Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Gwyddonwyr o Gymru: Yr Athro Colyn Grey Morgan

(March 01, 2018)

English

Yr Athro Colyn Grey Morgan

Bu’r Athro Colyn Grey Morgan yn ddisgybl mewn ysgolion cynradd lleol ym mhentref Garnant ac yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. Cafodd ddau brofiad gwyddonol gwefreiddiol, peryglus hyd yn oed, yn ei ysgol gynradd a gellid gweld hyn yn wreiddyn ei ddiddordeb mewn ffiseg, a flodeuodd dan ofal athro gwych yn yr ysgol ramadeg. Roedd ei ddiddordeb ymchwil yn y prosesau a nodweddai llif trydan mewn nwyon, gan gyrraedd uchafbwynt mewn gwaith arloesol gyda ‘laser’. Roedd yn ddylanwadol iawn yn sefydlu’r cyswllt cryf, sy’n parhau, rhwng adran ffiseg Prifysgol Abertawe a CERN yn y Swisdir, cartref y Gwrthdrawydd Hadron Mawr.

 

Colyn Grey Morgan, yn 2010
Colyn Grey Morgan, yn 2010

Ganed ef ar Fawrth 29ain, 1925 ym Mhontypridd, Sir Forgannwg, sydd rhyw 10 milltir i’r gogledd o Gaerdydd. Ar ôl ychydig o flynyddoedd symudodd ei deulu tua 50 milltir i’r gorllewin o Gaerdydd i bentref Garnant, nid nepell o dref Rhydaman. Treuliodd ei addysg gynradd rhwng 6 ac 11 oed, yn dilyn cyfnod byr yn yr ysgol fabanod leol, yn Ysgol y Cyngor, Garnant sy nawr yn arddel yr enw Ysgol Y Garnant. Mewn atgof a gyflwynodd i gyhoeddiad yn 1991 i nodi penblwydd 75 ers dechrau’r ysgol mae Colyn yn nodi bod yr ysgol yn ‘lle hapus, croesawgar a gofalgar’. Mae hefyd yn cofio profiadau ‘brawychus’, megis cael ei brofi ‘mewn darllen ar goedd yn uchel a thablau lluosi o flaen y dosbarth ac ymweliad Nyrs yr Ysgol’.

Ar ochr y cwricwlwm mae’n cofio dau achlysur yn rhai difyr. Yn gyntaf, ymweliad gan ‘ddynes sylweddol ganol-oed’ a geisiodd ddwyn perswâd ar y disgyblion i fod yn wyliadwrus rhag peryglon yfed llaeth nad oedd wedi’i drin a drygioni alcohol; eglurwyd yr olaf trwy roi fflam i soser yn llawn o wirod methyl, gan beri i beth o’r sylwedd orlifo ar lawr pren yr ystafell a bron peri i’r dosbarth fynd ar dân. Yr ail brofiad bythgofiadwy oedd cynnig gan ddarpar-athro i greu gwydr o dywod gyda llosgydd bunsen. ‘Roedd ei stranciau wrth geisio defnyddio tiwb rwber i gysylltu’r bunsen â phibell ar y lampau-nwy uwch i fyny yn gynnig cwbl haeddiannol o gamp Frank Spencer yn y gyfres deledu’. Ymhen blynyddoedd daeth Colyn yn frawd-yng-nghyfraith i’r stiwdent. A ydyw’n gredadwy bod y ddau brofiad cynnar hyn wedi gosod Colyn ar yrfa i anelu am ddisgyblaeth a ddilynai chwilfrydedd trwy arbrofion gwefreiddiol a pheryglus?

Yn dilyn Y Garnant daeth yr her nesaf mewn addysg gyffredinol yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman. Yn benodol plannwyd yr hedyn gwyddonol yn ddiogel a’i fagu’n gynnes, yn enwedig gan ei athro ffiseg, Mr John Andrew Owen, ‘... symbylodd ef fy niddordeb mewn ffiseg. Roedd yn nodedig o drylwyr a chlir – heddiw rwyn tybio y byddai wedi ennill Cadair, dyna fesur ei galibr’. Daw’r dyfyniad hwn o lythyr, dyddiedig 26 Ionawr 1993, a ges gan Colyn.

Mewn atgof arall mae Colyn yn cofio bod mewn sesiwn ffiseg arbrofol yn yr ysgol pan ddefnyddiodd sbectromedr (math o feicroscop i nabod lliwiau gwahanol yn y sbectrwm). Roedd ganddo ddiddordeb arbennig yn y golau melyn a welid mewn tiwb gwydr yn cynnwys anwedd sodiwm pan gysylltid dau electrod yn y tiwb â therfynellau batri; mae’r trefniant hwn yn debyg i’r un sy’n goleuo lampau stryd. Cynigiai Mr Owen yr esboniad cyfarwydd bod y golau yn dilyn gwrthdrawiad rhwng electronau ac atomau sodiwm i greu mwy o electronau i gynnal y llif (cerrynt) ar hyd y tiwb. Holodd Colyn: O ble daeth yr electron cyntaf? Er mawr syndod iddo ni allai Mr Owen ateb! Arhosodd y profiad hwn gyda Colyn ar hyd ei yrfa, gan gyfeirio ei ddewis o destun ymchwil – pwysigrwydd dilyn yr electron sengl (neu ronyn arall), y digwyddiad cychwynnol. Gyda llaw mae Mr Owen yn haeddu clod mawr fel athro yn cyffesu anwybodaeth; gallasai fod wedi gwrthod ei ddisgybl chwilfrydig gyda rhyw ddatganiad ffansïol, di-sail.

