Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Emlyn Davies - Y ddau gochyn

(June 01, 2015)

English

Mae Emlyn Davies yn gyn-ddarlledwr a ddechreuodd ei yrfa gyda BBC Cymru fel cyflwynydd a chynhyrchydd. Cafodd ei benodi’n Brif Gomisiynydd cyntaf S4C cyn ymuno â rhengoedd y sector annibynnol i ffurfio ei gwmni cynhyrchu ei hun. Yn wreiddiol o Lanberis, mae'n byw ym Mhentyrch.

 

Yma, yn y cyntaf o gyfres am y Cymry sy'n haeddu adnabyddiaeth mwy helaeth, mae Emlyn yn rhoi cipolwg ar

Y ddau gochyn

"Canmolwn yn awr y gwŷr enwog", meddai'r cyfarwyddyd yn yr Apocryffa. Rydym fel cenedl yn rhai da am wneud hynny ar adegau, ond nid yw bod yn enwog yn gyfystyr â bod yn rhinweddol o bell ffordd. Weithiau, bydd pobl a ddylai gael eu cofio a’u hanrhydeddu fel cymwynaswyr yn mynd yn angof gennym, tra bod eraill yn cael eu cofio a’u dyrchafu am weithredoedd annheilwng.

Daeth hynny'n amlwg iawn i mi'n ddiweddar wrth edrych ar hanes dau gymeriad oedd yn cydoesi yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cawsant eu geni o fewn blwyddyn i'w gilydd a buont farw o fewn blwyddyn i'w gilydd. Câi'r ddau eu hadnabod wrth ffugenwau, a'r enwau hynny’n cyfeirio at eu gwallt coch. Cochfarf oedd enw'r naill, a'r llall yn cael ei adnabod fel Coch Bach y Bala. Roedd cyfraniad Cochfarf at yr iaith Gymraeg ac at fywyd Caerdydd yn ystod blynyddoedd ei thwf yn sylweddol, ond prin yw'r cof amdano erbyn heddiw, ar lafar nac mewn print. Mae Coch Bach y Bala, ar y llaw arall, wedi ei anfarwoli mewn mwy nag un gyfrol, a hynny am ei weithredoedd fel drwgweithredwr. Enillodd ail ffugenw iddo'i hun, sef "yr Houdini Cymreig", oherwydd ei gampau rhyfeddol yn dianc o fwy nag un carchar.

Coch Bach y Bala, John Jones (1854-1913)

Emlyn - Cerdyn post ar farwolaeth Coch Bach y Bala, Prifysgol BangorCerdyn post ar farwolaeth Coch Bach y Bala
Llun: © Prifysgol Bangor

Lleidr di-ildio oedd John Jones a aned yn Llanfor, ger Y Bala, ac yno y dechreuodd wneud enw iddo’i hun yn rhinwedd ei ddwylo blewog. Dyma hanesyn a ymddangosodd yn y North Wales Weekly Times ar y pedwerydd o Hydref 1913:

"Dihangodd John Jones o Garchar Rhuthun fore dydd Mawrth mewn dull hynod gyffrous, ac ar adeg ysgrifennu'r erthygl hon mae'n dal â'i draed yn rhydd. Llwyddodd i ennill ei ryddid o ganlyniad i ddewrder di-ildio, cryn graffter ac ystwythder hynod... mae rhai'n ystyried bod 'Coch Bach' yn arwr; mae ei berfformiad yn wir yn dangos dewrder."

Rydym yn gorfod atgoffa'n hunain mai sôn am droseddwr cyson, digon creulon a di-egwyddor y mae'r gohebydd. Treuliodd y Coch Bach bron i hanner ei oes dan glo yn y carchar, a hynny am ddwyn a thorri i mewn i dai a siopau a thafarnau. Bu gerbron y llysoedd o leiaf ddeg o weithiau, ac unwaith roedd y cyhuddiad yn wirioneddol ddifrifol, sef annog torf i ymosod ar yr heddlu yn Y Bala.

Llwyddodd i ddianc o'r carchar am y tro cyntaf ym 1879. Roedd yn 25 oed ar y pryd, yn cael ei gadw yng ngharchar Rhuthun am ddwyn pymtheg o watsus. Yn ôl y sôn, llwyddodd i agor drws ei gell, a drysau celloedd tri charcharor arall, a cherddodd y pedwar allan o’r carchar drwy'r prif ddrws tra roedd y ceidwaid yn cael swper.

