Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Gwyddonwyr o Gymru: Frank Llewellyn-Jones

(December 03, 2014)

English

Frank Llewellyn-Jones (1907-1997)

Frank Llewellyn-Jones

I’r mwyafrif llethol ohonom yn nhrefn ein gorchwylion dyddiol mae’r profiad o drydan yn un o gael gwasanaeth aml-weddog yn hwylus yn ein cartrefi. Go brin y gellir dychmygu bywyd heddiw heb drydan; mae’n darparu ffynonellau golau a gwres, gydag ystod rhyfeddol o ddyfeisiau yn rhychwantu y tors syml, y degell drydan ac amrywiaeth o oleuadau, teledu, radio, peiriant torri lawnt, dril at wneud tyllau mewn pren ac ati ac ati. Mae’r cyfan o hyn yn syrthio y tu mewn i’r syniad o egni dynamig; byddwn yn sôn am ‘gerrynt yn llifo mewn cylchedau gyda ffynhonnell egni (batri syml neu orsaf bŵer), gyda ‘cyswllt’ neu ‘cyffordd’, gyda weiar neu gebl metel, copr fel arfer.

Wrth werthfawrogi hyblygrwydd y ddarpariaeth hon byddwn yn cydnabod bod rhaid bod yn dra gofalus gyda thrydan, oherwydd, heb reolaeth, gall fod yn beryglus iawn gyda’r gallu i beri difrod difrifol i eiddo a phobl, hyd yn oed marwolaeth. Daethom yn gyfarwydd gydag arwyddocâd geiriau megis ‘ynysydd’, sef, deunydd sy’n atal llif cerrynt trydanol a felly yn amddiffyn pobl sy’n defnyddio dyfeisiau trydanol. Mae ynysyddion yn anfetelaidd, plastigau fel arfer, a gall hyd yn oed drwch bychan fod yn ddigon ar gyfer diogelwch.

Rydym yn gwybod bod hylifau (dŵr fel arfer) a thrydan yn anghymarus â’i gilydd, ond yn anaml y byddwn yn meddwl am nwyon (aer y mwyaf cyffredin) fel dargludwyr (conductors) trydan. Felly, gall cebl ‘fyw’ hongian o wal neu sefyll i fyny o lawr ystafell heb achosi niwed – ond, rwyn pwysleisio, nid yw hyn yn arfer dda! Mae’r meddwl hyn am nwyon braidd yn rhyfedd oherwydd ymhlith ffenomena mwyaf trawiadol a brawychus byd natur y mae mellt, sef, arddangosiad dargludiad trydan trwy nwyon.

Mae’n bur debygol bod pawb ohonom wedi gweld arddangosiad daearol o drydan yn mynd trwy nwyon. Er enghraifft, yn y nos, gyda’n llygaid wedi addasu i’r tywyllwch mae’n bosib gweld fflach oddifewn i swits trydan plastig. Gellir gweld fflach mwy pwerus pan gysylltir dau derfynell batri car gyda bar metel – NI ddylid gwneud hyn yn fwriadol, mae’n beryglus iawn!

Mae’r ffenomen o wreichionni (sy’n hollol wahanol i’r hyn a welir pan fydd dau fetel oer yn taro yn erbyn ei gilydd) neu arcio yn digwydd rhwng dau electrod (metel, fel rheol) sydd wedi’u cysylltu gyda therfynellau batri neu ffynhonnell arall o egni trydanol. Daw cyflwr o ‘densiwn’ rhyngddynt i fod neu sefyllfa o wahaniaeth potensial trydanol ar draws yr adwy rhwng yr electrodau.

Nid oes dim yn digwydd na dim i’w weld gyda’r llygad noeth onibai bod y gwahaniaeth potensial / hyd yr adwy yn codi i faint uchel iawn neu onibai bod maint yr adwy yn mynd yn fach iawn. Os digwydd y naill neu’r llall mae’r ‘tensiwn’ yn ildio a thrydan yn neidio ar draws yr adwy ac yn ‘gwneud’ cylched gyfan. Mewn aer, rhaid wrth wahaniaeth potential o sawl mil folt am bob centimetr o adwy i wreichionnen neidio ar draws yr adwy.

Er mwyn deall sut mae trydan yn teithio trwy aer a nwyon eraill dan yr amgylchiadau hyn, sef sut mae aer yn ildio‘i nodweddion o fod yn ynysydd rhaid troi at broses a elwir ‘ioneiddio’. Dan amgylchiadau normal o dymheredd a phwysedd mae molecylau aer yn drydanol niwtral, gwefrau positif a negative oddifewn i’r moleciwl yn cydbwyso dan ddylanwad grym atyniad. Pan sefydlir ‘maes’ trydan ar draws adwy rhwng dau electrod, un positif ac un negatif, mae’r gwefrau gwahanol oddifewn i bob moleciwl yn cael eu tynnu i gyfeiriadau croes tuag at y naill electrod neu’r llall. Wrth gyrraedd gwerth penodol y gyfradd Gwahaniaeth Potential Hyd yr Adwy bydd y molecylau yn hollti gyda gwefrau negatif yn mynd i un electrod a rhai positif i’r llall. Hyn yw’r broses ioneiddio, hynny yw, sefydlir torf o gludwyr gwefr a chreir ‘plasma’, yn weladay fel gwreichionnen neu arc.

