Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Gwyddonwyr o Gymru: John Houghton, C.G.F.

(March 01, 2014)

English

John Houghton, C.G.F.

John Houghton CGF, llun Kaihsu TaiJohn Houghton yn siarad mewn cynhadledd newid hinsawdd yn High Wycombe, 26 Chwefror, 2005
llun © Kaihsu Tai

Mae gwrthrych yr erthygl hon yn ŵr disglair o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniadau enfawr i wyddoniaeth newid hinsawdd.Mae sgyrsiau cyffredin heddiw, ac am ganrifoedd hyd y galla’ i ddyfalu, yn aml yn troi o gwmpas tywydd y dydd, dyddiau diweddar a’r rhagolygon am ddyddiau i ddod. Ond, ers tua phum mlynedd, mae’r cyfryw sgyrsiau wedi newid o fod yn sylwadau am nodweddion tywydd cyfoes a lleol i fod yn bryderon am nodweddion byd-eang newid hinsawdd. Mae’r newid geirfa yn arwyddocaol.

Mae unigolion a chymunedau yn gallu’n hawdd ddwyn i gof achosion penodol o dywydd anghyffredin y DU, megis eira gaeaf 1947 a 1962, llifogydd 1953 yn Lynmouth a sychder 1976. Ar y cyfan, serch hynny, mae’r enghreiffriau hynny yn aros yn y cof oherwydd y gwahaniaethau penodol rhyngddynt a norm tywydd Prydain. Roeddem yn bur gyfarwydd a nodweddion cyffredinol y pedwar tymor a’u cysondeb. Gellid trefnu gwyliau a gweithgareddau yn yr ardd yn ôl y cysondeb. A, beth bynnag, roedd y cyfan allan o’n dwylo ni. Onid Natur oedd yn gweithredu yn ôl ei hewyllys ei hun?

Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae cysondeb ein tywydd tymhorol cyfarwydd yn ymddangos yn llai cadarn a dibynadwy. Bron y gellir disgwyl amodau eithafol, sy’n fath o groesddweud, ond yn sicr ddim mor drawiadol i ni. Mae amlygrwydd teledu, radio a dulliau cyfryngau eraill yn tynnu’n sylw, bron yn cael ei orfodi arnom, batrymau tywydd tebyg neu waeth mewn rhannau eraill o’n byd. Ar un llaw arall y mae’r cof o ffyrnigrwydd, tymor-byr tsunami 2005 gyda’r difa brawychus a fu ar eiddo a phobl. Ar y llaw arall y mae’r newid tawel, sinistr bron, hir-dymor ar ffiniau iâ yr Artig. I ble mae’r iâ toddedig yn mynd?

Ganed John Houghton ar 31ain Rhagfyr 1931 yn mhentref Dyserth, Sir Ddinbych. Derbyniodd ei addysg gynradd yn Arcville College, ysgol breifat yn Y Rhyl, Gogledd Cymru a’i addysg uwchradd yn Ysgol Uwchradd Y Rhyl. Yn dilyn gyrfa ddisglair yn yr ysgol aeth ymlaen i Brifysgol Rhydychen i ddilyn ffiseg, astro-ffiseg yn benodol. Arweiniodd hyn at ymchwil mewn gwyddoniaeth y tywydd; yn y 70au, pan oedd yn brif ymchwilydd yn NASA bu’n gyfrifol am offer ar loerennau Nimbus. Apwyntiwyd ef i staff Prifysgol Rhydychen yn ddarlithydd, darllenydd ac athro. Yn y cyfnod hwn bu’n cyfrannu at raglenni ymchwil yn y Swyddfa Feteorolegol, lle bu’n ddiweddarach yn Gyfarwyddwr Cyffredinol rhwng 1983 a 1991. Ar ei ymddeoliad o’r Gwasanaeth Sifil cafodd ei apwyntio’n Gadeirydd Comisiwn Brenhinol y DU ar Lygredd Amgylcheddol a rhwng 1988 a 2002 ef oedd Cadeirydd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC). Yn 2005 cyflwynodd dystiolaeth ar newid hinsawdd i bwyllgor Senedd yr UD.

