Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Emlyn Davies; Canon William Evans (Cymraeg)

(September 01, 2017)

English

 Arwr Trychineb Dolgarrog
Canon William Evans (1894–1976)
 

Canon William Evans yn ifanc (Llun y teulu)
Canon William Evans ifanc
(llun y teulu)

Go brin y bydd llawer o ddarllenwyr y cylchgrawn hwn wedi clywed unrhyw sôn am y sawl sy’n cael ein sylw y tro hwn. Eto, mae’n haeddu ei le fel arwr a achubodd nifer o fywydau pan ddigwyddodd trychineb yn Nyffryn Conwy ymron i gan mlynedd yn ôl. Dyna pryd y torrodd argae Llyn Eigiau gan beri i filiynau o alwyni o ddŵr arllwys i lawr y mynydd i ganol pentref Dolgarrog islaw, gan ysgubo coed, cerrig anferth ac adeiladau i’r naill ochr, a hawlio bywydau deg o oedolion a chwech o blant.

Ciwrat ifanc oedd William Evans ar y pryd, yn enedigol o St. Anne’s, Bryn Eglwys, yn ardal Bethesda, ond wedi ymgartrefu yn Nolgarrog oherwydd ei waith ers dwy flynedd, ac ar noson y trychineb yn 1925 rhoddodd ei fywyd ei hun mewn perygl er mwyn achub nifer o’i gyd-bentrefwyr. Ac yntau’n ŵr tal, ymhell dros ei chwe troedfedd, safodd hyd at ei wddf ynghanol y dŵr am amser maith er mwyn arwain ei gymdogion i ddiogelwch, ac roedd ei gyfraniad yn allweddol i drefnu’r timau achub i chwilio am y rhai oedd ar goll.
    

Y briffordd yn Nolgarrog
Y briffordd yn Nolgarrog
delwedd: hawlfraint Gwasanaeth Archifau Conwy

Roedd William Evans mewn gwth o oedran erbyn i mi gael y fraint o’i adnabod, wedi i’m gwraig a minnau symud i fyw i Landegfan, Ynys Môn, a chael ein hunain y drws nesaf iddo ef a’i briod, Betty, sef ei ail wraig oedd wedi ei geni yn Seland Newydd ond y teulu yn hanu o Gymru. Yr argraff gyntaf a gefais ohono oedd ei fod yn ŵr cydnerth, talsyth, urddasol ei gerddediad er gwaethaf ei oedran. Siaradai’n bwyllog a thawel ac roedd rhyw addfwynder cynnes yn perthyn iddo, yn groes i’r disgwyl o ystyried ei faintioli. Roedd yn barod iawn ei sgwrs a’i atgofion, ond byth yn canu ei glodydd ei hun. Mae’n anodd meddwl am wron mwy hynaws na mwy diymhongar ei natur. Hyd at ei farwolaeth, chwe blynedd wedi i mi ddod i’w adnabod, anaml iawn y byddai’n cyfeirio at ei wrhydri yn Nolgarrog heb gael ei annog yn daer, a hyd yn oed wedyn roedd yn gyndyn iawn o gydnabod iddo gyflawni unrhyw gamp. “Digwydd bod yn ddigon tal i fedru sefyll yn y dŵr oeddwn i,” fyddai’r eglurhad anfoddog, “ac mi fyddai unrhyw un arall wedi gwneud yr un peth.” Ond mae’r dystiolaeth yn awgrymu fel arall.
   
 

Argae Llyn Eigiau
Argau Llyn Eigiau
delwedd: hawlfraint Gwasanaeth Archifau Conwy

Roedd dydd Llun, yr ail o Dachwedd ym 1925, yn ddiwrnod digalon o wlyb yn Nyffryn Conwy ar ôl dyddiau lawer o law di-baid. Yn nghysgod mynyddoedd y Carneddau uwchben y pentref safai cronfa Llyn Eigiau a fwriadwyd i gronni dŵr ar gyfer ei ollwng drwy’r pibelli i’r orsaf bŵer islaw, a honno’n cynhyrchu trydan yn bennaf ar gyfer y gwaith alwminiwm ar gyrion y pentref. Yno roedd y rhan fwyaf o’r trigolion yn ennill eu bywoliaeth. Dechreuwyd codi’r gronfa yn 1908, ond ychydig a wyddai’r pentrefwyr yn nechrau Tachwedd 1925 bod yr argae ar fin dymchwel i ryddhau miliynau o alwyni o ddŵr i orchuddio eu cartrefi.
    

