Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Gwyddonwyr o Gymru: Yr Athro Sam Edwards

(September 01, 2017)

English

Yr Athro Samuel Frederick Edwards

Yr Athro Sam Edwards

Ar Orffennaf 12, 1994 cynhaliwyd seremoni yn Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe (ei enw ar y pryd), i gydnabod derbyniad personau disglair yn Gymrodyr Er Anrhydedd y Coleg; cyflwynwyd yr Athro Samuel Frederick Edwards gan yr Athro Colyn Grey Morgan. Ym mharagraffau agoriadol y cyflwyniad nododd Grey Morgan, ‘Mae ef yn ffisegydd damcaniaethol blaengar a chreadigol… Yn gynnar canfyddwyd ei ddoniau a galluoedd naturiol yno (Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Abertawe), gan osod seiliau i’r hyn sydd, gan arfarnu yn erbyn safonau uchaf posib, yn record cyrhaeddiant mwyaf disglair a chreadigol unrhyw Gymro neu, o ystyried, unrhyw berson y ganrif hon’.

Fe’i ganed ym Manselton, tua 4 milltir o ganol Abertawe ar Chwefror 1, 1928, yn fab i Richard a Mary Jane. Tan yn 8 oed bu’n ddigybl yn Ysgol Fabanod Manselton ac yna symudodd i Ysgol Iau Brynhyfryd, lle llwyddodd i ennill y ‘scholarship’ a’i galluogodd i fynd yn ddisgybl i Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Abertawe. Ar y pryd roedd yr awdurdod addysg lleol yn gweithredu polisi didoli hyd yn oed ymhlith y disgyblion a lwyddodd yn yr 11+. Roedd Ysgol ‘Swansea Gram’ ar y brig gyda dim ond 2% o’r grwp oedran. Yn fuan dangosodd Sam (dyna ei hoff ddewis o enw a gadwodd ar hyd ei ennill lle ym Mhrifysgol Caergrawnt, Coleg Gonville a Caius. Ar ddymuniad sefydlydd y coleg yn 1557 yngenir Caius fel y Saesneg KEYS.

Yn ôl cyfaddefiad Sam ei hun, roedd yn ffodus iddo bod arholiadau mynediad i Gargrawnt yn digwydd adeg Pasg 1945, hynny yw, cyn arholiadau Level – A ysgolion (Tystysgrif Uwch yn y dyddiau hynny). Bu hyn yn fodd iddo gymryd ei le heb wastraffu blwyddyn fel y bu yn hanes myfyrwyr eraill. Ar hyd ei oes roedd yn barod i sôn yn werthfawrogol o’i brofiad cynnar o grynhoad talent (fel roedd Swansea Gram) a’r ‘awyrgylch rhyfeddol o gystadleuaeth a chyrhaeddiad’ (llythyr preifat).

Yng Nghaergrawnt gorffennodd ei gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig yn ddisglair gan ennill graddau M.A. a Ph. D. yr ail am draethawd ar strwythur yr electron, traethawd a gwblhawyd pan oedd ef ym Mhrifysgol Havard yn yr UDA. Roedd bron yn anochel y byddai’n treulio cyfnod yn y Athrofa Astudiaethau Aruchel yn Princeton, sefydliad a oedd yn enwog am ddenu goreuon y byd, megis Albert Einstein.

Ar ei ddychweliad i’r DU yn 1953 derbyniodd swydd darlithydd ym Mhrifysgol Birmingham gan ymuno â’r ffisegydd nodedig Rudolf Peierls, yn ei adran ‘rhyfeddol’. Mae Sam yn dwyn i gof (International Journal of Modern Physics B, Vol. 6, 1563-1566), ‘…buom yn cydweithio ar fynegiad ffwythiannol ar ddamcaniaeth maes cwantum a chael hyd i ambell ddatrysiad syml, cywir’. Bu’r cyfnod hwn o ymchwil ffrwthlon yn fodd i hwyluso’r ffordd iddo dderbyn swydd Athro Ffiseg Ddamcaniaethol ym Mhrifysgol Manceinion yn 1958, ac yntau ond yn 30 oed, tipyn ifancach na’r oedran arferol i’r cyfryw swydd. Ym Manceinion dechreuodd ar astudiaethau o strwythur polymerau, maes y daeth yn enwog ynddo ac yn cael ei barchu hyd heddiw; deilliodd y diddordeb hwn o sgwrs gyda staff yn yr adran gemeg pan holodd Sam a oedd problemau y carent iddo roi sylw iddynt. Mi roedd y fath broblemau ac roedd ei ymateb yntau yn drawiadol.

Yn 1972 dychwelodd Sam i Gaergrawnt i gymryd Cadair John Humphrey Plummer mewn Ffiseg Ddamcaniaethol ac yn 1984, esgynnodd i’r swydd aruchel, ddigyffelyb – Athro Cavendish a Chyfarwyddwr Labordy Ffiseg Cavendish yng Nghaergrawnt. Ymhlith ei ragflaenwyr y mae rhai o ‘gewri’ ffiseg, megis, James Clerk Maxwell, J.J. Thomson ac Ernest Rutherford. Arhosodd Sam yn Nghaergrawnt am weddill ei yrfa, gan ymddeol yn ffurfiol yn1995, ond daliodd afael ar ystafell fach yn y Cavendish ac yno y parhodd gyda’i ymchwil ac i fod yn dra chynhyrchiol gyda chyoeddiadau ar ffiseg deunyddiau.

