Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Gwyddonwyr o Gymru: Ewart Ray Herbert Jones CGF

(December 01, 2016)

English

Yr Athro Ewart Ray Herbert Jones C.G.F.
16 Mawrth 1911 – 7 Mai 2002

ERH Jones

Ganed ef ym mhentref Rhostyllen, ger Wrecsam, sy mewn stribed gul o dir rhwng cloddiau Offa a Wat, enwau sy’n dwyn i gof hen ymrafaelion. O ystafell wely flaen ei dy edrychai ar brif reilffordd y GWR o Paddington i Benbedwc ar domen fawr pwll glo Bersham. Roedd y pentref yn mwynhau gwasanaeth tram trydan ac ar hwn y teithiai Ewart i Ysgol Gynradd y Bechgyn Fictoria yn Wrecsam o bump oed, yn dilyn cyfnod byr yn Ysgol y Babanod, Rhostyllen. Byddai ei dad hefyd yn defnyddio’r tram yn gyson, i’r graddau y byddai’r gyrrwr, pe na bai Mr Jones yn sefyll yn y man arferol, yn stopio’r tram wrth ei dŷ ac yn canu’r gloch yn disgwyl esboniad am ei absenoldeb. Dyna oedd gwasanaeth personal yn y dyddiau pell hynny!

O’r profiadau cynnar hyn o ddiwydiant, glo a reilffordd, magodd Ewart ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, yn enwedig sut roedd pethau’n gweithio ac o ble daeth sylweddau gwahanol, er enghraifft, y nwy a oleuai ei dŷ a strydoedd cyfagos. Hefyd taniwyd ei dddychymyg pan fentrai ef a bechgyn eraill, heb ganiatâd mae’n siwr, yn agos at beiriannau’r pwll glo, megis peiriannau pwmpio a’r cyfarpar weindio uwchben y siafft. Fel y mae’n nodi yn ei gofiannau, yn ei ddyddiau cynnar roedd prosesau technoleg yn hawdd i’w gweld yn y meddwl; dyma’r dyddiau cyn dyfod y ‘blwch du’ dirgel

Yn Ysgol Fictoria roedd pob dosbarth yn cynnwys oddeutu 50 o ddisgyblion, y mwyaf galluog yn eistedd ym mlaen y dosbarth. Roedd bron pob un o’r athrawon yn ferch hyd nes i ddynion ddychwelyd yn 1919 o’r Rhyfel Byd Cyntaf; yn hollol anarferol yn y dyddiau hynny roedd dwy o’r staff yn wragedd priod. Yn rhyfeddol iawn yn ysgolion cynradd y cyfnod, ffaith sy’n dal yn wir bron am ysgolion cynradd heddiw, roedd Fictoria yn meddu’n helaeth ar offer cemegol, a gai ei ddefnyddio, nid ei gadw fel eitemau amgueddfa. Felly, ac yntau’n 10 oed, byddai Ewart yn arsylwi arbrofion syml megis cynhyrchu diocsid carbon o sglodion marmor a deall ei fod yn troi dŵr calch yn llaethog, fel y byddai anadl ddynol. Gwelai hefyd gynhyrchu ocsigen o clorad potasiwm diocsid manganîs. Gyda’r fath brofiad cynnar doedd dim rhyfedd y byddai llwybr academig Ewart ym maes cemeg.