Dydd yr Angladd William Evans ar y chwith gyda J.RJones a T
Dydd yr Angladd
William Evans ar y chwith gyda J R Jones a T H Williams
delwedd: hawlfraint Gwasanaeth Archifau Conwy

Y noson honno, roedd llawer o drigolion pentref Dolgarrog wedi mynd draw i’r neuadd leol i weld sinema deithiol, yn falch o unrhyw reswm i anghofio am ddiflastod y tywydd garw. Ond yna, yn sydyn, am chwarter i naw yr hwyr clywyd sŵn byddarol y tu allan wrth i ryferthwy’r dŵr ruo’i ffordd i lawr y ceunant cul i gyfeiriad y pentref. Roedd y rhai a fu’n gweld y sioe ddarluniau wythnosol yn hynod o ffodus gan fod y neuadd ar dir uchel, allan o gyrraedd y llif dychrynllyd, ond yn ddigon agos iddynt glywed ei sŵn a gweld ei effaith. 

Adroddiad papur newydd am William Evans. Hawlfraint Gwasanaeth Archifau ConwyAr y pryd, roedd William Evans wrthi’n mynd am dro o gwmpas y pentref cyn noswylio, a’i adwaith cyntaf oedd canu cloch yr eglwys i dynnu sylw pobl at y perygl, ond buan y sylweddolodd nad oedd hynny’n ddigon. Rhuthrodd allan i weld cartrefi’n cael eu hysgubo ymaith, anifeiliaid ar drugaredd y genlli, coed mawr yn cael eu golchi i ffwrdd a cherrig anferth yn rowlio i lawr tua gwaelod y dyffryn. Gwelodd deuluoedd yn sownd yng ngweddillion eu cartrefi, a safodd yn y tywyllwch ynghanol y llif er mwyn tywys plant ac oedolion i dir uwch. O fewn ychydig funudau, roedd y dyfroedd mwdlyd, swnllyd, wedi ysgubo sawl tŷ i ffwrdd yn stryd Rhes Machno, ac wedi dinistrio’r eglwys, neuadd yr eglwys a nifer o siopau. Dim ond y gwesty lleol, Porth Llwyd, a arbedwyd yn llwyr. Roedd hanner y rhai a foddwyd yn byw yn Rhes Machno.

Ynghanol y dychryn, y gweiddi a’r wylofain afreolus, sylweddolodd William Evans yn sydyn bod y rhaeadr oedd yn diasbedain o’i gwmpas yn bygwth amgylchynu’r ffowndri oedd yn rhan o’r gwaith alwminiwm, ac nad oedd amser i’w golli cyn rhuthro i achub y dynion oedd yn gaeth yno. Cafodd gymorth parod gan ŵr o’r enw James Hunter, a phrysurodd y ddau drwy’r afon i gyfeiriad y ffowndri gan ddringo i ben y to er mwyn dangos i’r gweithwyr sut y medrent ddianc.

Yn ystod y dyddiau a’r wythnosau wedi hynny, bu rhai o’r dynion hyn yn hael iawn eu canmoliaeth i William Evans, nid yn unig am ei waith yn ystod oriau’r trychineb, ond am ei ofal bugeiliol i’r teuluoedd oedd mewn galar, a’r rhai a gollodd eu heiddo a’u cartrefi. Ef a drefnodd yr angladdau, a bu’n allweddol ei gymorth i’r Prif Gwnstabl, Edward Thomas, wrth ddosbarthu’r arian a gyfrannwyd i’r teuluoedd. Daeth £1,000 yn rhodd gan y Daily Mail, a defnyddiwyd yr arian a gasglwyd o bell ac agos i ail gartrefu’r rhai oedd angen lloches.

Roedd adroddiad papur newydd ar y pryd yn dyfynnu un o’r gweithwyr a achubwyd o’r ffowndri yn dweud am William Evans: “Mae’n berson dyngarol, ac yn offeiriad tadol ei ofal. Dyw e ddim wedi gorffwyso fawr ddim ers y trychineb, ac rydym yn ei garu’n fawr.” 

Breached dam of Llyn Eigiau, image Rudi Winter
Argau Llyn Eigiau wedi ei fylchu
delwedd: Rudi Winter

 

Angladd rhai o'r pentrefwyr. Hawlfraint Gwasanaeth Archifau ConwyOnd beth felly a achosodd y trychineb yn Nolgarrog?

Pan aed ati i archwilio’r argae, buan y sylweddolwyd mai camgymeriadau dynol oedd yn gyfrifol am y gyflafan. Er bod argae Llyn Eigiau yn edrych yn gadarn i’r llygad, roedd y seiliau’n ddiffygiol. Dywed un adroddiad bod lympiau o goncrid heb gymysgu’n iawn o dan y rwbel, a bod gwendid sylfaenol yn y cynllun. Pan ddechreuwyd codi’r gronfa yn 1908, bwriadwyd i’r argae ei hun ymestyn ar draws y cwm, fel ei fod dros gilomedr o hyd. Efallai y byddai rhywun wedi disgwyl i’r cynllunwyr chwilio am y llecyn culaf i osod argae o’r fath, ond gweledigaeth wahanol oedd gan beirianwyr y Gorfforaeth Alwminiwm, a chawsant eu beirniadu’n hallt am eu camgymeriadau. Hyd yn oed yn ystod yr adeiladu, roedd sibrydion bod y prif-beiriannydd wedi gadael ei swydd am ei fod yn pryderu ynghylch ansawdd y gwaith, wrth i’r perchnogion fynnu torri corneli i arbed arian.

