Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Gwyddonwyr o Gymru: David Brunt, C.G.F.

(December 01, 2013)

English

Gwyddonwyr o Gymru - David Brunt, C.G.F. (1886-1965)

David Brunt MA ScD FRS, © Royal Meteorological SocietyDavid Brunt MA ScD FRS c. 1942
Delwedd © Royal Meteorological Society, atgynhyrchwyd gyda'u caniatâd caredig

Rwy'n cofio rhywun yn dweud, "Heb y tywydd byddem oll yn fud". Wrth gwrs, nid yw hyn yn llythrennol wir, ond y mae'n cyfleu'n effeithiol ddylanwad amlwg y tywydd ar ein bywydau dyddiol; gall fod yn gywir am ein mân siarad neu am gyfarchion cyffredin wrth i bobl gyfarfod ar y stryd.

Gan ein bod 'oddifewn' i'r tywydd, nid yw'n syndod bod sylwadau am ei ffurfiau gwahanol ar gyfnodau gwahanol yn y flwyddyn wedi dod yn rhan o'n chwedloniaeth. Dyma rai ohonynt:

     Taranau Rhagfyr, tywydd teg

     Mis Mehefin gwych os daw, peth yn sych a pheth yn law.

     Tywydd teg os yw'r awyr yn goch yn yr hwyr,
     Tywydd garw os yw'r awyr yn goch yn y bore

     Cricsyn yn canu, glaw yn dynesu.

     Gwylan i'r tir, glaw cyn bo hir.

Mae'r uchod a llawer un arall o ganrifoedd pell yn cysylltu gyda phrofiadau pobl sydd â diddordeb penodol yn amrywiadau’r tywydd, yn arbennig gweithwyr ar dir a môr oherwydd yr effaith ar fywoliaeth.

Er bod y chwedloniaeth yn fras ddilys daeth ei gwendidau’n amlwg gyda datblygiad cymdeithas a'r gofyn am wybodaeth fwy manwl a lleol, yn enwedig cywirdeb darogan y tywydd. Mae’r elfen olaf hon erbyn heddiw yn rhan o'n bywyd yng Nghymru. Serch hynny, er gwaethaf manteision technoleg cyfrifiadur ar gyfer casglu a dadansoddi data, rydym yn gwybod sut y gall newidiadau tywydd fod yn llwyr annisgwyl ac yn groes i'r darogan. Rhaid cydymdeimlo gyda'r darlledwr Michael Fish pan ddwedodd yn hyderus na fyddai storom, ond y gwrthwyneb a ddigwyddodd er mawr embaras iddo a sioc i lawer o bobl.

Prif nodwedd darogan chwedlonol oedd ei bod yn seiliedig ar arsylliadau diddisgyblaeth o’r ddaear, tir a môr. Nid oedd yn bosibl edrych ar y tywydd o fannau uchel yn yr atmosffêr. Daeth y fantais hon yn negawdau cynnar yr ugeinfed ganrif, yn sgîl datblygiad awyrennau a llawer o ohonynt yn fregus o gorff a felly ar drugaredd gwyntoedd cryfion, cawodydd sydyn o law ac ymddygiad gwamal cymylau. Roedd gan David Brunt ran nodedig yn arloesi gwyddor newydd, meteoroleg.

Ganed ef ar yr 17eg o Fehefin 1886 ym mhentref Penffordd-las nid nepell o Lanidloes yng nghanolbarth Cymru. Ef oedd yr ifancaf o bump mab a phedair merch John, gwas fferm, a'i wraig Mary. Y Gymraeg oedd unig iaith David am y deng mlynedd cyntaf o'i fywyd a chyfrwng ei addysg gynradd. Er mwyn cael gwaith mwy parhaol ym mhyllau glo De Cymru symudodd John ei deulu i Lanhilleth, Sir Fynwy. Dyma newid diwylliannol syfrdanol i'r teulu gan fod Llanhilleth, fel y rhan fwyaf o Sir Fynwy, wedi colli llawer o'i Gymraeg, o'i drefn addysg a gweithgareddau cymunedol.