O’r ysgol ramadeg aeth i Abertawe i Goleg Prifysgol Cymru, fel yr oedd ar y pryd, i ddilyn cwrs is-raddedig mewn peirianneg trydanol; ar ôl tair blynedd enillodd radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Yn dilyn hyn daeth cyfnod o Wasanaeth Gwladol pan fu’n gweithio ar offer radar, yn benodol ar lif trydanol anystywallt (gwreichion) a achosodd i’r offer fethu yn aml.

Yn 1948, wrth ddychwelyd i’r brifysgol i ddilyn ymchwil ôl-radd mewn peirianneg, cafodd ei hyn yn ddamweiniol mewn sgwrs gyda Frank Llewellyn-Jones oedd ar staff yr adran ffiseg gerllaw. Mae FLl-J yn wrthrych ysgrif flaenorol yn y gyfres hon am Wyddonwyr Cymru. Un canlyniad i’r sgwrs oedd gwahoddiad i Colyn fynd yn fyfyriwr ymchwil dan gyfarwyddyd FLl-J. Ffocws yr ymchwil oedd hoelio sylw ar electonau sengl, hynny yw, i gael hyd i un electron, nid cerrynt ohonynt. ‘Yn ddigon rhyfedd ers hynny rwyf wastad wedi bod yn ymweud â chwilio am atomau sengl, gronynnau niwclear ac is-niwclear, boed y rheiny yn brotonau, niwtronau, mesonau, cwarcau at ati’ (llythyr Ionawr 26, 1993). Yn dilyn ennill ei ddoethuriaeth cafodd Colyn wobr gwbl haeddiannol ar ffurf Cymrodoriaeth Ymchwil y Gymdeithas Frenhinol a’i galluogodd i aros yn Abertawe i barhau’n gymrawd ôl-ddoethuriaeth, eto’n gweithio’n agos gyda FLl-J.

Yn 1956 daeth newid gyrfa a lleoliad gwaith pan ymunodd â grwp ymchwilio ymasiad yn sefydliad Yr Awdurdod Egni Atomig yn Harwell. Ar y pryd roedd cryn ddiddordeb ymchwil a disgwyl gwleidyddol yn y posibilrwydd o greu pŵer trydanol (ar gyfer diwydiant a chartrefi) trwy ymasiad niwclear. Proses yw ymasiad sy’n disgrifio sefyllfa rheoledig ble mae atomau yn dod at ei gilydd, gan ryddhau egni, o’i chymharu â’r broses o ymholltiad, ble mae atomau heb reolaeth yn y gwahanu afreolus, fel a welwyd ychydig dros 10 mlynedd ynghynt ar ffurf bom atomig. Hyd yn hyn, ni wireddwyd y freuddwyd o egni digonol, di-ddiwedd yn dilyn ymasiad. Y broblem sylfaenol yw caethiwo a rheoli’r gwrthdrawiad rhwng gronynnau. Mae wedi bod yn fater o ryfeddod pam mae pobl ddysgedig, yn enwedig gwyddonwyr, yn gwneud rhagfynegiadau chwyddedig am y pethau da fydd yn dod o ymchwil a datblygiad mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Hwyrach y dylent hidio doethineb Niels Bohr (‘tad’ ffiseg fodern yn yr 20fed ganrif) i’r perwyl bod darogan bob amser yn broblematig, yn enwedig os yw’n ymwneud â’r dyfodol.

Nid oedd rhagweld hir-dymor yn dal i weithio mewn ymchwil ymasiad niwclear at ddant Colyn, felly gyda thon o ryddhad clywodd iddo gael ei dderbyn yn ddarlithydd ffiseg yn Abertawe; dechreuodd yn y swydd dechrau Medi 1960. Arhosodd yn yr adran tan ei ymddeoliad yn 1992, gan ddod yn Athro a Phennaeth Adran.

Erbyn 1960 roedd yr adran ffiseg yn Abertawe wedi hen ennill ei phlwyf yn ganolfan gydnabyddedig am wychder ymchwil dan Frank Llewellyn-Jones. Prif ffocws yr ymchwil oedd llif trydanol mewn nwyon, hynny yw, y llif o ronynnau gwefredig, positif a negatif, rhwyn dau electrod mewn cynhwysydd gwydr. Pan gysylltid yr electrodau at ffynhonell foltedd uchel byddai’r gwefrau yn llifo i gyfeiriadau croes i’w gilydd i ffurfio cerrynt (ar brydiau yn wreichionen er nad hynny oedd y bwriad).

