Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

(March 01, 2013)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Dylan Moore
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llun: © Dylan Moore

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn bodoli yn Aberystwyth ers 1916 fel lyfrgell weithio, y llyfrgell fwyaf yng Nghymru. Dw i'n ddarllenydd mewn tair llyfrgell sydd yn ganolfannau ymchwil ym Mhrydain: y Bodleian, Rhydychen; y Llyfrgell Brydeinig, Llundain; ac yn olaf, y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth. Dw i’n hoff iawn o lyfrgelloedd.

Yn y Bodleian mae'r awyrgylch yn frawychus, mae'r bobl mor ‘posh’ a difrifol; mae'r Llyfrgell Brydeinig yn eitha amhersonol (ond dw i'n hoff iawn o'i phensaerniaeth, y tu fewn mae'n edrych fel llong fordaith) ond dw i'n teimlo'n gysurus yn y llyfrgell yn Aberystwyth. Mae bron yn gartrefol er gwaethaf ei maint. Dyma'r unig un ym Mhrydain, dw i'n meddwl, lle mae oedi'n bosib cyn i chi yrru i mewn i'r maes parcio oherwydd ffermwr, sy'n dadlwytho ei ddefaid i bori ar yr ochr. Fyddai hyn byth yn digwydd nai llai yn y Bodleian nac yn y llyfrgell Brydeinig! Dw i'n credu taw dyma'r olygfa orau o lyfrgell ym Mhrydain, er gwaethaf y gwyntoedd sy'n hyrddio'n arw o'i chwmpas. Ac yn yr adeilad mae’r sefydliad yn gwbl ddwyieithog, gyda staff sy'n arfer dechrau sgwrs yn Gymraeg, sy'n dda i ddysgwyr.

Pam gafodd y llyrgell ei sefydlu yn Aberystwyth? Cafodd Aberystwyth ei ddewis yn rhannol am fod casgliad yn y Coleg yn Aberystwyth yn barod, wedyn dywedodd y casglwr Syr John Williams y byddai'n cyflwyno'i gasgliad ei hun i'r Llyfrgell petai hi'n cael ei sefydlu yn y dref. Felly, fe ddaeth y Llyfrgell i Aberystwyth a'r Amgueddfa i Gaerdydd (gweler www.llgc.org.uk).


Llyfrgell Genedlaethol Cymru, David Rowlands
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llun: © David Rowlands

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn teimlo'n fwy democrataidd na llyfrgelloedd mawr eraill, efallai o achos ei natur ‘cenedlaethol’. Mae hawl i ddefnyddio'r llyfrgell gan unrhyw un sy dros un ar bymtheg oed, os ydyn nhw'n byw yng Nghymru, heb orfod rhoi llythyrau o gymeradwyaeth gan ysgolheigion a phrifysgolion, yn ogystal â dangos bil cyfleustodau - a darparu peint o waed! Mae'r rheolau yn syml ac mae nhw'n dweud "I fedru cael tocyn darllen llawn rhaid dangos dau brawf adnabod, gydag un ohonynt yn dangos eich cyfeiriad cyfredol" – felly, dim problem o gwbl. Dylai pwrpas llyfrgell fod i ddemocrateiddio gwybodaeth adiwylliant (yn fy marn i). Wedi i chi ddod yn ddarllenydd bydd miliynau o lyfrau ar bob pwnc, miloedd o ffilmiau a ffotograffau, lawysgrifau ac archifau, o gerddoriaeth a gwybodaeth electronig ar gael i chi a gallwch ddefnyddio'r rhain i gyd am ddim – democrateiddio - heb sôn am y caffi. Mae'r caffi yn y Llyfrgell Brydeinig yn ddrud dros ben – dim ond weddol ddrud yw y Cafe Pen Dinas yn Aberystwyth.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, VenitaLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Llun: © Venita

 

Mae'r llyfrgell hon yn un o'r Llyfrgelloedd Hawlfraint ('copyright' library). Mae pump ohonyn nhw ym Mhrydain, sef y Llyfrgell Brydeinig; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Llyfrgell Genedlaethol yr Alban; Llyfrgelloedd y Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Ym 1911 fe gafodd y Llyfrgell yr hawl i dderbyn copi o’r holl lyfrau, cylchgronau, mapiau, cerddoriaeth, papurau newydd a deunydd print arall sy'n cael eu cyhoeddi ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae llyfrgelloedd yn adeiladu casgliadau arbennig, wrth gwrs, ac yn Aberystwyth mae nhw'n arbennig o wych ynglŷn â hanes teuluol, hanes Celtaidd ... hanes popeth yng Nghymru. Ond, a dweud y gwir, dw i'n arfer defnyddio pethau eraill. Mae llawer o wasanaethau ar-lein hefyd, fel erthyglau mewn cylchgronnau academaidd ac mae'n bosib archebu ffynnonellau ar-lein mlaen llaw cyn i chi ymweld â'r llyfrgell, a dyna nhw'n aros amdanoch chi, pan dych chi'n cyrraedd yn un o'r Ystafelloedd Darllen, gyda'ch bagiau plastig tryloyw (ar gael yn y cyntedd) sy'n dangos pa fath o bethau dych chi'n cario i mewn a mas – mae angen atal dwyn o lyfrgelloedd.


Tudalen gyntaf, Llyfr Du Caerfyrddin Copi o Lyfr Taliesin, Ffolio 13, 1868
Tudalen gyntaf Llyfr Du Caerfyrddin,
gyda llinellau agoriadol y gerdd Ymddiddan Myrddin a Thaliesin
(o argaffiad diplomatig J. Gwenogvryn Evans, Pwllheli 1907, yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Copi o Lyfr Taliesin
yn dangos llinellau olaf y gerdd Cad Goddeu a dechrau'r gerdd Mabgyfreu Taliesin
(
o argaffiad gan William Forbes Skene, Ffolio 13, 1868, yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Beth arall sy yn yr adeilad? Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru; casgliad ffotograffig; gwasanaeth addysg i blant; siop; arddangosfeydd ag ati. Heb sôn am drysorau fel Llyfr Du Caerfyrddin (wedi cael ei hysgrifennu yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg); Y Mabinogi a llyfr Cyfreithiau Hywel Dda, sy'n un o'r derbyniadau diweddar.

Christine Trevett, 1af Mawrth 2013


 

© 2013 Caregos Cyf. | Hawlfraint - All rights reserved

 

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create