Yn dilyn ei addysg gynradd yn Llanhilleth aeth David ymlaen ym 1899 i'w addysg uwchradd yn Abertileri. Yno daeth ei alluoedd mathemategol a gwyddonol i’r amlwg. Roedd yn llwyddiannus iawn ar bob lefel a hyn yn ei alluogi i ennill ysgoloriaeth ariannol i'r brifysgol yn Aberystwyth. Yno hefyd dringodd i'r brig gan orffen ei gwrs ym 1907 gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Ar gefn hyn aeth i Brifysgol Caergrawnt ym 1909 a disgleirio eto. Er gwaethaf y llwyddiannau hyn, yn y dyddiau hynny nid oedd disgleirdeb academaidd yn gwarantu gwaith cyfatebol, sicr. Y canlyniad oedd bod David yn y cyfnod 1913-1916 wedi treulio cyfnodau ym Mhrifysgol Birmingham a Choleg Hyfforddi Athrawon Caerllion.

Trobwynt ei yrfa oedd ymaelodi ym 1915 yn y Peirianwyr Brenhinol (Adran Meteoroleg) ar gyfer gwasanaeth yn Ffrainc. Yno, am y tro cyntaf, daeth wyneb-yn-wyneb â darogan tywydd yn proffesiynol a dysgu am gymhwyso meteoroleg at bwrpas tanio gynnau. Ym 1921 ymunodd â'r Weinyddiaeth Awyr, yn dilyn cyfnod yn y Swyddfa Feteoroleg. Dyma oedd ei gyfle i gymhwyso mathemateg, yn enwedig ystadegaeth, i osod trefn ar astudiaethau o batrymau tywydd a felly i wella darogan tywydd.

 

Royal Aircraft Factory BE12 1 1916Ffatri Awyrennau Brenhinol B.E.12
Hedfanwyd gan y Royal Flying Corps yn Ffrainc o Awst 1916

 

Bu'n arloesi micrometeoroleg yn haenau isaf yr atmosffêr. Rhwng 1921 a 1939 ef oedd Cadeirydd Is-bwyllgor Meteorolegol y Pwyllgor Rhyfela Cemegol (Amddiffyn yn ddiweddarach). Ym 1934 daeth yn Athro Meteoroleg yng Ngholeg Imperial, Llundain lle buasai'n ddarlithydd ymweld ers blynyddoedd. Yn y cyfnod hwn cyhoeddoedd ei lyfr Physical and Dynamical Meteorology, cyfrol a dderbyniwyd yn fuan yn sail ar gyfer ymchwilwyr a gweithwyr yn y maes. Cyflwynodd y llyfr ei safbwynt nad oedd ystadegaeth yn unig yn ddigon; rhaid hefyd wrth sylwadau ar ddeinameg patrymau tywydd, megis cynnwrf a throsglwyddiad gwres.

Panorama - during a lightning storm over Bucharest, RomaniaPanorama - yn ystod storm mellt dros Bucharest, Romania Llun: Catalin Fatu

 

Daeth llawer o anrhydeddau i'w ran; Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol (C.G.F.) ym 1939, Llywydd y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol 1942-1944, Ysgrifennydd y GF o 1948 tan 1957, dod yn Farchog ym 1949 a llawer gradd ddoethur er anrhydedd gan brifysgolion.

Y tu allan i'w waith roedd yn berson o ddaliadau cadarn ond distaw, heb lawer o ddiddordeb mewn llenyddiaeth, celf na cherddoriaeth, ond yn frwd ei ymateb at hanes a gwleidyddiaeth. Ymddiddorai'n fawr mewn hedfan di-fodur, gan roi degawd o wasanaeth yn Gadeirydd Cyngor y Gymdeithas Gleidio Prydeinig.

Cymylwyd ei flynyddoedd olaf gan salwch hir ei wraig a marwolaeth sydyn eu hunig blentyn, mab dibriod. Bu farw David mewn cartref gofal.

Erbyn heddiw daeth 'tywydd' yn 'hinsawdd' a global yn hytrach na lleol. Beth bynnag y disgrifiad, cydnabyddir David Brunt yn un o sylfaenwyr gwyddoniaeth fodern yr atmosffêr.

Neville Evans, Rhagfyr 2013


Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau y rhain gan Dr Neville Evans (Cymraeg):
     Gwyddonwyr o Gymru - Yr Athro John Beynon; Medi 2013
     Gwyddonwyr o Gymru - John Meurig Thomas; Mehefin 2013

(Saesneg yn unig):
     Scientists of Wales - Robert Recorde and William Jones; March 2013
     Scientists of Wales - Richard Tecwyn Williams, F.R.S; December 2012

     Scientists of Wales - Lyn Evans; September 2012
     The rich science heritage of Wales - E G Bowen; June 2012

© 2013 Caregos Cyf. Hawlfraint

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create