Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Emlyn Davies - Syr Thomas Artemus Jones

(September 01, 2015)

English

Syr Thomas Artemus Jones (1871-1943)

Syr Thomas Artemus Jones, © National Portrait Gallery, London
Syr Thomas Artemus Jones, 28 Ebrill 1919
gan Bassano Ltd, negatif gwydr plât-cyfan
Llun: © National Portrait Gallery, Lundain

Weithiau, gall troeon yr yrfa greu sefyllfa llawn eironi annisgwyl yn hanes rhai pobl, ac un o’r rheiny sy’n cael sylw yn yr erthygl hon. Yn ei ddydd, roedd y gŵr y sonnir amdano yma yn ymgyrchydd brwd dros yr iaith Gymraeg; brwydrodd yn galed i ennill lle teilwng iddi mewn llysoedd barn, a’i freuddwyd fawr oedd gweld cyfundrefn gyfreithiol ar wahân i Gymru. Ond yn anffodus, caiff ei gofio am ddigwyddiad diflas iawn yn ei hanes a’i gwnaeth yn enwog ledled y byd am y rhesymau anghywir, ac fe erys yn gyff gwawd oherwydd hynny mewn rhai cylchoedd.

Brodor o dref Dinbych oedd Thomas Artemus Jones, ac fe’i ganed mewn stryd o’r enw Lôn Abram, oedd yn enwog am ei thlodi a’i meddwdod. Ef oedd chweched mab Jane, a’i gŵr Thomas Jones, saer maen yn Chwarel y Graig, nid nepell o’r dref. O ystyried yr hyn a gyflawnodd yn ystod ei oes, mae ei hanes cynnar yn destun rhyfeddod. Gadawodd yr ysgol yn un ar ddeg oed, ac aeth i weithio mewn siop bapurau newydd ar blatfform yr orsaf leol. Yno, dechreuodd ddysgu Saesneg drwy bori yn y papurau newydd, a magodd ddiddordeb mewn newyddiaduraeth. Fin nos, yng ngolau’r hen lamp baraffîn, byddai ei fam yn dysgu llaw fer iddo, ac yntau’n codi yn oriau mân y bore bach i ymarfer y grefft.

Yn un ar bymtheg oed, cafodd swydd fel gohebydd ar y papur lleol, y Denbighshire Free Press, a buan iawn yr enillodd ei blwyf fel newyddiadurwr craff a medrus. Yr hyn a ddaeth ag ef i amlygrwydd yn anad dim arall oedd ei adroddiadau meistrolgar o derfysgoedd Rhyfel y Degwm yn ardal Llanefydd. Penderfynodd yr Artemus ifanc ledaenu ei orwelion ac felly gadawodd ei fro enedigol i weithio ar bapurau lleol yn Henffordd a Manceinion. Erbyn 1896 ’roedd wedi ymuno â staff y Daily Telegraph fel gohebydd seneddol, ond mae’n amlwg iddo fod yn enaid aflonydd gan iddo symud i’r Daily News, cyn penderfynu maes o law nad y byd newyddiadurol oedd ei gariad cyntaf wedi’r cwbl. Yn sgil y mynych ymweliadau â llysoedd barn yn rhinwedd ei swydd, roedd wedi ymserchu ym myd y gyfraith, ac felly ymunodd â’r Middle Temple, a chafodd ei alw i’r bar yn 1901.

Yn gymharol fuan, roedd Thomas Artemus Jones wedi cymryd rhan mewn sawl achos o bwys, megis yr achos athrod enwog a ddygwyd gan yr Arglwydd Penrhyn yn 1903 yn erbyn W.J. Parry, ysgrifennydd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru.

Ond yna, yn 1909, daeth i enwogrwydd am reswm annisgwyl iawn. Ym mis Gorffennaf, 1908, cyhoeddwyd erthygl yn y Sunday Chronicle o waith Charles Dawbarn, gohebydd y papur ym Mharis. Ysgrif ddychanol oedd hon yn hytrach nag adroddiad ffeithiol, ond ni wnaed hynny’n ddigon eglur, ac ynddi disgrifiwyd y modd y byddai rhai pobl yn camymddwyn yn ystod y rasys ceir yn Dieppe, gan ddefnyddio’r achlysur i ddiota, hel merched a gamblo. Aeth yr awdur yn ei flaen i ddweud: "There is Artemus Jones, with a woman on his arm who is not his wife, and who must be - you know - the other thing! He is the life and soul of a gay little band that haunts the casinos and turns night into day. Who would suppose by his goings-on that he was a churchwarden at Peckham."

