Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Gwyddonwyr o Gymru: William Robert Grove

(March 01, 2015)

English

William Robert Grove (1811-1896)

William Robert Grove

Yn ddiweddar (26ain Chwefror) bu’r diwydiant ffilm rhyngwladol yn cynnal seremoni’r Oscars am 2015 yn Hollywood UDA. Ar yr achlysur blynyddol hwn cyhoeddir enwau enillwyr amrywiol gategorïau cyrhaeddiad, ar sail dewisiadau aelodau Academi’r diwydiant o restrI o enwebiadau. Yn anaml y bydda’ i yn mynd i’r sinema, er gwaethaf bachgendod pan oeddwn yn noddwr selog o’r Welfare Hall leol. O’r herwydd gallaf enwi ond ychydig o ffilmiau ac actorion o’r ugain mlynedd diwethaf; rwyn hollol anwybodus ynghylch enwau cyfarwyddwyr, sgriptwyr, cerddorion ac eraill sy’n feistri ar sgiliau ar gyfer creu ffilm.

Serch hynny, eleni tynnwyd fy sylw at ddau enwebiad ar gyfer y Ffilm Orau, sef, The Theory of Everything a The Imitation Game. Mae’r ddwy yn ymwneud â gwyddonwyr o fri. Mae’n wastad o ddiddordeb i mi wybod mwy am gyflwyniadau anarbenigol ar gyfer y cyhoedd. Rydym yn gyfarwydd â rhaglenni teledu am wyddoniaeth, yn aml gyda gwyddonwyr proffesiynol yn cyflwyno, ond mae ffilmiau yn wahanol ac yn digwydd yn llai aml. Nid am dopigau eu teitlau y mae cynnwys y ddwy ffilm, ond am fywydau y ddau brif gymeriad. Hwyrach, am resymau masnachol, mae’r teitlau dewisedig yn cael eu hystyried yn gryfach eu hapêl i’r cyhoedd sy’n talu na rhywbeth fel,’ Agweddau ar fywyd ….’.

Prif gymeriad The Imitation Game yw Alan Turing (1912-1954), mathemategydd disglair a aned yn Llundain. Gwanaeth ef gyfraniadau enfawr i ddatblygiad gwyddoniaeth gyfrifiadurol. Fe’i cofir yn bennaf gan y cyhoedd am ei waith yn datrys codau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ond mae sylw pennaf y ffilm ar ei brofiadau personol, wrth gael ei erlid yn gymdeithasol a’i erlyn dan y gyfraith, ar sail ei rywioldeb hoyw, cyflwr a ystyrid ar y pryd yn drosedd. Bu i’r cyfryw brofiadau arwain at ei hunan-laddiad yn 42 oed. Nid wyf wedi gweld y ffilm , ond deallaf fod ei deulu yn teimlo dolur mawr, oherwydd camgymeriadau ffeithiol amdano. Dyma gost adloniant a’r rhyddid a geir yn enw trwydded artistig ffilm.

Ni chafwyd yr un feirniadaeth yn erbyn The Theory of Everything sy’n ymwneud â bywyd cynnar Stephen Hawking, cosmolegydd a aned yn 1942 ac a fu, tan yn ddiweddar yn Athro Lucasian Mathemateg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Fe’i gwelir yn aml gan y cyhoedd, yn enwedig ar deledu, yn bennaf, efallai, oherwydd ers nifer o flynyddoedd mae Hawking yn gaeth i gadair olwyn, yn analluog i symud na chyfathrebu heb gymorth technoleg feddygol; hyn oll yn deillio salwch motor niwron. Mae’r ffilm yn canolbwyntio ar ei fywyd teulol ym mlynyddoedd ymosodiad cynnar ei salwch. Yn ôl pob sôn mae’n ffilm dda; ni chafodd wobr Ffilm Orau ond enillodd Eddie Redmayne y wobr Actor Gorau am ei bortread o Hawking.

