Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Gwyddonwyr o Gymru: Yr Athro Julie Williams

(September 01, 2014)

English

Yr Athro Julie Williams

Yr Athro Julie Williams

Heb wadu godidowgrwydd cyflawniadau gwyddonol hen wareiddiadau, yn benodol, Groegaidd, Indiaidd a Tseineaidd ac, efallai y gwychaf , Arabaidd, mae’n deg dweud bod yr ugeinfed ganrif wedi trechu pob canrif flaenorol ym maint a chyflymder dealltwriaeth wyddonol a’r cynnydd technolegol cysylltiedig. Digon yw bwrw golwg yn fyr dros ddarganfyddiadau cychwynnol a’r datblygiadau yn eu sgîl.

Efallai mai’r mwyaf trawiadol yw moddion cyfathrebu personol o’r teleffôn syml i ddyfeisiadau cledr-llaw anhygoel o amlweddog heddiw. Dim mymryn yn llai rhyfeddol yw nodweddion cyfathrebu planedol megis radio (radar), teledu , telemetreg (gan gynnwys dyfeisiau lloeren) a’r Wê Fyd Eang.

Maes arall o newid penodol yw meddygaeth; meddylier am y rheolaeth ar salwch ynghyd ag enghreifftiau o ddileu heintiau, yn aml yng nghyd - destun deddfwriaeth iechyd cyhoeddus mewn gwledydd a elwir datblygedig fel ein gwlad ni.

Ac yna rhaid sôn am yr amrywiaeth o drawsblannu neu gyfnewid organau, i’r pwynt heddiw lle ystyrir nad yw’r cyfryw ddatblygiadau yn rhyfeddodau ond yn hawliau.

Meddylier am ddatblygiadau dulliau trafnidiaeth, gan gynnwys trenau, ceir ac awyrennau.

Maes pwysig arall o newid yw gwyddoniaeth deunyddiau, megis metelau, plastigau seramigau, gyda rhai yn greadigaethau newydd mewn labordy ac eraill yn allbwn ar raddfa safle diwydiannol.

Mae’r oll o’r newidiau hyn, sy’n amlwg facrosgopig, yn deillio o gynnydd mewn astudiaethau o’r microsgopig, yn ddwfn i strwythur atomau sylweddau, yn cyrraedd ei benllanw (cysyniad peryglus bob amser mewn gwyddoniaeth) y llynedd yn CERN gyda’r cyhoeddiadau parthed Boson Higgs.

Wrth gwrs, o un safbwynt, mae’r camau cynnydd hyn yn fuddiol heb amheuaeth, ond nid ydynt heb ddilyniannau sy’n dod â her cymdeithasegol a moesol. Er enghraifft, mae lledaeniad cyfathrebu planedol nawr yn golygu nad oes unpeth yn guddiedig. Mewn eiliad rydym yng Ngymru, trwy radio, teledu a ffôn symudol, yn gwybod am drychinebau mewn gwledydd tramor pell, yn dilyn digwyddiad dynol neu naturiol. Yr ystyriaeth foesol yw a ydym am ymateb ai peidio; ni ellir mwyach gynnig, ‘pe baem ni ond yn gwybod, byddem wedi cynorthwyo’.

Yn yr un modd mewn meddygaeth dylai’r gwelliannau mewn iechyd personol a chyhoeddus – o’r frech goch i drawsblaniad organ – mewn gwledydd datblygedig fod ar gael i bawb ar draws y byd. Oni ddylent? Ar ba athroniaeth y gellir gwrthod hyn i bobloedd Affrica ac Asia sy’n gwybod am fodolaeth y cyfleoedd hyn, oherwydd mae ganddyn nhw, hyd yn oed yn eu tlodi, ddulliau cyfathrebu cyflym.

