Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Gwyddonwyr o Gymru: Ieuan Maddock, C.G.F.

(June 01, 2014)

English

Ieuan Maddock, C.G.F.Mushroom cloud from the Operation Hurricane atomic bomb test, 3 October 1952Cwmwl madarch gan Operation Hurricane ffrwydradau prawf ar y 3ydd o Hydref,1952
Ynysoedd Montebello, Awstralia

Pe bawn i yn gymdeithasegwr yn bwrw golwg yn ôl dros fywydau gwyddonwyr o Gymru a wnaeth gyfraniadau sylweddol i wyddoniaeth ryngwladol yn yr ugeinfed ganrif, mae’n bosibl y dymunwn sôn am yr hyn a elwir eu ‘dechreuadau distadl’. Byddwn yn cyfeirio at E.G. Bowen (radar), E.J. Williams (ffiseg atomig), R.T. Williams (tocsicoleg a thalidomeid), John Meurig Thomas (catalyddion cemegol). Daeth pob un o’r rhain o’r hyn a elwid dosbarth gweithiol hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif ac roedd pob un yn gwybod am ganlyniadau adnoddau ariannol cyfyng eu cartrefi. Wedi nodi hynny, gallwn gyfeirio efallai bod pob un wedi mwynhau profiad addysg ysgol ramadeg, profiad breintiol i ryw raddau, a roddodd iddynt sail i’w datblygiad nodedig maes o law; o’r un sail cawsant yn oedolion enillion ariannol a fu ond yn freuddwydion yn blant. Ond nid wyf yn gymdeithasegwr a felly bodlonaf ar adrodd stori Ieuan Maddock a dyfodd o ddechreuad distadl ac a weithiodd yn nes ymlaen gyda gweinidogion llywodraeth Prydain a’r teulu brenhinol.

Ganed Ieuan ar y 29ain o Fawrth, 1917 ym mhentref Gorseinon sy rhwng Abertawe a Llanelli. Glowr oedd ei dad a weithiodd y rhan fwyaf o’i yrfa ar wyneb y pwll yn dilyn damwain. Athrawes ysgol gynradd oedd ei fam a hi, mae’n debyg, oedd y dylanwad mawr arno, gyda’i phendantrwydd i’w weld yn ‘dod mlaen’, sef, ffordd arall o ddweud ‘cer o’r lle ‘ma i fyd gwahanol’. Roedd ei dyheadau yn cael eu datgan yn glir i’w mab yn eu mynych gyfeiriadau at Ivor Jenkins, bachgen o’r pentref a ‘ddaeth mlaen’, gan ddod yn beiriannydd nodedig.

Wedi iddo gael ei addysg gynradd yn lleol, daeth Ieuan yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Tregŵyr, ble bu ei gyraeddiadau’n foddhaol heb fod yn ddisglair. Yn fuan daeth ei dalent mewn mathemateg a ffiseg yn glir, yn enwedig ar yr ochr ymarferol a bu hyn yn fodd iddo ddod i’r brig mewn arholiadau sirol.

Ar gefn hyn enillodd ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol Abertawe; gwerth yr ysgoloriaeth oedd £60 y flwyddyn, ond i’w ad-dalu. Pwy ddwedodd fod benthyciadau myfyrwyr yn newydd?

Yn y brifysgol enillodd radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf a dechreuodd ar raglen ymchwil gyda Frank Llewellyn Jones, yr Athro maes o law, yn diwtor arno. Erbyn hyn, roedd yr ail ryfel byd wedi dechrau, gyda’r canlyniad i Ieuan fod rhaid i’w ymchwil arfaethedig ddod i ben dros dro. Cymerwyd ei labordy gan y llywodraeth ar ffurf yr Adran Ymchwil Ffwydron (AYFf).