Syfrdanwyd Thomas Artemus Jones o ddarllen y fath eiriau, a doedd dim gwir reswm i unrhyw un o’i gydnabod yn Ninbych amau gwirionedd yr adroddiad. Er y gwyddai pawb na fu’r Artemus hwn erioed yn warden eglwys yn ardal Peckham, roedd y drwg wedi’i wneud, ac yntau’n destun sbort, gyda’i enw da wedi ei ddifrïo am byth. Penderfynodd ddod ag achos o enllib yn erbyn y perchennog, Edward Hulton, oedd yn digwydd bod yn un o’r dynion mwyaf pwerus yng ngwledydd Prydain ar y pryd, ond fe lwyddodd i sicrhau gwasanaeth y bargyfreithiwr disglair George Hewart i ymladd yr achos ar ei ran.

Mynnai’r Sunday Chronicle na wyddai’r colofnydd na’r cyhoeddwyr am fodolaeth ein Artemus ni, felly ’doedd dim modd iddyn nhw fod yn euog o enllib. Sut yn y byd y gall awdur enllibio rhywun nad yw yn ei adnabod? Ac wedi’r cwbl, doedd y bargyfreithiwr Artemus Jones ddim yn warden eglwys nac yn byw yn Peckham.

Wrth edrych yn ôl, mae’n ddiddorol i ni heddiw sylwi mai dwyn achos yn erbyn perchennog y papur newydd wnaeth Artemus Jones, yn hytrach nag yn erbyn awdur y geiriau. Eto, mae lle cryf i gredu fod Dawbarn yn gwybod yn iawn am fodolaeth Artemus, a bod y darn yn fwriadol faleisus. Y gred yw eu bod wedi croesi cleddyfau rai blynyddoedd ynghynt pan oedd Artemus yn gweithio ar y Daily News. Yn wir, pe bai’r cyhoeddwyr wedi trafferthu i chwilio i mewn i’r enw, gan ei fod yn un mor anghyffredin, fe fydden nhw wedi gweld bod Thomas Artemus Jones ei hun wedi ysgrifennu i’r Sunday Chronicle yn y gorffennol. Ond mae’n debyg mai cyngor Gordon Hewart iddo oedd y byddai’n haws ennill yr achos drwy anwybyddu’r malais, a dim ond ceisio profi bod ei enw da wedi ei niweidio, boed hynny’n fwriadol ai peidio.

 

A hynny a wnaed. Ond pan ddaeth yr achos gerbron y rheithgor mewn llys ym Manceinion, fe osodwyd y trywydd ar gyfer y gwrandawiad gan eiriau’r barnwr, Mr Ustus Channell, “Y cwestiwn i’r rheithgor ei ystyried yw a fyddai pobl resymol sy’n adnabod Artemus Jones, o ddarllen yr erthygl hon, yn credu ei bod yn cyfeirio ato ef? Os oes pobl yn credu bod yr erthygl yn cyfeirio at yr achwynydd, does dim gwahaniaeth faint ydyn nhw o ran nifer, boed yn un neu’n hanner cant.” Wyddom ni ddim a fu’r gosodiad hwnnw’n ddylanwad ar y rheithfarn, ond y canlyniad oedd canfod o blaid Artemus, a dyfarnu £1,750 iddo fel iawndal. Ac er i Hulton fynnu llusgo’r achos i’r Llys Apêl a hyd yn oed i Dŷ’r Arglwyddi, fe safodd y dyfarniad a’r swm.