Hyd at oddeutu 1980 roedd cynnydd mewn meddygaeth yn bennaf mewn ffisioleg, yn ymwneud â’r corff dynol fel system biocemegol macrosgopig yn cynnwys esgyrn a meinwe mewn cysylltiad â’i gilydd. Roedd rhyfeddod y cyfan y tu hwnt i amheuaeth. Serch hynny, mewn byr o dro, cododd sawl dilema moesol, megis mewn perthynas â thrawsblannu organau. Yng Nghymru mae’r ystyriaeth hon yn destun trafod ar hyn o bryd, yn seiliedig ar foeseg ac yn symud tuag at ddeddfwriaeth.

Ers oddeutu 1980 ac yn cyflymu ers 2000, y flwyddyn pan gyhoeddwyd canlyniadau prosiect y genom dynol, rydym yn nhiriogaeth astudiaethau gwyddonol ar yr ymennydd dynol a mathau o ymddygiad dynol sy’n gysylltiedig . Mae’r maes hwn yn llawn o ddilemâu moesol, nid yn lleiaf oherwydd nid ydym yn glir ynghylch y gwahaniaeth ymhlith ‘ymennydd’, ‘y meddwl’, ‘ personoliaeth’, ‘persona’. Rydym ar ei ben mewn cyflwr ac amser pan wireddir geiriau Aldous Huxley, ‘Mae anawsterau gwaethaf dynion yn dechrau pan maen nhw’n gallu gwneud yr hyn y maen nhw’n ei ddymuno’.

A ddylem arbrofi ar yr ymennydd? Wel, rydym eisoes wedi bod yn gwneud hynny ac yn dal i wneud, gyda llwyddiant mewn nifer o achosion yn yr ystyr bod sawl ymddygiad yn cael ei reoli a sawl bygythiad i fywyd yn cael ei atal gan lawfeddygaeth gain. Ond a ddylid cymhwyso’r fath lawfeddygaeth (fel gyda thabled) at bwrpas dofi neu reoli ambell ymddygiad nad yw’n ‘feddygol’ fel y cyfryw?

At bwrpas yr erthygl hon dewch i ni ganolbwyntio ar un agwedd o ymddygiad dynol, Clefyd Alzheimer, sy’n faes arbenigedd yr Athro Julie Williams. Fe’i ganed a’i maged ym Merthyr Tydfil sy’n rhyw bum milltir ar hugain i’r gogledd o Gaerdydd. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Y Graig ac Ysgol Uwchradd Faenor a Phenderyn sy ddim yn bodoli mwyach. Nid oedd ei chyflawniadau ysgol yn amlwg ddarogan ei godidowgrwydd fel gwyddonydd ymchwil, er bod ei diddordeb mewn bioleg yn glir. Derbyniodd ei haddysg uwch yn Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd lle arbenigodd mewn gwyddoniaeth fiolegol a seicoleg. Dilynodd ddiddordebau ymchwil mewn niwroseicoleg; y profiad hwn a roes iddi gyfleoedd i ffynnu yn fyfyrwraig ac yn ddiweddarach yn arweinydd astudiaethau ar y broses o heneiddio mewn pobl, yn benodol, Clefyd Alzheimer. Mae’r clefyd hwn, nad oes iddo wellhad hyd yma , yn taro tua 37,000 yng Nghymru ac oddeutu 700,000 yn yr UD.

Yn 1991 ymunodd Julie â ThîmYmchwil Geneteg Schizophrenia yn yr Adran Meddygaeth Seicolegol a oedd ar y pryd yn rhan o Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru; erbyn hyn mae’n rhan o Brifysgol Caerdydd. Yn y swydd hon roedd hi’n gall parhau’r gwaith sylweddol yn yr agwedd hon o feddygaeth gan arbenigwyr Cymreig dros nifer o flynyddoedd. Mewn amser daeth yn Brif Ymgynghorydd Gwyddonol i’r elusen Alzheimer’s Research UK.

Yn 2001, yn gydnabyddiaeth o safon uchel ei hastudiaethau, dyrchafwyd Julie yn Athro Geneteg Niwroseicolegol. Erbyn hyn mae’n Bennaeth Adran Niwroddirywiad Canolfan y Cyngor Ymchwil Meddygol sy’n ymwneud â geneteg a genomeg seicolegol. Mae’n gyn-aelod o’r Bwrdd Iechyd Meddwl a Niwrowyddorau.

