Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Emlyn Davies - Yr enaid aflonydd; W. J. Gruffydd (1881-1954)

(March 01, 2018)

English

Yr Enaid Aflonydd
W. J. Gruffydd (1881-1954)

W J Gruffydd - portread
W. J. Gruffydd

A ninnau’n edrych ymlaen at ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Chaerdydd eleni, mae’n naturiol ein bod ni hefyd yn hel atgofion am rai o eisteddfodau’r gorffennol yn y Brifddinas. Roedd Eisteddfod 1938 yn nodedig am sawl rheswm, gan gynnwys ymweliad gan fachgen ifanc un ar hugain oed o’r enw John F. Kennedy, a ddaeth yno yn gwmni i’w dad, Joseph Patrick Kennedy, Llysgennad America yng ngwledydd Prydain. Wyddom ni ddim pa argraff a wnaeth yr ymweliad ar y darpar Arlywydd, ond yn sicr siaradodd y tad yn gynnes iawn am y profiad gan ddweud mai’r cyngerdd gan Gôr y Plant oedd un o’r nosweithiau mwyaf gwefreiddiol a brofodd tra ym Mhrydain.

John F. Kennedy, yn 1961
John F. Kennedy, yn 1961

Roedd yr eisteddfod hon yn garreg filltir nodedig yn hanes y Brifwyl am nifer o resymau, yn enwedig felly o ran Cymreigio’r sefydliad, ac os bu un gŵr yn allweddol yn y gwaith, yna gellir dweud mai’r ysgolhaig, y llenor, y bardd a’r beirniad W. J. Gruffydd oedd hwnnw. Yn frodor o bentref Bethel, ger Caernarfon, roedd William John Gruffydd wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd ers 1906, pan benodwyd ef yn ddarlithydd yn yr Adran Gelteg yng Ngholeg y Brifysgol, ac erbyn 1918 ef oedd Athro’r Adran Gymraeg. Tra’n fyfyriwr yn Rhydychen, Llenyddiaeth Saesneg a’r Clasuron oedd maes ei astudiaeth, ond roedd wedi ymserchu hefyd mewn llenyddiaeth Gymraeg. Yn 1922, penodwyd ef i swydd ran amser fel golygydd Y Llenor, y cylchgrawn chwarterol dylanwadol oedd yn ymdrin â phynciau llenyddol, ysgolheigaidd a gwleidyddol. Byddai beirdd a llenorion Cymraeg amlycaf y cyfnod yn cyfrannu’n rheolaidd i’r cylchgrawn.Y Llenor

Go brin y byddai unrhyw un yn gwadu bod Y Llenor wedi bod yn un o ddatblygiadau mwyaf cyffrous hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif yn hanes yr iaith Gymraeg. Diwallodd angen dybryd ar y pryd i ehangu gorwelion llenyddiaeth Gymraeg a chynnig rhywbeth newydd, egnïol. Roedd yn cynnwys cerddi, adolygiadau, dramâu, ysgrifau coffa, a beirniadaeth lenyddol. Byddai Gruffydd yn defnyddio’r Nodiadau Golygyddol i wneud sylw ar rai o bynciau llosg y dydd yng Nghymru, a hynny’n aml iawn yn cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bu Gruffydd yn brwydro ers amser maith dros gael eisteddfod uniaith Gymraeg, ac yng Nghaerdydd yn 1938 y daethpwyd agosaf ers blynyddoedd at wireddu’r ddelfryd honno. Nid bod y nod wedi ei gyrraedd o bell ffordd, ond o leiaf roedd yr eisteddfod ar y trywydd hwnnw. Y Gymraeg oedd iaith y cystadlaethau llenyddol i gyd, a deddfwyd mai dim ond unigolion oedd yn byw yng Nghymru neu’n ymwneud yn uniongyrchol â bywyd y genedl, a fyddai’n cael llywyddu yn yr eisteddfod. Yn ôl y Prifardd Alan Llwyd yn ei gyfrol feistrolgar Y Gaer Fechan Olaf, cafwyd areithiau Cymraeg gan bobl fel O. C. Purnell, Arglwydd Faer Caerdydd, ac Arglwydd Dumfries, mab Ardalydd Bute, er bod yno hefyd nifer o rai di-Gymraeg yn llywyddu. Methodd Lloyd George a chadw’i gyhoeddiad ar ddiwrnod y cadeirio, a gofynnwyd i W. J. Gruffydd lanw’r bwlch. Gwnaeth yntau hynny gyda thân yn ei fol wrth gyfeirio droeon at losgi’r Ysgol Fomio ym Mhenyberth, a chafodd gymeradwyaeth fyddarol.