Ym 1906 fe'i cyhuddwyd o fwrgleriaeth ac o ymosod yn greulon ar fenyw 71 oed yn Abererch ger Pwllheli, a phan ddaeth gerbron yr ynadon fe ddechreuodd annerch y fainc rywdro ganol y prynhawn ac fe aeth ymlaen tan dri o'r gloch y bore wedyn. Ond fe'i cafwyd yn euog o'r troseddau, ac fe dreuliodd y saith mlynedd nesaf yn Dartmoor. Erbyn 1913 roedd yng Ngharchar Rhuthun unwaith eto, a thyllodd drwy wal y gell, gan defnyddio ei ddillad gwely i wneud rhaff, a dringo i'r llawr dros wal y carchar.

Bu ar ffo am chwe niwrnod cyn cael ei weld ar dir Ystad Nantclwyd, rai milltiroedd o Ruthun, ar gyrion pentref Llanelidan. Cafodd ei saethu, a bu farw o'i anafiadau. Os oedd y Coch Bach yn arwr cyn hynny, roedd pawb yn sôn amdano yn ganmoliaethus iawn erbyn hyn. Lluniwyd cerdyn post yn dangos llun ei angladd, ac un arall yn dangos y gamfa lle cafodd ei saethu, a gwerthwyd cannoedd ar gannoedd ohonyn nhw.

Hyd y dydd heddiw, mae pobl yn cofio'n annwyl am y Coch Bach, yn rhyfeddu at ei anturiaethau ac yn mawrygu ei gampau. Ond prin iawn yw'r rheiny sy'n sôn am y cochyn arall ...

Cochfarf, Edward Thomas (1855-1912)

Llun Cochfarf gan C. C. Williams Eiddo, Cyngor Caerdydd
Llun Cochfarf gan C. C. Williams Eiddo,
Llun: © Cyngor Caerdydd

Brodor o'r Betws, Maesteg, oedd Cochfarf, neu Edward Thomas i roi ei enw bedydd iddo. Erbyn iddo gyrraedd ei 23 oed ym 1878, roedd wedi cyrraedd Caerdydd, ac wedi cael gwaith yn adeiladu Neuadd y Dref yn Heol y Santes Fair. Yn nes ymlaen, daeth yn faer y ddinas ac yn gynghorydd dylanwadol iawn. Ymfalchïai na fedrai air o Saesneg nes cyrraedd ei 14 oed, ac felly go brin iddo erioed freuddwydio y byddai ganddo, ryw ddydd, ei golofn Saesneg ei hun yn y Weekly Mail, oedd ar y pryd yn cylchredeg nid yn unig yng Nghaerdydd ond dros rannau helaeth o Wlad yr Haf a Swydd Caerloyw. A byddai Cochfarf, yn ei Saesneg coeth, yn trafod barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg yn ogystal â phynciau llosg y dydd.

Ac roedd hynny'n elfen bwysig o’i bersonoliaeth. Roedd dwy farn ymysg Cymry Caerdydd ar y pryd – rhai am gadw'n fewnblyg i ddiogelu'r iaith, a'r lleill, fel Cochfarf, am gyhoeddi eu Cymreictod o doeau'r tai er mwyn lledaenu'r neges ac ennill ewyllys da i'r iaith mewn cylchoedd ehangach.

O fewn blwyddyn i gyrraedd Caerdydd, ef oedd ysgrifennydd yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd ym Mharc Cathays ym 1879. Flwyddyn yn ddiweddarach, ym1880, aeth i weithio i’r Cardiff Coffee Tavern Company a gwneud cryn dipyn o enw iddo’i hun drwy feirniadu ei gyflogwyr am agor ar y Sul. Teimlai mor gryf nes penderfynu gwneud safiad drwy ymddiswyddo o’r cwmni, ac agor ei dafarn goffi ei hun yn Stryd y Tolldŷ. Cyn bo hir agorodd ddau arall, y Metropole ar gyfer gorsaf y Taff Vale Railway , a'r Red Dragon yn ardal y dociau. Ym 1890, cafodd ei ethol yn gynghorydd ar gyngor y ddinas, ac erbyn 1902 ef oedd maer y dref, ac fe’i gwelodd yn dod yn ddinas ym 1905.