Bu ei lwyddiant yn yr arholiad 11+, er heb gyrraedd safon ennill ysgoloriaeth, yn fodd i Ewart fynd i Ysgol Sirol Bechgyn Grove Park Wrecsam yn 1922. Yn gyffredinol y sioc fwyaf iddo yn yr ysgol uwchradd oedd cael ei addysgu gan ddynion yn unig, y rhan fwyaf ohonynt wedi gwasanaethu yn y Rhyfel Mawr. Roedd y cysylltiadau milwrol yn amlwg iawn, gyda sawl athro yn cael ei nabod yn ol ei reng filwrol. Cyfoethogwyd yr addysgu gwyddoniaeth yn fawr gan y ddarpariaeth o labordai o gynllun da gyda digon o gyfarpar a hefyd darlithfa renciog. Yn ei flwyddyn olaf cyflwynodd Ewart ddarlith yn y lle hwn ar y testun Electronau a Phelydrau-X; dibynnai ei gyflwyniad ar offer a fenthyciwyd o gwmni gwyddoniaeth ac o’r ysbyty lleol. Roedd cemeg a ffiseg yn gryf yn yr ysgol ond dim sôn am fioleg; cyflwynwyd llysieueg yn Ysgol Merched Grove Park gerllaw.

Wedi iddo ennill ysgoloriaeth yn 18+ daeth Ewart yn fyfyriwr prifysgol ym Mangor, yn y pendraw yn dewis cemeg yn brif gwrs. Yn 1932 dyfarnwyd iddo radd anrhydedd dosbarth cyntaf ac yn 1933 ddiploma addysg, yr ail yn amlygu bwriad (neu insiwrans) i fynd yn athro ysgol. Ond gwahoddwyd ef i ddilyn ymchwil am gyfnod o ddwy flynedd ar gyflog o £100 y flwyddyn. Enillodd ei Ph.D. yn 1936 ac ymunodd â’r Athro I.M. Heilbron, C.G.F. ym Manceinion, er iddo gael sicrwydd lle yn Rhydychen. Dyma gychwyn partneriaeth broffesiynol a barodd am oes, gan fod yn gynhyrchiol iawn yn natblygiadau cemeg organig, y ddisgyblaeth o astudio deunyddiau ‘naturiol’, pob un yn cynnwys carbon mewn uniad gyda hydrogen. Gyda’i gilydd symudodd y ddau i Goleg Imperial yn Llundain o ble aeth Heilbron ar secondiad i waith rhyfel, gan adael Ewart, er yn ifanc, fwy neu lai yn gyfrifol am yr adran o 1941 i 1945. Oherwydd iechyd bregus ni fu modd i Ewart ddilyn gwaith ffurfiol militaraidd, ond bu’n ddygn yn y Gwasanaethau Adnabod Nwyon, yn benodol yn cynghori ar nwyon gwenwynig.

Pan ddaeth y rhyfel i ben dychwelodd nifer o wyddonwyr i’w swyddi, yn dilyn secondiad i wasanaeth rhyfel, a dechreuodd adrannau prifysgolion adfywio. Roedd yr amser yn briodol i Ewart geisio am swyddi arweinyddiaeth y tu alllan i Goleg Imperial ac yn annibynnol ar Heilbron. Yn 1947, ac yntau ond yn 36 oed, apwyntiwyd ef yn Athro Cemeg Organig ym Manceinion, swydd o barch uchel. Disgrifiodd un o’i gefnogwyr Ewart fel un ‘yn dddiamau un o’r dosbarth cyntaf sy’n datblygu’n gyson mewn statws’. Yn ei gyfrifoldeb newydd amlygodd ddawn anarferol yn arweinydd tîm, bob amser yn calonogi eraill i wneud marc; roedd y blynyddoedd yn ffrwythlon iawn Yn ogystal dangosodd ERH ei fod yn meddu ar ddoniau gweinyddwr, yn wybodus ynghylch arferion y brifysgol ac yn ymroddedig iddynt.

