Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Gwyddonwyr o Gymru: Yr Athro Eleri Pryse

(June 01, 2015)

English

Yr Athro Eleri Pryse

Llun Yr Athro Eleri Pryse

Ganed yr Athro Pryse yn Nolgellau. Bu’n ddisgybl mewn ysgolion cynradd yn Nolgellau, Bangor ac Aberystwyth cyn symud am y cyfan o’i haddysg uwchradd i Ysgol Penweddig, Aberystwyth. Ffiseg oedd ei harbenigedd ar gyfer graddio (anrhydedd, dosbarth 1) yn y brifysgol yn Aberystwyth. Yno y bu’n ymchwilio ar gyfer ei doethuriaeth mewn maes sy wedi dal ei diddordeb byth oddiar hynny, sef, nodweddion yr ïonosffer a’u heffeithiau ar donnau radio sy'n lledaenu rhwng lloeren a'r Ddaear.

Ers 1986 mae Eleri wedi bod yn aelod o staff adran ffiseg y brifysgol yn Aberystwyth, gan ddechrau yn gynorthwy-ydd ymchwil ôl-ddoethurol a dringo i fod yn ddarlithydd, yn uwchddarlithydd ac yn ddarllenydd. Penllanw ei gyrfa hyd yma yw derbyn yn nhymor yr hydref 2014 yr anrhydedd o Gadair Bersonol. Yn ogystal â disgleirio mewn ymchwil, bu ei gwasanaeth yn tywys myfyrwyr yn eu hastudiaethau at ennill Ph.D. a'i chyfraniadau i addysgu is-raddedigion yn ganolog iddi drwy gydol ei gyrfa.

Awrora borealis uwchben Bear Lake, Alasca. Llun: Senior Airman Joshua Strang, Awyrlu'r Unol Daleithiau
Awrora borealis uwchben Bear Lake, Alasca
Llun: Senior Airman Joshua Strang, Awyrlu'r Unol Daleithiau

Y mae’r Ddaear yn sffêr (mwy neu lai i’n pwrpas presennol) oddifewn i sffêrau eraill; yr agosaf atom yw’r atmosffer, tarddle ein tywydd. Un arall yw’r ïonosffer, yr atmosffer trydanol, sy’n dechrau ar uchder o tua 60 cilometr gyda'i ddwysedd trydanol mwyaf ar uchder o tua 300 cilometr. Nodwedd arbennig yr ïonosffer yw ei fod yn rhanbarth lle mae cyfran o atomau wedi eu hymrwygo yn ronynnau positif a negatif ar wahân i’w gilydd. Fel arfer mae atomau nwyon yn drydanol niwtral, ond yn yr ïonosffer mae rhai o'r atomau yn ymwahanu gan greu poblogaeth o ïonau positif a phoblogaeth o electronau negatif. Oherwydd hyn y mae’r ïonosffer yn rhanbarth trydanol a felly yn dylanwadu ar systemau radio. Mae’r dylanwad yn fuddiol yn yr ystyr ei fod yn galluogi tonnau radio i deithio dros bellteroedd eang o gwmpas y Ddaear wrth i signalau gael eu hadlewyrchu rhwng yr ïonosffer a'r Ddaear. Ond gall yr ïonosffer gael effaith andwyol ar gywirdeb ein technoloeg fodern, gyda signalau radio systemau mordwyo megis GPS yn cael eu heffeithio gan yr atmosffer trydanol wrth iddynt deithio rhwng y lloerennau a'r Ddaear.

 

Panorama awrora awstralis
Panorama awrora awstralis
Llun: Fir0002/Flagstaffotos, cyhouddwyd dan trwydded GFDL v1.2

Ym mlynyddoedd cynnar ei gyrfa ymchwil, canolbwyntiodd Eleri ar ddatblygu techneg arbrofol newydd i ddelweddu strwythurau yn yr ïonosffer. Nid yw popeth yn unffurf a digyfnewid. Oddeutu chwarter canrif yn ôl awgrymwyd syniad damcaniaethol am ddull newydd i archwilio’r strwythur, sef tomograffi ïonosfferig. Byddai'r dull tomograffi yn defnyddio tonnau radio i ffurfio delwedd (llun) o strwythur yr ïonosffer, ar grid (sleisen) uchder-lledred. Seiliwyd y syniad newydd ar efelychiad (simulation, math o gopi) cyfrifiadurol. Mae tarddiad ieithyddol y gair tomograffi yn awgrymu ‘toriad’ (sleisen) a ‘graffi’ (llun).