Yn yr un Eisteddfod, bu trafodaeth frwd am y syniad o gyhoeddi Bywgraffiadur Cymreig, a chafwyd dadl danbaid ymhlith aelodau Cymdeithas y Cymrodorion ynglŷn ag iaith y geiriadur bywgraffyddol, gyda llawer o’r hoelion wyth o fewn y gymdeithas yn ffafrio’r Saesneg. Cafwyd araith rymus gan W. J. Gruffydd o blaid cyhoeddi yn yr iaith Gymraeg, a phan ymddangosodd y cyhoeddiad bymtheng mlynedd yn ddiweddarach, yn Gymraeg y bu hynny, a dim ond wedyn y cafwyd addasiad Saesneg.

Roedd ei ymgyrch dros eisteddfod uniaith Gymraeg wedi gwneud llu o elynion iddo, a chafodd ei gyhuddo unwaith o “grotesque racial hatred” gan neb llai na Syr T. Marchant Williams, Ysgrifennydd Cymdeithas yr Eisteddfod ar y pryd. Ond roedd Gruffydd yn gwbl ddi-gyfaddawd ar y pwnc: “Mae’r eisteddfod fel aelwyd i mi, ac rwy’n benderfynol o’i gwneud yn brif Ŵyl y genedl. Mae’n rhaid i ni fod yn llai taeogaidd, ac ychydig yn fwy penboeth.”

Hyd at ddechrau pedwar degau’r ganrif ddiwethaf, roedd Gruffydd yn un o’r ffigurau cyhoeddus mwyaf dylanwadol yng Nghymru, yn ŵr uchel iawn ei barch fel bardd, ysgolhaig a beirniad llenyddol, a gwnaeth gyfraniad pwysig hefyd ym myd addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n werth cofio mai ef oedd y darlithydd cyntaf un drwy Brifysgol Cymru i ddarlithio drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn cyfnod pan oedd Syr Ifor Williams a Syr John Morris-Jones yn darlithio yn Saesneg. Roedd yn genedlaetholwr rhamantus o ran ei wleidyddiaeth, wedi dod dan ddylanwad O. M. Edwards a’i syniadau sentimental am y werin ddysgedig.

Pan losgwyd adeiladau’r Ysgol Fomio yn Llŷn ym mis Medi 1936, roedd W. J. Gruffydd yn amlwg iawn ei gefnogaeth i’r tri a fu’n gyfrifol am y weithred, sef Saunders Lewis, Lewis Valentine a D. J. Williams, “tri arwr Penyberth” fel y’u gelwid gan eu cefnogwyr ar y pryd. Roedd ei safiad ar eu rhan yn bluen nodedig yn het Plaid Cymru, a daeth Y Llenor yn offeryn effeithiol i gefnogi achos y cenedlaetholwyr.

Llosgi'r Ysgol Fomio - The Burning of the Bombing School, image Alan Fryer
Cofeb y Tri ym Mhenyberth
Delwedd: Alan Fryer

Ond roedd Gruffydd wedi dechrau magu amheuon mawr am dueddiadau gwleidyddol Saunders Lewis. Roedd yn ffieiddio at ei genedlaetholdeb bendefigaidd, a’i Gatholigiaeth angerddol. Roedd yn poeni y gallai Plaid Cymru wyro’n ormodol tuag at dueddiadau Ffasgaidd, a chredai hefyd bod Pabyddiaeth Saunders Lewis yn ddylanwad afiach ar Gymru. O ran ei wleidyddiaeth ei hun, roedd Gruffydd fel petai yn dychwelyd at wreiddiau Rhyddfrydol ei febyd, ac achosodd hynny gryn rwyg rhyngddo ef a rhai o’i gyfeillion ym Mhlaid Cymru, gan iddo fod yn is-lywydd y Blaid. Yng ngeiriau’r Dr T. Robin Chapman, “I Gruffydd, roedd gwerthoedd Saunders Lewis yn dreuliedig ac adweithiol.”

Canlyniad yr anesmwythyd hwn ar ran Gruffydd oedd iddo benderfynu sefyll fel ymgeisydd ar ran y Rhyddfrydwyr yn yr isetholiad am sedd Prifysgol Cymru yn y Senedd wedi ymddiswyddiad Ernest Evans yn 1943, pan gafodd ei benodi’n farnwr. Daeth yr ornest hon yn rhan o chwedloniaeth Cymru oherwydd ei chwerwedd gan mai ymgeisydd Plaid Cymru oedd Saunders Lewis. Tri ymgeisydd arall oedd yn y ras, sef Alun Talfan Davies fel Annibynnwr, a dau Sosialydd Annibynnol, Evan Davies a Neville Evans. Gwelid W. J Gruffydd fel cynrychiolydd y glymblaid answyddogol i wrthwynebu Saunders Lewis, a’r canlyniad oedd buddugoliaeth ysgubol iddo gyda 3098 o bleidleisiau o gymharu â’r 1330 a fwriwyd o blaid y cenedlaetholwr. Cadwodd ei sedd tan 1950, pan gafodd seddau’r prifysgolion eu diddymu.