Bu’r ymyraeth hyn gyda’i obeithion ymchwil yn fodd iddo fentro ar yrfa newydd ac annisgwyl. Gan nad oedd yn gallu gwrthsefyll yr AYFf, fe ymunodd â nhw. Daeth yn was sifil, y math gwyddonol nid y math sy’n cael enw drwg, fe ddywedir, am weinyddu’n araf; ni fyddai hyn wedi bod yn gydnaws â’i natur byrlymus, a dueddai bob amser at ddiffinio a chyrraedd nod, gyda’r lleiaf o sylw ar arferion traddodiadol sefydledig.

Ei ddiddordeb pennaf, o ddyddiau ysgol, oedd mewn cylchedau electronig a thalent am wneud offerynau newydd a dylunio cylchedau arloesol i gyflawni rhyw fwriad. Yn 1944 symudodd Ieuan i Fort Halstead, gorsaf ymchwil ger Sevenoaks, Swydd Caint, a roes ei fryd ar offeryniaeth ffrwydron, confensiynol i ddechrau a rhai niwclear maes o law; bu hyn yn llanw ei ugain mlynedd dilynol. Bu ei waith cynnar yn talu sylw i ddulliau mesur mwy cywir ar fuanedd cychwyniad ffrwydron …’ (trosiad o ddyfyniad o Biographical Memoirs of the Royal Society, volume 37, 1991).

Yn ail hanner 40au’r ganrif bu llywodraeth Prydain yn hybu polisi amddiffyn militaraidd yn cynnwys cynhyrchu bom atomig. Person allweddol yn hyn oedd William Penny a fu’n dyst i ymdrechion tebyg yr UD, gan gynnwys ffrwydrad Nagasaki yn Siapan. Penny oedd yn bennaf gyfrifol am nodi potensial Maddock ar gyfer bod yn arweinydd grŵp. Digwyddodd yn 1949.

Eto o gofiant y Royal Society, ‘Prif gyfraniad Maddock i waith ei dîm oedd fel ysgogwr meddwl dychmygus ac ymdrech diwyd. Roedd ef yn arweinydd llawr labordy, gan dreulio cyn lleied â phosib ar waith gweinyddol yn ei swyddfa. Hoffai alw heibio gyda’i staff, yn eu croesholi ar gyfeiriad cyfredol eu gwaith, yn herio pob syniad, yn awgrymu eraill ac yn eu gadael wedi’u cynhyrfu ac yn frwd dros fwrw ymlaen. Amlygodd weledigaeth arbennig ar gyrraedd datrysiad syml a oedd yn aml yn drech na’i gydweithwyr mwy arbenigol a gweithredol’. Yn y pendraw aeth ei gyfrifoldebau ag ef i Awstralia lle bu’n chwarae rhan flaenllaw yn y ffrwydradau prawf ar y 3ydd o Hydref, 1952 ym Montebello. Gan mai ef oedd yn bennaf gyfrifol am sicrhau ceinder holl amseriadau prosesau cymhleth ac offer ffrwydrad y bom atomig, roedd yn anochel braidd, er yn annymunol, bod Ieuan yn cael ei nabod gan y ffugenw, The Count of Montebello.

Parhaodd rhaglen bom atomig (a niwclear maes o law) Prydain a gwledydd eraill am lawer blwyddyn ar ôl Montebello. Y Rhyfel Oer oedd y cyd-destun gwleidyddol. Y cyd-destun gwyddonol oedd datblygiad moddion tanio a chanfod ffrwydrad bom, yn yr awyr a thanddaear. Roedd llywodraethau yn ddrwgdybus o’i gilydd, er bod trafod cyhoeddus ynghylch y syniad o gytundeb i wahardd profi bomiau; yn 1973 cafwyd cytundeb rhannol. Mae’r ystyriaethau ynghylch adnabod, archwilio a distrywio arfau yn dal heddiw i hoelio sylw pob llywodraeth.

Yn rhan olaf ei yrfa aeth Ieuan o ymchwil a datblygiad uniongyrchol i fyd llawer mwy diflas, sef, ceisio ffyrdd o gael pobl i newid eu dulliau gweithredu. Daeth y newid hwn pan ymunodd â thîm o ymgynhorwyr gwyddonol yn Y Weinyddiaeth Dechnoleg a grewyd gan lywodraeth Harold Wilson yn 1964.