Yn ei ddydd roedd Frank Llewellyn-Jones yn awdurdod byd-eang yn y maes hwn, ffiseg plasma. Cafodd ei eni ym mhentref Perhiwceibr, ger Aberdâr, ar y 30ain o Fedi 1907 a bu farw yn Abertawe ar y 3ydd o Chwefror 1997. Ar ôl bod yn ddisgybl yn ysgol gynradd y pentref aeth am ei addysg uwchradd i Ysgol West Monmouth ym Mhontypŵl. Yno enillodd ysgoloriaeth i Goleg Merton ym Mhrifysgol Rhydychen ac yno y dyfarnwyd iddo radd anrhydedd dosbarth cyntaf yn 1929. Arhosodd yn Rhydychen i ddilyn rhaglen ymchwil yn y Labordy Clarendon mewn cydweithrediad gyda’r Athro Syr John Townsend. Y profiad hwn fu’n ysgogiad ei ddiddordeb, yn fodd i fireinio ei arbenigedd ac yn ei ddenu am weddill ei oes i gyfaredd sbectrosgopi, prosesau ioneiddiad a mecanwaith gwreichion trydanol. Daliodd y diddordebau hyn pan aeth yn ddarlithydd i Goleg y Brifysgol Abertawe yn 1932.

Fel llawer gwyddonydd arall, secondiwyd ef i wasanaeth y llywodraeth (y Llu Awyr) yn ystod yr Ail Ryfel Byd; bu ar staff y Sefylliad Awyrennau Brenhinol yn Farnborough. Yma fe gymhwysodd ei wybodaeth o ffenomenau ioneiddiad i wendidau a amlygwyd mewn awyrennau ymosodol a rhai oedd yn archwilio o uchder uchel iawn. Yn benodol, astudiodd Llewellyn-Jones nodweddion perfformiad plygiau-gwreichion a chyffordd-magneto.

Ar ei ddychweliad i Abertawe yn 1945, yn Athro a Phennaeth yr Adran Ffiseg, sefydlodd ddwy ysgol ymchwil a dyfodd yn rhai o barch rhyngwladol, yn canolbwyntio ar ffiseg ioneiddiad a ffiseg cyffordd trydan. Ym 1955 aeth y cyntaf o ymchwilwyr ffiseg ioneiddiad o Abertawe i CERN, y sefydliad ymchwil yn Genefa. Mae’r cyswyllt hwn yn dal i ffynnu, 60 mlynedd yn ddiweddarach. Roedd ei ddull o ddarlithio i is-raddedigion yn nes at arddull ennyn diddordeb yn y pwnc nag at fodel o draethiad didactig. Amhosibl iddo oedd cadw at y nodiadau a oedd wedi’u paratoi ymlaen llaw. Byddai yn eu taflu i’r naill ochr ac yn ymroi at driniaeth, bron o’r frest, o agweddau astrus a hynny’n ennill a chadw sylw ei fyfyrwyr. Ofer oedd unrhyw gais gan fyfyriwr i gadw nodiadau taclus ond cawsant weld y darlun.

Ochr yn ochr â’i ddiddordebau ymchwil bu Llewelly-Jones yn frwd iawn ei wasanaeth mewn agweddau gweinyddol yn y coleg, yn Ddeon Gwyddoniaeth, yn Is-brifathro ac yn Brifathro. Y tu allan i fywyd coleg ac ar ôl ymddeol rhoddodd wasanaeth di-flino i nifer o sefydliadau yn Abertawe, yn enwedig y Sefydliad Brenhinol (Amgueddfa Abertawe). Bu’n gefnogwr brwd i’r rheilffordd ar draws Canolbarth Cymru a Rheilffordd y Mwmbwls a deithiai ar ffîn bae Abertawe, gan lafurio’n galed yn erbyn cynlluniau i’w cwtogi a chau.

Mewn teyrnged yn ei angladd dywedodd ei gyfaill ac un o’i ddilynwyr yn y Gadair Ffiseg yn Abertawe,Colyn Grey Morgan, "roedd Frank yn meddu ar bersonoliaeth gynnes a hael … yn llachar o onest, uniongyrchol ei sylw ac yn gwbl ddi-ildio ar faterion o egwyddor Nid oedd yn gynffonwr o fath yn y byd a’i sylwadau cadarn ddim bob amser yn gymeradwy gan y sefydliad … "

I’r sawl a weithiai’n agos gyda ef roedd yn rhyfeddod iddo gadw ei urddas a’i hynawsedd mewn cyfnod blin yn ei fywyd pan fu farw ei ferch o liwcemia a hithau ond yn 16 oed.

Mae awdur yr erthygl hon yn cydnabod ei werthfawrogiad o arweiniad Llewellyn-Jones. Mae llu o wyddonwyr yn teimlo’r un fath, megis Yr Athro Lyn Evans, Cyn-gyfarwyddwr yr LHC yn CERN, yr Organisation européenne pour la recherche nucléaire (Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear), ger Genefa.

Neville Evans, Rhagfyr 2014

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau y rhain gan Dr Neville Evans (Cymraeg):
     Gwyddonwyr o Gymru - Yr Athro Julie Williams; Medi 2014

     Gwyddonwyr o Gymru - Ieuan Maddock C.G.F.; Mehefin 2014

     Gwyddonwyr o Gymru - John Houghton C.G.F.; Mawrth 2014

     Gwyddonwyr o Gymru - David Brunt C.G.F.; Rhagfyr 2013

     Gwyddonwyr o Gymru - Yr Athro John Beynon; Medi 2013
     Gwyddonwyr o Gymru - John Meurig Thomas; Mehefin 2013

(Saesneg yn unig):
     Scientists of Wales - Robert Recorde and William Jones; March 2013
     Scientists of Wales - Richard Tecwyn Williams, F.R.S; December 2012

     Scientists of Wales - Lyn Evans; September 2012
     The rich science heritage of Wales - E G Bowen; June 2012
 

Llun © Llywodraeth Cymru, atgynhyrchwyd o dan Drwydded Llywodraeth Agored v2.0

 © 2014 Caregos Cyf. Hawlfraint

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create