Daeth i’w ran lu o raddau er anrhydedd a gwobrau er clod, gan gynnwys ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (1972), ei ddyrchafu’n farchog (1991), Gwobr Siapan (2005) am ei gyfraniad at ymchwil ar strwythur a chyfansoddiad yr atmosffêr ac am hyrwyddo asesiadau rhyngwladol, a rhan o Wobr Nobel am ei waith ar newid hinsawd gyda’r IPCC.

Mae ei gyhoeddiadau technegol yn niferus iawn, ond hwyrach yn fwy perthnasol i’r sawl nad ydynt yn arbenigwyr, ond sy’n rhannu diddordeb a gofid, yw ei lyfr (Lion1994), Global Warming – The Complete Briefing. Ym Mhennod 8 – Pam y dylem ofidio? – mae’n rhannu ei feddyliau, sy’n dal cysylltiad gyda’i angyhoeddiadau Cristionogol, ynghylch dyfrifoldeb pobl am newid hinsawdd planedol. Mewn man arall yn y llyfr mae’n cloriannu dulliau gweithredu er mwyn gwella’r sefyllfa. Ail-gyhoeddwyd y llyfr yn 2005 gyda diweddariad o’r data perthnasol. Mae’r ddau lyfr yn haeddu darllen gofalus.

Ymhlith ei sylwadau cofiadwy ceir,

"Mae effeithiau cynhesu globol yn haeddu, does dim dwy waith gennyf, cael eu disgrifio yn arfau dinistr torfol … yn debyg i derfysgiaeth, nid yw’r arf hwn yn cydnabod ffiniau …"
(Guardian, 28 Gorffenaf 2003)

"Ni fydd y byd yn dod i ben ond bydd dyfod trychinebau yn achosi effaith fawr iawn ac mewn ffordd na allwn ddarogau; bydd codiadau lefel y moroedd yn dadleoli miliynau o bobl …"
(The Independent, 10 Awst 2003)

Ac yn awr, heb i neb erioed ddychmygu hyn yn bosibl, gosodir sialens i ni ystyried bod tueddiadau diweddaraf patrymau tywydd yn digwydd, i raddau o leiaf, oherwydd gweithgarwch dynol ar ein planed. Gellir dadlau bod derbyn y gosodiad hwn yn fwy o sialens i ni, yn unigolion, cymunedau a llywodraethau gwladol, nag yw derbyn cyfiawnder trefnu cymorth lleol a rhyngwladol yng nghyd-destun trychineb penodol. Mae yn her deallusol a moesol hollol newydd i mi ystyried bod llosgi ffagl yn fy ngardd yn debyg, mewn math os nad gradd, i allyriant gorsaf bŵer mewn perthynas ag achosi newid hinsawdd. O ddifrif, fe ddywedaf, a ydyw fy methiant i lenwi fy magiau gwyrdd yn cymryd ei le ochr-yn-ochr â’r difa difeddwl sy’n digwydd yn fforest yr Amazon? Aeth John Houghton â ni gryn dipyn o’r ffordd tuag at ateb y cwestiynau hyn.

Neville Evans, Mawrth 2014

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau y rhain gan Dr Neville Evans (Cymraeg):
     Gwyddonwyr o Gymru - David Brunt C.G.F.; Rhagfyr 2013

     Gwyddonwyr o Gymru - Yr Athro John Beynon; Medi 2013
     Gwyddonwyr o Gymru - John Meurig Thomas; Mehefin 2013

(Saesneg yn unig):
     Scientists of Wales - Robert Recorde and William Jones; March 2013
     Scientists of Wales - Richard Tecwyn Williams, F.R.S; December 2012

     Scientists of Wales - Lyn Evans; September 2012
     The rich science heritage of Wales - E G Bowen; June 2012

© 2014 Caregos Cyf. Hawlfraint

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create