Oherwydd y glaw di-drugaredd ddiwedd Hydref 1925, roedd y gronfa’n orlawn, a dechreuodd orlifo nes bod pwysau’r dŵr yn ormod i’r argae bregus. Wrth i’r oriau fynd rhagddynt ar yr ail o Dachwedd, roedd cannoedd o alwyni yn llenwi gwely Afon Porth Llwyd a arweiniai i lawr y mynydd, i gyrraedd cronfa lai, sef Cronfa Coedty, nad oedd wedi ei bwriadu erioed i wrthsefyll cymaint o bwysau dŵr. Pan ddrylliwyd argae Llyn Eigiau uwchben, gan ryddhau’r miliynau o alwyni o ddŵr gwyllt, cynddeiriog, roedd hi’n anorfod y byddai Cronfa Coedty yn hollol annigonol i atal y rhyferthwy. Yn y diwedd, am chwarter i naw yr hwyr, chwalwyd argae Coedty gan sgubo ymaith ddarnau o bibelli, coed ac anifeiliaid a cherrig anferth a fu yn eu lle ers Oes y Rhew. Filltir islaw, doedd gan drigolion Dolgarrog ddim gobaith.

Llifogydd Dolgarrog
Llifogydd Dolgarrog
delwedd: hawlfraint Gwasanaeth Archifau Conwy

Chlywais i erioed mo William Evans yn condemnio’r rhai oedd yn gyfrifol am y llanast angheuol, ond roedd yn ymfalchïo bod deddf newydd wedi ei phasio o ganlyniad i drychineb Dolgarrog er mwyn sicrhau na fyddai hyn yn digwydd eto. Roedd Deddf (Darpariaethau Diogelwch) Cronfeydd Dŵr 1930 yn cydnabod bod llawer i’w ddysgu o ddigwyddiad Llyn Eigiau.

Gadawodd William Evans ardal Dolgarrog i fod yn ficer Bodedern, Ynys Môn, cyn symud i Lŷn ac wedyn i Lanbedr a Llandanwg. Yn 1957 fe'i penodwyd yn Ganon yng Nghadeirlan Bangor cyn iddo ymddeol ym 1970. Bu farw ym 1976, a chladdwyd ef ym mynwent Deneio, Pwllheli. 

 

Y pentrefwyr wedi'r trychineb
Y pentrefwyr wedi'r trychineb

Bob nos cyn noswylio, byddai Canon Evans, fel y byddem yn ei alw, yn mynd am dro o gwmpas yr ardd wrth y tŷ yn Llandegfan. Roedd hon yn ddefod nosweithiol. “Dw i’n mynd i inspectio’r grounds” oedd ei ymadrodd, a ninnau’n gwenu wrth feddwl mai dim ond maint hances boced oedd y tir o gwmpas y byngalo o’i gymharu â thiroedd helaeth mewn gwahanol reithordai yn ystod ei yrfa, ond roedd yr arferiad yn ymestyn yn ôl ymhell mewn amser. Yr arfer hwnnw a fu’n gyfrifol am achub cynifer o bobl ar yr ail o Dachwedd 1925.

Onibai i William Evans benderfynu mynd am dro ar y noson dyngedfennol honno, byddai pethau’n llawer gwaeth.

Emlyn Davies, Medi 2017

Am ragor o hanes Dolgarrog a’r trychineb, gweler y gwefannau canlynol:

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-34652969
http://www.dolgarrogcommunitycouncil.org/page7.html
https://en.wikipedia.org/wiki/Dolgarrog
http://player.bfi.org.uk/film/watch-nov-2nd-1925-the-dolgarrog-disaster-1925/
http://oldphotos.co.uk/dolgarrog.htm

Rydym hefyd yn ddiolchgar i Wasanaeth Archifau Conwy am ganiatáu i ni ddefnyddio rhai o’u lluniau ar gyfer yr erthygl hon. 

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau hyn gan Emlyn Davies:

     Robert Owen; Mehefin 2017
Ynysyfelin, cymuned goll
; Mawrth 2017
Laura Ashley
; Rhagfyr 2016
Adelina Patti
, Medi 2016
Billy Hughes
; Mehefin 2016

Coed y Bleiddiau; Mawrth 2016
Betsi Cadwaladr; Rhagfyr 2015
Syr Thomas Artemus Jones; Medi 2015
Y ddau gochyn; Mehefin 2015
 
cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan: Caregos Cyf., 2017
 

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create