio lleisiau cantorion yn y cyfnod pan oedd Patti yn anterth ei gyrfa, ond llwyddwyd i ddwyn perswâd arni i recordio nifer o ganeuon yn ei chartref yn 1905, a rhyddhawyd y record honno y flwyddyn ganlynol. Nid yw’r recordiad yn gwneud cyfiawnder â hi, er bod modd gwella’r ansawdd erbyn heddiw drwy dechnoleg ddigidol. Efallai mai’r gân a gysylltir fwyaf â’i henw yw “Home Sweet Home”, ac mae’n werth nodi iddi ei chanu yn y Tŷ Gwyn yn Washington yn arbennig i’r Arlywydd Lincoln yn 1862, flwyddyn union ar ôl dod i Lundain am y tro cyntaf. A dyma’r gân fyddai hi’n dewis ei chanu fel encore ar ddiwedd bob cyngerdd.

Adroddir stori amdani yn clywed ei llais ei hun am y tro cyntaf erioed, a dyma ei hymateb: "Ah! My God! Now I understand why I am Patti! Yes, what a voice! What an artist! I understand all!"

Does dim angen dweud rhagor.

Emlyn Davies, Medi 2016

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau hyn gan Emlyn Davies:

     Ynysyfelin: cymuned goll; Mawrth 2017
Laura Ashley; Rhagfyr 2016
Billy Hughes; Mehefin 2016

Coed y Bleiddiau; Mawrth 2016
Betsi Cadwaladr; Rhagfyr 2015
Syr Thomas Artemus Jones; Medi 2015

Y ddau gochyn; Mehefin 2015

cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan:
Caregos Cyf.,
2016

 

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create