Mae’n diddorol sylwi sut mae teitlau adrannau ac unigolion yn arwyddo natur eu maes ymchwil, llawer ohono yn derbyn nawdd gan Gyngor Ymchwil Meddygol y DU. Ar y cychwyn, mor bell yn ôl â dechreuad yr ugeinfed ganrif, y term generig oedd seicoleg (gydag enwau adnabyddus fel Freud, Jung ac Ernest Jones o Dregŵyr, Abertawe), yna daeth niwroleg a niwro-seicoleg. Erbyn heddiw mae’r terminoleg yn cynnwys geneteg a genomeg niwroseiciotrig, biostatigedd a bio-infformateg. Mae’r termau mwy diweddar hyn yn cynrychioli gwelliannau mewn llawfeddygaeth ac astudiaethau yr ymennydd, rhai ohonynt yn deillio o fanylion creiddiol y prosiect genom dynol yn 2000. Effaith hyn yw galluogi ymchwilwyr fel Julie i geisio disgrifiadau genetig o newidiadau yn yr ymennydd dynol. Yn 2009 hi oedd yn arwain astudiaeth genom o gyflwr 16,000 cleifion gyda gwyddonwyr o sawl prifysgol yn y DU a gwledydd eraill. Un o’r deilliannau oedd darganfod dau enyn, yn ychwanegol at yr un oedd eisoes yn hysbys, a gydnabyddir yn enynnau ‘risg’, hynny yw, y rhai y byddai eu presenoldeb yn darogan tebygolrwydd uwch y byddai unigolyn yn amlygu symptomau Clefyd Alzheimer.

Ers blynyddoedd mae nodweddion y cyflwr hwn wedi bod yn hysbys yn ein cymdeithas, ond roedd yr ymateb yn dawedog gyda sylwadau megis, ‘Mae hi’n dechrau colli arni’i hun’, neu hyd yn oed, ‘Mae e ychydig yn gaga’. Roedd y cyfryw ymddygiad yn flinder mawr ar deuluoedd, ac yn dal felly, yn sgîl amlygiad creulon newid gallu a phersonoliaeth yr unigolyn dioddefus. Cyfeirir gwaith Julie tuag at leddfu nodweddion gwaethaf y cyflwr.

Ym Medi 2013 derbyniodd Julie sialens newydd, sef, bod yn Brif Ymgynghorydd Gwyddoniaeth i Lywodraeth Cymru. Secondiad tair blynedd yw’r swydd gyda hi’n neilltuo tri diwrnod a hanner yr wythnos i’w chyfrifoldeb newydd ac un diwrnod a hanner i’w gwaith ym Mhrifysgol Caerdydd lle mae’n Ddeon Ymchwil yn yr Ysgol Feddygol. Ym Mehefin 2014 cyhoeddwyd ei hadroddiad blynyddol cyntaf; gellir dod o hyd i’r adroddiad ar y safle – Wê priodol.

Neville Evans, Medi 2014

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau y rhain gan Dr Neville Evans (Cymraeg):
     Gwyddonwyr o Gymru - Ieuan Maddock C.G.F.; Mehefin 2014

     Gwyddonwyr o Gymru - John Houghton C.G.F.; Mawrth 2014

     Gwyddonwyr o Gymru - David Brunt C.G.F.; Rhagfyr 2013

     Gwyddonwyr o Gymru - Yr Athro John Beynon; Medi 2013
     Gwyddonwyr o Gymru - John Meurig Thomas; Mehefin 2013

(Saesneg yn unig):
     Scientists of Wales - Robert Recorde and William Jones; March 2013
     Scientists of Wales - Richard Tecwyn Williams, F.R.S; December 2012

     Scientists of Wales - Lyn Evans; September 2012
     The rich science heritage of Wales - E G Bowen; June 2012
 

Llun © Llywodraeth Cymru, atgynhyrchwyd o dan Drwydded Llywodraeth Agored v2.0

 © 2014 Caregos Cyf. Hawlfraint

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create