Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Emlyn Davies; Laura Ashley (Cymraeg)

(December 01, 2016)

English

Y rhyfeddod o Ddowlais

Laura Mountney Ashley (1925–1985)

 

Laura Ashley - eistedd 

Wn i ddim faint o gyfraniad wnaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i lwyddiant masnachol cwmni Laura Ashley o safbwynt cyhoeddusrwydd, ond yn sicr roedd y gwisgoedd byd-enwog i’w gweld yn amlwg iawn ar lwyfannau’r Brifwyl a’r Ŵyl Gerdd Dant ynghanol saithdegau’r ganrif ddiwethaf. Nid peth anghyffredin oedd gweld y naill barti merched ar ôl y llall yn camu ymlaen i gystadlu wedi eu gwisgo yng nghynnyrch diweddaraf y ffatri ym mhentref Carno.

Roedd llwyddiant y fenter yn rhyfeddod, yn enwedig o ystyried mai dim ond ar hap a damwain y bu i’r gŵr a’r wraig ymsefydlu yng Nghanolbarth Cymru o gwbl. Pan ddeuthum i ar eu traws ddiwedd y chwedegau, a minnau’n gyw-athro yn Ysgol Uwchradd Y Drenewydd, buan y dysgais pa mor finiog y gallai brath tafod Bernard Ashley fod, ac yntau’n gyndyn iawn o weld ei blant yn gorfod “gwastraffu eu hamser” yn cael gwersi Cymraeg. Ond mae lle i gredu fod agwedd Laura tuag at yr iaith a’r diwylliant yn llawer mwy cefnogol.

Er nad oedd yn medru’r iaith ei hunan, cafodd ei chodi’n rhannol yn ei sŵn ym mhentref Dowlais, ger Merthyr. Roedd yn barod iawn i sôn am ei magwraeth yng nghapel Hebron, a berthynai i’r Bedyddwyr, lle roedd yr oedfaon yn Gymraeg, a hithau’n mwynhau clywed synau’r iaith yn golchi drosti er na ddeallai fawr ddim ohoni. Yn sicr, roedd yn trysori’r gwerthoedd a ddysgodd yno, ac yn barod iawn i ddatgan ei bod yn Gymraes i’r carn.

Er fod ei rhieni wedi ymgartrefu yn Llundain, roedd ei mam yn benderfynol mai yn ôl yng Nghymru y byddai ei phlentyn yn cael ei geni. Felly, ym mis Medi 1925 teithiodd o Croydon i gartref ei rhieni yn 31 Station Terrace, Dowlais Top, ac yno y ganed Laura. Bu’n mynychu’r ysgol leol am ychydig flynyddoedd, cyn dychwelyd i Croydon yn 1932.

Byrhoedlog iawn oedd yr ail-sefydlu yn Llundain oherwydd yr Ail Ryfel Byd, gan iddi gael ei hanfon yn ôl i Ddowlais yn dair-ar-ddeg oed, ond oherwydd niferoedd yr efaciwis yn yr ardal, doedd dim lle iddi hi yn yr ysgol leol ac felly cafodd ei hanfon i ysgol yn Aberdâr oedd yn arbenigo mewn hyfforddi ysgrifenyddesau. Gadawodd yr ysgol yn un ar bymtheg oed a symud yn ôl i Lundain, ac yno y cyfarfu â Bernard Ashley oedd yn filwr yn India ar y pryd, ond yn digwydd bod gartref ar ei wyliau.

Laura Ashley a Bernard
Laura a Bernard Ashley

 

Yn 1949 priododd y ddau, a Laura erbyn hynny’n ysgrifenyddes gyda Sefydliad y Merched, ac yn fuan roedd hi’n magu dau o blant yr un pryd, mewn fflat yn Cambridge Street, Pimlico.

Roedd hi wedi dechrau gwneud ychydig o waith cwiltio, gan fod ei mam-gu yn arbennig o dalentog yn y cyfeiriad hwnnw ac wedi meithrin ei wyres yn yr un grefft. Roedd y cyfnod o weithio i Sefydliad y Merched wedi hogi’r ddawn ymhellach. Dechreuodd gynllunio llieiniau sychu llestri a matiau bwrdd a manion eitemau o’r fath, ac ar ôl dod adre o’i waith yn y ddinas, byddai Bernard yn argraffu’r patrymau ar ddeunydd gyda pheiriant yr oedd ef ei hun wedi’i gynllunio. Fe warion nhw ddegpunt na allen nhw wir ei fforddio, yn prynu ffrâm sgrin er mwyn argraffu, yn ogystal ag ychydig o liw a deunyddiau.

