Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Gwyddonwyr o Gymru: Elwyn Hughes

(September 01, 2016)

English

Dr Elwyn Hughes (1928-2015)

Elwyn Hughes

Ganed Richard Elwyn Hughes ar Hydref 18fed, 1928 ym mhentref Rhaeadr, Powys. Cafodd fagwraeth hollol Saesneg ar yr aelwyd; Saesneg oedd ei addysg gynradd yn ysgol y pentref ac uwchradd yn Ysgol Llandrindod, heblaw am wersi yn y Gymraeg yn ystod yr awr ginio; y rhain fu’n gyfrwng i’w droi’n Gymro Cymraeg pibyr am weddill ei oes. Aeth ymlaen i Brifysgol Caergrawnt (Coleg y Santes Catharine) i ddilyn cyrsiau yn y biowyddorau, yn dilyn gwrthodiad gan Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Wedi graddio treuliodd ychydig o amser yn y Llu Awyr (Swyddog Hedfan) yn Sain Tathan, Bro Morgannwg cyn dychwelyd i Gaergrawnt i orffen ei ymchwil ac ennill gradd Ph. D.

Maes o law, ar gefn cydnabyddiaeth o safon aruchel ei ymchwil dros amser ei yrfa, etholwyd ef yn Gymrawd y Gymdeithas Linneaidd a dyfarnwyd iddo Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd yntau a’i wraig Ceri yn awyddus i fyw yng Nghymru a felly cymerodd Elwyn swydd yn labordy’r Ysbyty Brenhinol yng Nghaerdydd ac wedyn i swydd darlithydd yn adran bioleg Coleg Technoleg Uwch Cymru sy erbyn hyn yn rhan o Brifysgol Caerdydd. Yma y gwnaeth ei waith ymchwil pwysig ar faetheg. Ymddeolodd yn gynnar yn 57 oed er mwyn canolbwyntio ar hynt y Gymraeg, yn benodol adeiladu casgliad sylweddol o lyfrau o bob maes ac ysgrifennu rhai llyfrau a llu o erthyglau yn crynhoi’i ddiddordebau.

 

L-ascorbic acid moleculemoleciwl L-asid ascobig

Fe gysylltir am byth ei enw gydag asid ascobig (fitamin C). Mae ei bentwr o bapurau mewn cylchgronau academaidd awdurdodol yn datrus sut mae y fitamin yn gweithio yn y corff dynol.

Onibai am erthyglau Elwyn a fyddem yn cofio heddiw am gyfraniad Edward Smith a wnaeth yr astudiaeth gyntaf o ymbortheg yn 1863? Cyfrannodd Elwyn yn helaeth at ein gwybodaeth am fwyd a maetheg; mae ei lyfr Dysgl Bren a Dysgl Arian yn drysor. Yn ddi-os Elwyn a’n harweiniodd i ddeall yn well y berthynas rhwng lluniaeth ac afiechyd, nid yn lleiaf mewn perthynas â siwgr.

Hwyrach y byddai rhai am dalu gwrogaeth i Elwyn am gyfraniad mawr arall, sef, dwyn i sylw’r byd gyfraniad creiddiol y Cymro Alfred Russel Wallace mewn perthynas â’r ddamcaniaeth esblygiad a gysylltir ran amlaf gyda Charles Darwin. Ychydig sy’n gwybod nac yn cofio bod y papur technegol cyntaf un am esblygiad yn bapur ar-y-cyd rhwng Darwin a Wallace. Mae llyfr gorchestol Elwyn, Y Gwyddonydd Anwyddonol, yn union’r cam a gafodd Wallace.

Camp arbennig arall oedd dawn Elwyn i osod astudiaethau gwyddonol mewn cyd-destun hanesyddol a diwylliannol. Mae ei lyfr Nid Am Un Harddwch Iaith yn glasur yn hyn o beth.

Ymboenai’n fawr am y Gymraeg mewn sawl maes, am ei lles a’i hansawdd, yn enwedig oddifewn i’r llwyddiannau addysgol, gwleidyddol a chymdeithasol a welodd yn ei oes.

Gwisgai ei ysgolheictod yn ysgafn, gan gelu treiddgarwch ei feddwl dan hiwmor cynnil, tawel, awgrymog.

Bu farw Dr Elwyn Hughes yng Nghaerdydd ar Dachwedd 30ain, 2015.

Neville Evans, Medi 2016

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau y rhain gan Dr Neville Evans:

Yn y gyfres Gwyddonwyr o Gymru

     Gareth Roberts; Mehefin 2016
Ezer Griffiths
; Mawrth 2016
Handel Davies; Rhagfyr 2015
Mathemategwyr; Medi 2015
Yr Athro Eleri Pryse; Mehefin 2015
William Robert Grove; Mawrth 2015

Frank Llewellyn-Jones; Rhagfyr 2014

Yr Athro Julie Williams; Medi 2014

Ieuan Maddock C.G.F.; Mehefin 2014

John Houghton C.G.F.; Mawrth 2014

David Brunt C.G.F.; Rhagfyr 2013

Yr Athro John Beynon; Medi 2013
John Meurig Thomas; Mehefin 2013

Yn y gyfres Scientists of Wales (Saesneg yn unig)

     Robert Recorde and William Jones; March 2013
Richard Tecwyn Williams, F.R.S; December 2012

Lyn Evans; September 2012
The rich science heritage of Wales - E G Bowen; June 2012
 
 
cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan:
Caregos Cyf., 2016

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create