Gan dynnu ar ei gwybodaeth ynghylch lledaeniad tonnau radio yn yr ïonosffer bu Eleri’n flaenllaw yn datblygu a gwirio'r dechneg arbrofol a fyddai’n cadarnhau neu wrthod y darogan cyfrifiadurol. Dros amser sefydlwyd tomograffi yn ddull dibynadwy ar gyfer rhoi disgrifiadau o strwythur yr ïonosffer. O dipyn i beth ehangodd Eleri ei rhaglen ymchwil gydag amcan y gwaith yn troi at ddeall dylanwad gwynt yr Haul (llif gronynnau sy’n gysylltiedig â maes magnetig yr Haul) a thywydd y gofod ar atmosffer pegynol y Ddaear ac ar yr ardal awroraidd (bydd llawer wedi gweld lluniau a ffilmiau yn dangos yr awrora borealis ac awrora awstralis ryfeddol). Ffrwyth cydweithio rhyngwladol rhwng tîm yr Athro Pryse a gwyddonwyr rhyngwladol gan gynnwys cydweithwyr yn Norwy yw dealltwriaeth ragorach o’r prosesau yn y gofod rhyngblanedol sy'n effeithio yr atmosffer drydanol ar ledredau uchel.

 

Awroraidd gwyrdd a choch dros Tromsoe, Norwy
Awroraidd gwyrdd a choch dros Tromsoe, Norwy

Llun: Frank Olsen

Er mawr glod iddi ni fodlonodd Eleri ar fwynhau bywyd mewn tŵr ifori, er cyfoethoced ei chyfraniad yno. Bu’n ymroddedig dros amser hir yn y fenter o sefydlu cyrsiau prifysgol yn y gwyddorau ffisegol drwy gyfrwng y Gymaeg. Erbyn hyn mae cyfleoedd i fyfyrwyr ar draws Cymru drwy rwydwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. At hyn bu hi’n hynod weithgar hefyd yn hybu’r gwyddorau yn Eisteddfod yr Urdd a’r Genedlaethol. Mae’n meddu ar ddawn i gyfathrebu’n effeithiol gyda’i chydwyddonwyr ac i gwmnïa’n hynaws adeiladol gydag eraill nad ydynt yn arbenigwyr yn ei maes hi. Mae Cymru’n fawr yn ei dyled.

Neville Evans, Mehefin 2015

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau y rhain gan Dr Neville Evans (Cymraeg):
     Gwyddonwyr o Gymru - William Robert Grove; Mawrth 2015

     Gwyddonwyr o Gymru - Frank Llewellyn-Jones; Rhagfyr 2014

     Gwyddonwyr o Gymru - Yr Athro Julie Williams; Medi 2014

     Gwyddonwyr o Gymru - Ieuan Maddock C.G.F.; Mehefin 2014

     Gwyddonwyr o Gymru - John Houghton C.G.F.; Mawrth 2014

     Gwyddonwyr o Gymru - David Brunt C.G.F.; Rhagfyr 2013

     Gwyddonwyr o Gymru - Yr Athro John Beynon; Medi 2013
     Gwyddonwyr o Gymru - John Meurig Thomas; Mehefin 2013

(Saesneg yn unig):
     Scientists of Wales - Robert Recorde and William Jones; March 2013
     Scientists of Wales - Richard Tecwyn Williams, F.R.S; December 2012

     Scientists of Wales - Lyn Evans; September 2012
     The rich science heritage of Wales - E G Bowen; June 2012
 

© 2015 Caregos Cyf. Hawlfraint

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create