Reaction scheme of the Jones oxidation
Yr ocsideiddiad Jones

 

Gyda’r adran ym Manceinion mewn cyflwr da perswadiwyd ERH i dderbyn y sialens o adfywio Labordy Cemeg Dyson Perrins ym Mhrifysgol Rhydychen; dechreuodd yng Nghadair Waynflete yn Chwefror 1955. Nid bychan o her oedd hyn oherwydd cyflwr cyffredinol dlawd y labordai a felly hefyd y rhaglenni addysgu ac ymchwil. Arhosodd yn Rhydychen am weddill ei yrfa, yn ymddeol yn 1978. Rhoddodd wasanaeth di-flino o’i amser i hybu cemeg yn yrfa ac yn faes o ddiddordeb i’r cyhoedd. Gwasanaethodd ar nifer o bwyllgorau yn ymwneud â chemeg, yn cynghori sawl llywodraeth ac yn pwyso am gysylltiadau gwell rhwng cemeg acedamia a diwydiant. Daliodd nifer o swyddi aruchel, gan gynnwys bod y llywydd cyntaf i’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol. Yn ogystaf â’i raddau B.Sc. a Ph.D. gan Brifysgol Cymru derbyniodd nifer o wobrau anrhydeddus gan sawl sefydliad. Am ardderchowgrwydd ei waith academig etholwyd ef yn Gynrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1950 ac am ei wasanaeth gweinyddol a chyffrediol gwnaed ef yn farchog yn 1963.b

Gellir cael golwg ar natur ei waith academig trwy ddyfynnu o nodiadau a wnaeth o sgyrsiau gyda’r artist a beintiodd ei lun (tua 40 mlynedd yn ôl).

Yn ei hanfod mae bywyd yn gemeg organig ac yn bosibl oherwydd biliynau o gyfansoddion organig oddimewn i ni ac ymhobman yn y byd o bethau byw. Ceisiwn wybod beth ydynt, pam y maent yno a sut maent yn gweithredu ac yn cael eu gwneud. Mae glaswellt a gwymon yn wyrdd oherwydd cloroffil, sy’n amsugno goleuni ac yn galluogi planhigion i drawsnewid diocsid carbon o’r awyr yn ddeunyddiau adeiladu planhigion. Mae gwaed yn goch oherwydd haemoglobin sy’n amsugno ocsigen o’r awyr yn ein hysgyfaint ac yn ei ddosbarthu i bob rhan o’r corff dynol. Mae colesterol yn esiampl o’r hyn sy wedi denu fy mryd erioed, yn enwedig ei rôl mewn afiechyd y galon. Yn y dyddiau cynnar roedd yn cael ei nabod yn rhan o gerrig bustl ond yn ddiweddarach camfyddwyd ei bwysigrwydd mewn gwerthrediad meinwe nerfol yn enwedig yn yr ymenydd a llinyn y cefn. I mi roedd ymchwil i gynnyrch naturiol yn gyffrous o’r cychwyn, megis, darganfyddiad fitaminau A a D, tyfiant planhigyn mewn bresych, olew ym mhlisgyn leim a chwilio’r ffordd at cortison, steroid pwysig.

Neville Evans, Rhagfyr 2016

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau y rhain gan Dr Neville Evans:

Yn y gyfres Gwyddonwyr o Gymru

     Elwyn Hughes; Medi 2016
Gareth Roberts
; Mehefin 2016

Ezer Griffiths
; Mawrth 2016
Handel Davies; Rhagfyr 2015
Mathemategwyr; Medi 2015
Yr Athro Eleri Pryse; Mehefin 2015
William Robert Grove; Mawrth 2015

Frank Llewellyn-Jones; Rhagfyr 2014

Yr Athro Julie Williams; Medi 2014

Ieuan Maddock C.G.F.; Mehefin 2014

John Houghton C.G.F.; Mawrth 2014

David Brunt C.G.F.; Rhagfyr 2013

Yr Athro John Beynon; Medi 2013
John Meurig Thomas; Mehefin 2013

Yn y gyfres Scientists of Wales (Saesneg yn unig)

     Robert Recorde and William Jones; March 2013
Richard Tecwyn Williams, F.R.S; December 2012

Lyn Evans; September 2012
The rich science heritage of Wales - E G Bowen; June 2012
 
 
cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan:
Caregos Cyf., 2016
 

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create