Y gweinidog cyntaf oedd Frank Cousins, arweinydd undeb llafur gynt, a Tony Benn maes o law. Am gyfnod o dair blynedd ar ddeg, tan ei ymddeoliad o’r Gwasanaeth Sifil yn 1977 yn 60 oed, bu Ieuan yn brwydro’n galed gyda diwydiannau Prydain. Wynebodd sawl achos o rwystredigaeth, na phrofasai o’r blaen, yn bennaf oherwydd bod cwmnïau, yn rheolwyr a gweithwyr, yn mynnu aros gyda hen arferion. Teimlodd ef yr un rhwystredigaeth gyda staff haenau uchaf y Gwasanaeth Sifil, lle roedd ‘fel y bu’ yn egwyddor a ‘newydd-deb’ yn anathema. Yn ôl pennaeth yr Adran Masnach a Diwydiant, ‘yn nhermau y Gwasanaeth Sifil roedd ef yn daflegryn direolaeth’.

Wedi iddo ymddeol roedd ei fywyd yn dal yr un mor brysur gyda nifer helaeth o wahoddiadau i wasanaethu ar fyrddau rheoli diwydiannau ac i ymuno ag amrywiaeth o sefydliadau eraill. Bu galw mawr amdano yn siaradwr mewn cynadleddau, yn bennaf oherwydd ei natur siriol a’i ddull traethu, penodol a phigog, ar brydiau, heb fod yn faleisus. Ceisiodd bob amser ymateb yn gadarnhaol i’r cyfryw wahoddiadau.

Derbyniodd lu o anrhydeddau, yn amlycaf o bosibl, ac yn annisgwyl iddo, gael ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1967. Cafodd foddhad arbennig wrth dderbyn gradd ddoethur er anrhydedd (D.Sc.) o brifysgol Abertawe; efallai y teimlai fod hyn yn fath o ad-daliad gael i’w ymdrechion ar gyfer Ph.D. gan eu rhwystro gan y rhyfel. Dyrchafwyd yn farchog yn 1975.

Gadawer i un o’r teulu brenhinol, Duc Caint, gael y gair olaf. "Pan ddilynais yr Arglwydd Mountbatten yn Gadeirydd y Cyngor Electronig Cenedlaethol gofynnais i Syr Ieuan fod yn is-gadeirydd a bu ef yn gyfaill amhrisiadwy … pan ymddeolodd … yn 1987 collodd pawb ohonom yn fawr ei gyfraniad doeth a bachog, ei synnwyr digrifwch heintus a’i huodledd nodweddiadol Gymreig. Heb amheuaeth roedd Ieuan Maddock yn un o’r dynion mwyaf diddorol a dymunol i mi nabod".

Bu fawr Ieuan yn Reading ar y 29ain o Ragfyr 1988, gan adael Eurfron, ei wraig ers 1943, hithau hefyd o Orseinon, eu hunig blentyn Robert a phlentyn Robert.

Neville Evans, Mehefin 2014

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau y rhain gan Dr Neville Evans (Cymraeg):
     Gwyddonwyr o Gymru - John Houghton C.G.F.; Mawrth 2014

     Gwyddonwyr o Gymru - David Brunt C.G.F.; Rhagfyr 2013

     Gwyddonwyr o Gymru - Yr Athro John Beynon; Medi 2013
     Gwyddonwyr o Gymru - John Meurig Thomas; Mehefin 2013

(Saesneg yn unig):
     Scientists of Wales - Robert Recorde and William Jones; March 2013
     Scientists of Wales - Richard Tecwyn Williams, F.R.S; December 2012

     Scientists of Wales - Lyn Evans; September 2012
     The rich science heritage of Wales - E G Bowen; June 2012

© 2014 Caregos Cyf. Hawlfraint

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create