Bu brwdfrydedd Colyn am ymchwil ynghyd â dull sgwrsio ymosodol, yn cyd-redeg â hynawsedd cydymdeimladol yn ei wneud yn arweinydd grŵp effeithiol. Agwedd nodedig yn ei waith oedd arloesi’r defnydd o belydrau ‘laser’ pwerus i gynnau adweithiau ymasiad; gwnaeth hyn mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr mewn prifysgolion eraill ac yn Labordy Rutherford Appleton, ger Harwell. Sefydlwyd cyfleuster newydd yn LRA, gyda Colyn yn Gadeirydd ei Bwyllgor Rheolaeth. Datblygodd agwedd arall ar ei frwdfrydedd o’i amser yn 1965 yn Wyddonydd Ymweld yn CERN, y ganolfan Ewropeaidd enwog yn y Swistir i hybu ymchwil niwclear. Blodeuodd y cyswllt cynnar hwn rhwng CERN ac Abertawe i fod yn llif o raddedigion ar gytundebau amser-llawn a rhan-amser. Hwyrach y mwyaf enwog o’r rhain yw Dr Lyn Evans, oedd ar un adeg yn Gyfarwyddwr y Prosiect Gwrthdrawydd Hadron Mawr.

Ceir arwydd o’r parch uchel a gysylltid ag enw Colyn yn y DU a thramor yn y dyfyniadau canlynol o’r deyrnged a gyflwynwyd yn ei angledd (17 Tachwedd 2017) gan y Parchedig Ddr Noel Davies, a oedd yn weinidog ar y capel yn Abertawe lle bu Colyn a’i wraig Menna yn addoli dros lawer o flynyddoedd.

Roedd ganddo feddwl miniog, hiwmor amlwg a chalon lawn ...’ (Yr Athro David Llewelyn-Jones, mab Frank)

... person mawr, ffrind triw iawn ... gyda gwybodaeth ddofn a phrofiad ..’ (yr Athro Yosr EzzEl Din Gamal, Prifysgol Cairo)

Roedd pawb yn ei garu ... Roedd yn un o sefydlwyr arloesol y Cyfleuster Laser Canolog ...’(Yr Athro J.Ll. Collier, Labordy Rutherford Appleton)

Roedd yn llawn sêl a lwyddodd i ysbrydoli myfyrwyr gyda’i egni anesmwyth a’i bersonoliaeth gynnes ..’ (Dr Mike Price, CERN)

...mor ysbrydoledig, caredig a chynorthwyol .. gŵr o wybodaeth eang ond serch hynny yn un digri, gostyngedig a pharod ei gymorth’ (Yr Athro Lee Sing, Prifysgol Kuala Lumpur)

... bydd cofio amdano orau yn gymeriad go iawn, yn bersonoliaeth ac yn wirioneddol ysbrydoledig ac i mi yn fentor a ysgogodd fy niddordeb a hyder mewn ffiseg ...’ (Dr Dewi Lewis, CERN)

Roedd Colyn yn hoffi cwmni, bob amser yn barod i annerch cynulleidfaoedd amrywiol am ffiseg, boed yn ddarlith mewn cynhadledd bwysig, megis Y Gymdeithas Brydeinig er Hyrwyddo Gwyddoniaeth, neu yn sgwrs mewn cyfarfodydd cymdeithasau trafod lleol.

Yn dilyn gyrfa hynod o brysur a blynyddoedd bron cyn brysured ym mlynyddoedd cynnar ei ymddeoliad, aeth Colyn a Menna o Abertawe i fyw yn Little Chalfort, Amersham i fod yn nes at eu mab a’i deulu.

Bu fawr yn heddychlon ar 28ain Hydref 2017. 

Neville Evans, Mawrth 2018

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau y rhain gan Dr Neville Evans:

Yn y gyfres Gwyddonwyr o Gymru

     Yr Athro Meirion Wyn Roberts; Rhagfyr 2017
Yr Athro Sam Edwards; Medi 2017
Owen Thomas Jones; Mehefin 2017
Dyfrig Jones; Mawrth 2017
Ewart Ray Herbert Jones
; Rhagfyr 2016

Elwyn Hughes; Medi 2016
Gareth Roberts
; Mehefin 2016
Ezer Griffiths
; Mawrth 2016

Handel Davies; Rhagfyr 2015
Mathemategwyr; Medi 2015
Yr Athro Eleri Pryse; Mehefin 2015
William Robert Grove; Mawrth 2015
Frank Llewellyn-Jones; Rhagfyr 2014
Yr Athro Julie Williams; Medi 2014
Ieuan Maddock C.G.F.; Mehefin 2014
John Houghton C.G.F.; Mawrth 2014
David Brunt C.G.F.; Rhagfyr 2013
Yr Athro John Beynon; Medi 2013
John Meurig Thomas; Mehefin 2013

 Yn y gyfres Scientists of Wales (Saesneg yn unig)

     Robert Recorde and William Jones; March 2013
Richard Tecwyn Williams, F.R.S; December 2012

Lyn Evans; September 2012
The rich science heritage of Wales - E G Bowen; June 2012

 

cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan: Caregos Cyf., 2018
 

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create