Mynegwyd eisoes bod Sam wedi dechrau ei ymchwil gyda gydag astudiaeth o strwythur yr electron, aelod penodol, gweddol syml yn yr oriel is-atomig, a gorffen gyda gweledigaeth treiddgar iawn i strwythur polymerau, sef, trefniannau cymhleth iawn o folecylau mawr o gemegion gwahanol. Gan ddyfynnu Colyn Grey Morgan eto o’i Anerchiad Cyflwyno, ‘… mae ef wedi rhoi o’I egni diflino mewn sbectrwm eang iawn o ddisgyblaethau… damcaniaeth maes cwantum, mecaneg ystadegol a thermodynameg, mecaneg hylifau, nodweddion electronig lled-dargludyddion… hwyrach mai mewn gwyddoniaeth polymerau y mae ei waith damcaniaethol diweddaraf a’i cymwysiad ymarferol mewn diwydiant wedi amlygu’r dylanwadau lletaf… gan fod amrywiaeth ryfeddol o ddeunyddiau wedi codi ohonynt, gan eu bod yn sail i gynifer o ddeunyddiau diwydiant a chartref, megis, powdrau, peintiau, plastigau a gwisgoedd personol…’.

Roedd i’w ddisgwyl, o ystyried galluoedd arbennig Sam, y byddai’n derbyn gwobrau a graddau er anrhydedd gan nifer o sefydliadau a phrifysgolion ar draws y byd. Oddifewn i wyddoniaeth cafwyd cydnabyddiaeth o’i ddisgleirdeb yn ei etholiad yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1966. Ond nid gŵr y tŵr ifori oedd Sam. Rhoddodd yn hael o’i amser a’i ddoethineb wrth wasanaethu ar lu o bwyllgorau, rhai ohonynt yn bwyllgorau ymgynghorol llywodraethau. Am y gwasanaeth hwn a llawer cyfraniad arall fe’i gwnaed yn farchog yn 1975.

Cariodd ei ysgolheictod yn ysgafn, gam amlygu cyfeillgarwch ac brwdfrydedd mewn sgwrs. Roedd yn wybodus am winoedd ac yn hoff iawn o fwyd a chelf.

Bu farw Sam ar Fai 7, 2015 yn 87 oed.

Ar nodyn personol, yn 1993 roeddwn yn casglu gwybodaeth gyda golwg ar lunio set o bosteri ar y thema Gwyddonwyr Cymru, i’w hanfon at bob ysgol a choleg yng Nghymru. I’r perwyl hwn anfonais lythyr at nifer o wyddonwyr yn egluro fy nghynllun. Derbyniais wahoddiad gan un ohonynt, Sam, i dreulio amser yn ei gwmni yn ei goleg, Caius, gan gynnwys llety dros nos a sgwrs yn ei ystafell yn Labordy Cavendish. Byddaf yn cofio am hir y sgwrsio difyr yn ei ystafell yn y Coleg, gyda’i stôr sylweddol o winoedd, ar y noson gyntaf yng nghwmni gwyddonwyr eraill o Gymru a oedd yno ar wahoddiad Sam. Yn dilyn aethom i oedfa yng Nghapel y Coleg, gan fwynhau canu arbennig y côr, cyn mynd am ginio gyda Sam a staff eraill wrth y Ford Uchel. Y bore nesaf ymunais ag ef yn ei stafell fach . Nodais fy syndod bod lle mor ddi-nod ganddo ac yntau yn dal swydd mor enwog. Eglurodd fod ganddo gynllun gyda golwg ar ei ymddeoliad ymhen dwy flynedd. Byddai’n gadael ei stafell ‘swyddogol’ ond yn dal ar y stafell ‘fach’, a byddai honno’n lleoliad ei gyfraniadau ymnchwil nesaf. Atgofion i’w trysori’n wir.

Neville Evans, Medi 2017

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau y rhain gan Dr Neville Evans:

Yn y gyfres Gwyddonwyr o Gymru

     Owen Thomas Jones; Mehefin 2017
Dyfrig Jones; Mawrth 2017
Ewart Ray Herbert Jones
; Rhagfyr 2016

Elwyn Hughes; Medi 2016
Gareth Roberts
; Mehefin 2016
Ezer Griffiths
; Mawrth 2016

Handel Davies; Rhagfyr 2015
Mathemategwyr; Medi 2015
Yr Athro Eleri Pryse; Mehefin 2015
William Robert Grove; Mawrth 2015
Frank Llewellyn-Jones; Rhagfyr 2014
Yr Athro Julie Williams; Medi 2014
Ieuan Maddock C.G.F.; Mehefin 2014
John Houghton C.G.F.; Mawrth 2014
David Brunt C.G.F.; Rhagfyr 2013
Yr Athro John Beynon; Medi 2013
John Meurig Thomas; Mehefin 2013

 Yn y gyfres Scientists of Wales (Saesneg yn unig)

     Robert Recorde and William Jones; March 2013
Richard Tecwyn Williams, F.R.S; December 2012

Lyn Evans; September 2012
The rich science heritage of Wales - E G Bowen; June 2012

 

cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan: Caregos Cyf., 2017

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create