Yna, ym 1958 fe aethon nhw ar wyliau i’r Eidal, a gweld mor ffasiynol oedd yr arfer i ferched ifanc reidio ar sgwteri Vespa gyda sgarffiau am eu pennau. Mae’n debyg mai’r prif ddylanwad oedd yr atgof am Audrey Hepburn yn y ffilm Roman Holiday gyda Gregory Peck. Cydiodd hyn yn nychymyg Laura, a sylweddolodd yn fuan fod marchnad i’r sgarffiau yn yr ynysoedd hyn. Adroddir stori amdani yn teithio ar fws i siop John Lewis yn Llundain gyda llond bocs o’r sgarffiau i’w gwerthu, ac yn cyrraedd adre i dderbyn galwad o’r siop yn dweud eu bod wedi gwerthu’r cyfan, a bod angen rhagor ar frys.

Audrey Hepburn a Gregory Peck, yn y ffilm Roman Holiday
Audrey Hepburn a Gregory Peck, yn Roman Holiday

Yn fuan iawn wedyn, a hwythau’n byw yng Nghaint bellach, daeth archebion enfawr am lieiniau sychu llestri o San Ffransisco, a rhaid oedd ehangu’r busnes, ond cafwyd llawer iawn o broblemau gyda’r banciau a gyda’r awdurdodau cynllunio, felly doedd dim amdani ond penderfynu symud. Ond i ble?

Yn ôl stori Laura ei hun, fe afaelodd Bernard mewn map, ac edrychodd i weld ble allai gyrraedd yn gyflym ar hyd traffordd yr M1. Heb fwy o reswm na hynny, plymiwyd am ganolbarth Cymru, ond nid cyn prynu tair pabell i fod yn gartref i’r teulu. Mewn blynyddoedd wedyn, byddai David, y mab hynaf, wrth ei fodd yn hel atgofion am y cyfnod hwn, pan oedd Bernard yn dal i weithio yn Llundain ac yn ymuno â nhw yn y pebyll i fwrw’r Sul, a’r trigolion lleol yn creu pob math o straeon am y berthynas a natur eu priodas. Maes o law, buddsoddwyd mewn tŷ oedd yn addas i’w droi’n siop ym Machynlleth, a chyflogwyd dwy wraig leol i’w cynorthwyo. Fel arfer, roedden nhw’n torri’r deunydd ar fwrdd y gegin, a Bernard yn argraffu yn y llofft. Doedd dim dodrefn ar gyfyl y tŷ, dim ond hen focsys orenau.

Wrth weld y busnes yn llwyddo agorwyd ffatri fechan ym mhentref Carno, bymtheg milltir i ffwrdd, yn yr hen orsaf reilffordd, a chynigwyd gwaith i nifer fawr o bobl leol. Roedd hyn i gyd yn digwydd ar yr union adeg pan oedd diboblogi’n nychu’r Gymru wledig, a’r canolbarth wir angen chwistrelliad o’r fath.

Roedd sawl peth yn gyffrous am y fenter newydd hon, megis y parodrwydd i benodi rhai cwbl ddibrofiad i gael eu hyfforddi i arfer crefftau newydd. Cyflogwyd ffermwyr oedd wedi arfer cneifio i dorri’r deunyddiau, a gwragedd fferm a phobl ifanc i weithio’r peiriannau. Erbyn 1963, roedd angen ymestyn ymhellach, ac enw Laura Ashley wedi crwydro ymhell. Does dim dwywaith nad oedd y ffatri’n lle hapus i weithio, a phawb yn adnabod ei gilydd yn dda. Os byddai rhai merched yn methu derbyn gwaith am eu bod yn magu teulu gartref, y drefn oedd y byddai Bernard yn gosod peiriant iddyn nhw yn y tŷ, a hwythau’n cysylltu i ddweud pan oedd y gwaith wedi ei orffen. Doedd dim pwysau. Roedd y cyfan yn waraidd ac yn gynnes.

Yn ôl tystiolaeth Jane Ashley, byddai Laura yn gofalu am y gwragedd fel mam yn gofalu am ei theulu. Os oedd problem gan rywun, byddai’n eu gwahodd i gael sgwrs – nid i’r swyddfa, - ond dros ginio ganol dydd yn y bwthyn lle roedd hi a Bernard a’r plant yn byw. Ac erbyn iddyn nhw gyrraedd hanner y ffordd drwy’r pryd bwyd byddai’r broblem wedi diflannu.