 

Ond roedd yna effaith pell-gyrhaeddol a difrifol iawn i’r dyfarniad. Roedd hyn yn golygu y gallai cyhoeddwr enllibio person nad oedd yn ei adnabod, ac nad oedd erioed wedi bwriadu unrhyw ddrwg iddo. A dyna greu sefyllfa hunllefus i newyddiadurwyr ac i awduron yn gyffredinol. O hynny ymlaen, dechreuodd cyhoeddwyr a chynhyrchwyr ffilmiau gynnwys brawddeg i’r perwyl nad oes yn y gwaith unrhyw gyfeiriad at rhywun byw. Er enghraifft: "Dychmygol yw holl gymeriadau’r nofel hon a damweiniol hollol yw unrhyw debygrwydd i berson byw." Ac mae’n rhyfeddol i feddwl bod nofelwyr megis Dan Brown a chynhyrchwyr ffilmiau fel Spielberg yn dal i orfod cynnwys y geiriau hyn oherwydd yr hyn a ddigwyddodd i’r gŵr a aned yn Lôn Abram, Dinbych.

 

O ganlyniad i hynny, a’r ffaith fod ei enw yn un mor anghyffredin, fe ddaeth Thomas Artemus Jones yn gyff gwawd i lawer un, a does dim dwywaith amdani mai am hynny y caiff ei gofio’n bennaf erbyn heddiw, ac mae hynny’n drueni mawr. Gwnaeth gyfraniad aruthrol mewn cyfeiriadau eraill, sydd mewn perygl o fynd yn angof erbyn hyn.

 

Cafodd ei urddo’n farchog yn 1930 a’i benodi’n farnwr yng ngogledd Cymru, a daeth i gael ei ystyried yn berson cynnes a charedig tu hwnt. Mae’n wir y bydd rhai pobl yn edliw iddo dderbyn swydd cadeirydd Tribiwnlys Gwrthwynebwyr Cydwybodol Gogledd Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd, swydd y bu ynddi hyd at ei farwolaeth yn 1943, ond mae’r hanesion am ei ofal dros yr anghenus yn niferus iawn. Un enghraifft o’i gonsýrn dros deuluoedd bregus oedd ei waith fel barnwr y llys sirol yn ardal Wrecsam yn gwrando ceisiadau gwragedd gweddwon am gymorth ariannol yn dilyn Tanchwa Gresfordd yn 1934. Byddai bob amser yn ofalus, yn dyner ac yn gyfiawn.

Roedd yn frwd iawn o blaid y Gymraeg yn y llysoedd, gan ganiatáu i’r sawl a fynnai gael siarad Cymraeg yn ei lysoedd, ac ymgyrchodd yn frwd dros gael rhwydwaith o gyfieithwyr safonol i wasanaethu’r gyfraith. Un enghraifft o’r broblem gyda’r cyfieithu y byddai Artemus yn cyfeirio ati oedd yr achlysur anffodus pan ddywedwyd wrth un o’r tystion ei fod yn mynd i gael ei groeshoelio. Roedd hwnnw wedi dychryn am ei fywyd nes i Artemus, fel barnwr, egluro iddo mai ‘croesholi’ roedd y cyfieithydd yn ei feddwl, nid ‘croeshoelio’.

Roedd hefyd yn un o’r rhai cyntaf i alw am benodi Ysgrifennydd Gwladol i Gymru, a bu’n weithgar iawn gyda’r mudiad Cymru Fydd. Fe safodd fel ymgeisydd seneddol dros y Rhyddfrydwyr deirgwaith, ond yn aflwyddiannus.

Gŵr o flaen ei oes oedd Artemus Jones. Mae’n drueni ein bod yn cofio amdano’n bennaf am reswm anffodus, yn hytrach nag am ei fod yn un o gymwynaswyr mawr yr iaith Gymraeg.

Emlyn Davies, Medi 2015

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau hyn gan Emlyn Davies:

     Ynysyfelin: cymuned goll; Mawrth 2017
Laura Ashley; Rhagfyr 2016
Adelina Patti
, Medi 2016
Billy Hughes
; Mehefin 2016

Coed y Bleiddiau; Mawrth 2016
Betsi Cadwaladr; Rhagfyr 2015
Y ddau gochyn; Mehefin 2015

cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan:
Caregos Cyf.,
2015

 

 

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create