Roedd nifer fawr o gefnogwyr Plaid Cymru yn gandryll gyda W. J. Gruffydd am feiddio sefyll yn erbyn Saunders Lewis, ac am droi ei gôt i ymuno â’r Rhyddfrydwyr. Dros y blynyddoedd nesaf, cafodd ei drin fel ysgymunbeth gan bobl a fu, cyn hyn, yn gyfeillion iddo. Ystyrid ef yn fradwr, a phenderfynodd sawl un ddial arno oherwydd ei safbwynt. Un canlyniad oedd bod llawer o gyfranwyr selog Y Llenor wedi penderfynu gwrthod caniatáu i’w gwaith gael ei gyhoeddi, a bu hynny’n ergyd drom. Llusgo byw wnaeth y cylchgrawn o ganol y pedwar degau ymlaen, ond wyddai Gruffydd ddim yn iawn pam yr oedd cynifer o arweinwyr y genedl mor gyndyn o gyfrannu erthyglau iddo. Yr unig beth a wyddai ef oedd ei fod yn gorfod ysgrifennu mwy na hanner y cyfnodolyn ei hun, ac roedd hynny’n straen arno. Ym 1946, penodwyd T. J. Morgan yn gyd-olygydd, a pharhaodd y drefn honno tan y diwedd, gyda rhifyn coffa i Gruffydd yn ymddangos fel y cyhoeddiad olaf un yn 1955, wedi iddo farw'r flwyddyn cynt yn 1954. Yn y cyfnod hwn y cyfaddefodd sawl un o’r beirdd a’r llenorion eu bod wedi dal eu gwaith yn ôl i gosbi W. J. Gruffydd, ac yn ôl yr Athro Prys Morgan, roedd deall hynny’n gryn sioc i’w dad, y cyd-olygydd.

Saunders Lewis
Saunders Lewis

Efallai nad yw W. J. Gruffydd yn cael ei ystyried yn un o feirdd mawr y cyfnod erbyn hyn, ond yn sicr mae i’w waith apêl boblogaidd o hyd, a deil llawer o’i weithiau rhyddieithol i fod yn glasuron. Am rai blynyddoedd, bu mewn perthynas gyfrinachol gyda Mary Davies, arolygydd ysgolion o Harlech, a merch ddeng mlynedd yn iau nag ef. Parhaodd y garwriaeth o ganol y dau ddegau hyd ei marwolaeth annhymig hi yn 1938. Cadwyd ei lythyrau ef ati yn yr Archifdy ym Mhrifysgol Bangor, ac erbyn hyn maent yn llawn cymaint o ffynhonnell gwybodaeth am syniadau Gruffydd ag unrhyw beth cyhoeddus a ysgrifennodd yn ystod ei yrfa.

Mewn rhaglen deledu o’r enw ‘Hen Atgofion’ ar gyfer S4C, dywedodd Prys Morgan am Gruffydd: “Cafodd ei ddibrisio am iddo chwarae rhan Jiwdasaidd, fel petai, yn erbyn Saunders Lewis.” (Hen Atgofion / Teledu Elidir 1999)A chrynhodd Dr Robin Chapman yr hanes trwy ddweud “Bu Gruffydd yn byw dan gabledd bron yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn cael ei drin fel bradwr am sefyll yn erbyn Saunders Lewis yn etholiad y Brifysgol.” (Hen Atgofion / Teledu Elidir 1999). Ond mae’n amlwg nad oedd pawb wedi cymryd yn ei erbyn. Wrth gloriannu hanes ei fywyd yn y Bywgraffiadur, dywedodd Syr Thomas Parry, “Ond yr oedd yn rhyfeddol o gyson yn ei wrthwynebiad i anghyfiawnder neu anonestrwydd, a hynny oedd un rheswm am barch dwfn ei gyfeillion, a phawb a'i hadnabu, tuag ato.”

Emlyn Davies, Mawrth 2018

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau hyn gan Emlyn Davies:

    

George M Ll Davies; Rhagfyr 2017
Canon William Evans; Medi 2017
Robert Owen; Mehefin 2017
Ynysyfelin, cymuned goll; Mawrth 2017
Laura Ashley; Rhagfyr 2016
Adelina Patti, Medi 2016
Billy Hughes; Mehefin 2016
Coed y Bleiddiau; Mawrth 2016
Betsi Cadwaladr; Rhagfyr 2015
Syr Thomas Artemus Jones; Medi 2015
Y ddau gochyn; Mehefin 2015

cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan: Caregos Cyf., 2018

 

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create