Oddifewn i wyddoniaeth mae theori pob peth wedi swyno ffisegwyr a mathematgwyr o’r radd flaenaf, gan gynnwys Einstein, ers 1900. Hyd at hynny, dwy theori oedd flaenaf at esbonio pob ffenomen, sef disgyrchiant (gydag Isaac Newton yn brif ladmerydd) ac electromagneteg (gyda James Clerk Mawxwell ar y blaen). Cafodd y ddwy ddamcaniaeth lwyddiant mawr a felly y mae o hyd. Serch hynny, arhosodd y teimlad neu’r grêd y dylai fod un ddamcanaieth, holl-gofleidiol yn esbonio popeth. Hyd yma ni chafwyd y fath beth, er gwaethaf ymdrechion gan luoedd o wyddonwyr o allu arbennig a phencampwyr eu gwahanol ddisgyblaethau, Hawking yn eu plith.

Felly, er na ellir sôn am fodolaeth damcaniaeth popeth, y mae lle i gyfeirio at egwyddor bwysig iawn sy’n sail i weithrediad popeth, gyda diolch i gyfraniad arbennig gwrthrych yr erthygl hon. Yn 1846 cyhoeddodd Grove lyfr yn dwyn y teitl On the Correlation of Physical Forces, lle cynigioidd Egwyddor Cadwraeth Egni. Bydd llawer yn cofio’r ddeddf hon o’u dyddiau ysgol ar ei ffurf gyfarwydd – Ni ellir creu na dinistrio egni, dim ond newid ei ffurf. Grove oedd y cyntaf i roi datganiad ffurfiol i’r hyn sydd yn ddeddf sylfaenol pob proses, boed yn broses naturiol neu o wneuthuriad dynol. Mae’n ymddangos bod y cyflwr dynol yn awchu am gael rhywbeth am ddim, gorau oll cael popeth am ddim, ond mae datganiad Grove yn dangos bod y dyhead hwn yn ofer.

Ganed William Robert Grove ar Orffennaf 11eg, 1811 yn Abertawe. Gan diwtoriaid preifat y cafodd ei addysg gynnar a’i galluogodd i fynd yn fyfyriwr i Goleg Brasenose, Prifysgol Rhydychen. Y Clasuron oedd maes ei astudiaethau, heb unrhyw arwydd o dalent at y gwyddorau. Beth bynnag, yn fuan wedi iddo ymadael â Rhydychen, dihunodd ei allu gwyddonol cudd a rhoddodd ymrwymiad llwyr i amrywiol agweddau. Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg llac oedd strwythur cyfundrefnau addysg a gwyddoniaeth, ond roedd hyn y rhoi rhyddid i dalent polimathig unigolion fel Grove flodeuo heb rwystr. Adeg yr unigolyn oedd hon. Bu Grove yn cymdeithasu a chydweithio gyda’r mawrion, megis Faraday. Erbyn 1841 (30 oed) apwyntiwyd ef yn Athro Athroniaeth Arbrofol cyntaf Sefydliad Llundain.

Nodwedd arall o ystod ei dalentau, ond hefyd o hyblygrwydd y trefniadau i unigolion gael derbyniad iI sawl gyrfa, yw’r ffaith iddo yn1835 (24 oed) gael ei alw i’r Bar yn Lincoln’s Inn, yn seiliedig ar ei astudiaethau yn y Clasuron yn Rhydychen. Ond mae’n ynmddangos iddo ar yr adeg hon yn ei fywyd droi o ymarfer yn y gyfraith er mwyn gweithredu yn y gwyddorau. Yng ngoleuni yr hyn sy’n hysbys am ei yrfa nes ymlaen mae’n demtasiwn iI feddwl ei fod yn ymwybodol o’I allu cynhenid a pheri iddo roi ei ddymuniadau yn y gyfraith o’r naill ochr nes iddo gyflawni ei ddyheadau mewn gwyddoniaeth.