Dim ond un gŵyn oedd gan y gweithwyr mewn gwirionedd. Roedd Laura’n gwrthod yn lân a chaniatáu i’r cantîn yn y ffatri werthu sglodion ac roedd llawer yn anhapus am hynny. Mae’r ffaith bod hynny’n destun trafod yn adrodd cyfrolau am natur ardderchog y berthynas.

Erbyn 1968 roedden nhw’n gwerthu i dros 100 o siopau ar draws y byd, ac yn cynllunio a gwerthu ffrogiau yn ogystal ag eitemau fel sgarffiau a llieiniau sychu llestri. Dechreuwyd ystyried y byddai’n dda o beth i agor eu siop eu hunain yn Llundain, ond roedd yr ymgais gyntaf yn South Kensington yn drychineb llwyr. Doedd neb yn prynu nes i rywun awgrymu bod yn rhaid wrth ymgyrch hysbysebu helaeth. Gosodwyd cant o bosteri yng ngorsafoedd y trenau tan-ddaearol yn Llundain, ac o fewn diwrnodau roedd y siop yn ferw gwyllt. Ar adegau roedden nhw’n gorfod cloi’r drysau am ei bod yn rhy brysur.

Casgliad o gynnyrch Laura Ashley
Casgliad o gynnyrch Laura Ashley

Roedd Laura Ashley yn methu credu ei bod mor llwyddiannus yn gwneud rhywbeth yr oedd hi’n ei ystyried yn beth syml iawn, sef defnyddio hen batrymau Cymreig i wneud dillad. Ond ei chyfrinach fawr wrth gwrs oedd ei bod yn medru dylanwadu ar y chwiw ddiweddaraf ym myd ffasiwn. Doedd hi ddim yn wych fel cynllunydd, ond roedd hi’n adnabod chwaeth pobl, ac yn gwybod beth fyddai’n dod yn ffasiynol. Roedd ganddi weledigaeth gyda dilladau, papur wal, clustogau, cwiltiau, dodrefn, a deunydd o bob math. O dan y cyfan roedd yna dinc o hiraeth a chynhesrwydd. Roedd cynnyrch Laura Ashley yn gartrefol ac yn agos-atoch-chi. Hi ei hun oedd yr athrylith tawel, yn rhagweld y posibiliadau tra bod Bernard fel rhyferthwy wrth ei hochr, yn wyllt ar brydiau, ac yn hoffi bod yn geffyl blaen, ond heb lawn sylweddoli pa mor ddibynnol oedd y cyfan ar ddoniau ei wraig.

Yn y man, ymgartrefodd y ddau mewn plasty ym mhentref Rhaeadr, ac agorwyd ffatri yn yr Iseldiroedd a siopau dros y byd; roedden nhw’n hedfan yn eu hawyren breifat, yn mwynhau ffrwyth eu llafur, a phenderfynwyd symud i fyw i’r cyfandir am resymau trethiannol. Ond roedd yr ymrwymiad i Gymru yn parhau.

Yn 1985 agorwyd yr wythfed ffatri yng Nghymru, ac erbyn hyn roedden nhw wedi penderfynu rhoi’r cwmni ar y farchnad stoc. Daeth Laura yn ôl i Brydain i ddathlu ei phen-blwydd yn drigain oed, a thra roedd yn aros gyda’i merch Jane yn y Cotswolds cafodd ddamwain a bu farw o waedlif ar yr ymennydd. Yng Ngharno y bu’r angladd, ac yno y mae hi wedi’i chladdu.
  

Laura Ashley - siop Llanidloes
Siop Laura Ashley, Llanidloes

Mae enw Laura Ashley yn un sy’n hysbys dros y byd i gyd, ac er bod natur y cwmni wedi newid yn llwyr erbyn heddiw, mae yngan ei henw yn dal i ddwyn i gof y stori ryfeddol am lwyddiant y ferch o Ddowlais.

Emlyn Davies, Rhagfyr 2016

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau hyn gan Emlyn Davies:

     Ynysyfelin: cymuned goll; Mawrth 2017
Adelina Patti, Medi 2016
Billy Hughes
; Mehefin 2016

Coed y Bleiddiau; Mawrth 2016
Betsi Cadwaladr; Rhagfyr 2015
Syr Thomas Artemus Jones; Medi 2015

Y ddau gochyn; Mehefin 2015

cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan:
Caregos Cyf.,
2016

 

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create