Un rheswm pam fod hanes Edward Thomas mor ddiddorol yw'r ffaith ei fod yn cynrychioli math arbennig o berson oedd yn gyfrifol am wneud Caerdydd yr hyn ydyw heddiw. Roedd Cochfarf a’i debyg yn benderfynol o wneud Caerdydd yn brif dref Cymru, yn dref Gymraeg a Chymreig, a'u blaenoriaeth oedd ceisio hybu delwedd Gymreig ‘Metropolis Cymru’.

Bryd hynny, roedd bri mawr ar y Gymraeg yng Nghaerdydd, er mai dim ond 10.7% o'r boblogaeth o 116,207 oedd yn medru'r iaith, ond roedd hynny'n golygu 12,000 o siaradwyr Cymraeg, a charfan gref ohonynt yn ddynion busnes mawr eu dylanwad. Un o'r sefydliadau diwylliannol mwyaf dylanwadol oedd Cymrodorion Caerdydd, cymdeithas a sefydlwyd ym 1885 yn nhŷ coffi Cochfarf.

Roedd ganddo ddiddordeb eang mewn hanes a hynafiaethau ac felly roedd yn naturiol efallai mai ef oedd y pwerdy oedd yn gyrru'r ymgyrch i sefydlu Llyfrgell Rydd yn Yr Ais yng Nghaerdydd. Yn Fedyddiwr rhonc, rhoes oes o wasanaeth fel diacon yng nghapel y Tabernacl, ac roedd yn Rhyddfrydwr rhonc o ran ei wleidyddiaeth. Fe ymddengys ei fod yn agos iawn at David Lloyd George yn ôl yr ohebiaeth sydd ar gael rhyngddyn nhw. Bu'n ymladd yn gryf o blaid datgysylltu a dadwaddoli'r Eglwys Wladol Sefydledig. Bu'n Geidwad y Cledd yng Ngorsedd y Beirdd, a gohebai â Mrs Augusta Herbert, merch Arglwyddes Llanofer ym 1907, ynglŷn ag ailsefydlu'r delyn fel offeryn cenedlaethol Cymru.

Roedd Cochfarf yn ddirwestwr pybyr. Closiodd yn arbennig at y Gwyddelod, a gresynai wrth weld beth oedd dylanwad alcohol ar y gymdeithas honno. Wedi iddo ddod yn faer, penderfynodd wahardd pob diod feddwol o barlwr y maer, a hyd yn oed o'r gwleddoedd a'r ciniawau dinesig.

Yn ôl y wybodaeth am ei waith ar ffurflen Cyfrifiad 1901, roedd yn ystyried ei hun yn Ynad Heddwch, newyddiadurwr a pherchennog gwesty, ond fe welir bod ei gyfraniad at fywyd cyhoeddus Caerdydd yn llawer mwy na hynny. Pan ymwelodd yr Eisteddfod â Chaerdydd ym 1899, anrhydeddwyd nifer o ymwelwyr o'r gwledydd Celtaidd. Un o ddyletswyddau Cochfarf yr wythnos honno oedd bod yn dywysydd i Wyddel ifanc a dderbyniwyd i'r Orsedd dan yr enw "Areithiwr", sef neb llai na Pádraig Pearse. Ganrif yn ddiweddarach, ym mis Tachwedd, 1999, dadorchuddiwyd cofeb gan y Gwyddelod yn swyddfa is-gennad Iwerddon yng Nghaerdydd i gofio am yr anrhydedd roddwyd i Pádraig Pearse.

Tybed pryd y bydd trigolion Caerdydd, a gweddill Cymru, yn penderfynu cofio am Cochfarf?

Emlyn Davies, Mehefin 2015

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau hyn gan Emlyn Davies:

     Ynysyfelin: cymuned goll; Mawrth 2017
Laura Ashley; Rhagfyr 2016
Adelina Patti
, Medi 2016
Billy Hughes
; Mehefin 2016

Coed y Bleiddiau; Mawrth 2016
Betsi Cadwaladr; Rhagfyr 2015
Syr Thomas Artemus Jones; Medi 2015

cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan:
Caregos Cyf.,
2015

 

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create