Yn ystod ei gyfnod yn Athro Ffiseg disgleiriodd nid yn unig yn yr agweddau damcaniaethol, bron a bod yn athronyddol, ond hefyd yn ddyfeisydd. Ymhlith ei gampau oedd creu y golau trydan gwynias cyntaf, dyfais a ddatblygwyd yn ddiweddarach gan Edison. Ond erbyn heddiw, ac ond yn ddiweddar yn cael ei werthfawrogi gan y cyhoedd a’r gymuned wyddonol, mae ei enwogrwydd yn dibynnu ar iddo greu y gell danwydd, dyfais sy’n creu trydan o adwaith rhwng hydrogen ac ocsigen. Yn ein dyddiau ni mae’r galw yn cynyddu am ymchwil i fersiynau gwell o ddarparu egni glân a rhad ar sail cell danwydd Grove. Mae’n ymddangos bod y gell fach yn cynnig rhywbeth (neu lawer) am ddim, ond ni ellir torri deddf Grove ynghylch cadwraeth egni. Am ei orchestion gwyddonol etholwyd ef yn Gymrawd y Gymdeithas Wyddonol yn 1840 a daeth yn ddylanwadol iawn yn diwygio’r corff parchus hwnnw.

Pan oedd yn 35 oed ym 1846 cefnodd Grove ar ei waith gwyddonol ac ymgymryd â’r Gyfraith unwaith eto. Yma hefyd daeth yn adnabyddus. Etholwyd ef yn Gwnsler y Frenhines yn 1853. Arbenigodd ar ddeddfau patent, yn enwedig mewn perthynas â ffotograffiaeth, gan dynnu ar ei ddiddordebau gwyddonol o’i fywyd blaenorol. Maes o law yn 1871 daeth yn farnwr ac wedyn yn Farnwr yr Uchel Lys, lle gwasanaethodd am ddeuddeng mlynedd (1875-1887). Cafodd enw da yn farnwr amyneddgar ac annibynnol ei safiad, gan amlygu ‘gwendid’ o bryd i’w gilydd i ochri mewn achosion patent ar gyfer dyfeisiadau. Hwyrach bod ei brofiad personol pan oedd yn ddyfeisydd yn gor-ddylanwadu ar ei niwtraliaeth.

Crewyd ef yn farchog yn 1887 ac y aelod o’r Cyfrin Gynmgor. Bu farw ar y cyntaf o Awst 1896.

Ar unrhyw fesur roedd Grove yn ddyn disglair, yn fwy o ryfeddod oherwydd amrywiaeth y disgyblaethau y bu’n rhagori ynddynt. Prin iawn, os sôn o gwbl, yw’r cyfeiriadau ato mewn gwerslyfrau ffurfiol yn deilwng o anrhydedd oherwydd ef oedd y cyntaf un I gyhoeddi ‘r ddeddf sylfaenol am gadwraeth egni. Efallai bydd hanes a datblygiad y gell danwydd yn cywiro’r cam hwn.

Neville Evans, Mawrth 2015

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau y rhain gan Dr Neville Evans:

Yn y gyfres Gwyddonwyr o Gymru

     Gareth Roberts; Mehefin 2016
Ezer Griffiths; Mawrdd 2016

Handel Davies; Rhagfyr 2015
Mathemategwyr; Medi 2015
Yr Athro Eleri Pryse; Mehefin 2015
William Robert Grove; Mawrth 2015

Frank Llewellyn-Jones; Rhagfyr 2014

Yr Athro Julie Williams; Medi 2014

Ieuan Maddock C.G.F.; Mehefin 2014

John Houghton C.G.F.; Mawrth 2014

David Brunt C.G.F.; Rhagfyr 2013

Yr Athro John Beynon; Medi 2013
John Meurig Thomas; Mehefin 2013

Yn y gyfres Scientists of Wales (Saesneg yn unig)

(Saesneg yn unig):
     Scientists of Wales - Robert Recorde and William Jones; March 2013
     Scientists of Wales - Richard Tecwyn Williams, F.R.S; December 2012

     Scientists of Wales - Lyn Evans; September 2012
     The rich science heritage of Wales - E G Bowen; June 2012
 

© 2015 Caregos Cyf. Hawlfraint

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create