Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Emlyn Davies - Betsi Cadwaladr (Cymraeg)

(December 01, 2015)

English

Betsi Cadwaladr (1789-1860)

Betsi Cadwaladr

Pan ffurfiwyd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr chwe blynedd yn ôl, roedd yr enw’n destun balchder i lu o edmygwyr y nyrs o Lanycil. O’r diwedd, wedi blynyddoedd o gael ei hanwybyddu, roedd hwn yn gyfle i gydnabod ei gwasanaeth disglair. Roedd yna lawenydd o feddwl y byddai cenedlaethau’r dyfodol yn cofio ei hymroddiad ar faes y gad yn y Crimea.

Erbyn heddiw, gyda’r Bwrdd Iechyd yn gyson yn y newyddion am ei ddiffygion a’i ffaeleddau, mae dyn yn gresynu i berson fel hi gael ei chyplysu â sefydliad sy’n ennyn cymaint o feirniadaeth a dicter. Efallai bod hynny’n fwy o reswm byth i ni fanteisio ar bob cyfle posibl i adrodd stori’r wraig a ddylai fod wedi cael llawer o’r clod am orchestion Florence Nightingale.

Doedd y ffaith i’r wasg a’r awdurdodau fawrygu delwedd Florence Nightingale yn ei dydd ar draul nyrsus eraill fel Betsi Cadwaladr ddim yn syndod. Roedd Nightingale yn rhan o chwedl, ac roedd diben gwleidyddol i’r chwedl honno a ddenodd holl rym y sefydliad Seisnig y tu cefn iddi.

Gant a thrigain o flynyddoedd yn ôl, yn 1855, roedd llawer o’r sylw yn nhudalennau’r papurau dyddiol yn mynd i’r gwrthdaro yn y Crimea. Ar Chwefror 24ain y flwyddyn honno, cyhoeddodd yr Illustrated London News stori am nyrs yn y Crimea, a dangoswyd llun ohoni. Mae’n ei dangos yn cerdded drwy ganol rhes o filwyr sydd wedi eu clwyfo, yn cario lamp. Ei henw oedd Florence Nightingale.

A ward of the hospital at Scutari where Cadwaladr & Nightingale worked
Un o wardiau Ysbyti Scutari,
  lithograff gan William Simpson, 1856

A dyna eni chwedl. Hwn oedd y rhyfel cyntaf erioed i gael ei ddogfennu’n ofalus mewn gair a llun gan y papurau newydd, a dyna un o’r enghreifftiau cynharaf o heip y wasg. Hyd yn hyn, dim ond penawdau negyddol oedd wedi bod am y Crimea, ac roedd y cyhoedd yn colli ffydd yn yr arweinwyr wrth glywed am y colledion. Ond dyma stori am nyrs yn dangos consýrn a thosturi. Roedd hi fel angel wrth ei gwaith: yr union beth roedd ei angen i ennill pobol drosodd i gefnogi’r rhyfel. Gwelwyd un llun yn newid agwedd, a grym y llun hwnnw yn argoel cynnar o ddylanwad y wasg. Ganwyd “Florence mania”.

Dechreuwyd gwerthu lluniau ohoni - rhai dychmygol fel arfer - gan artistiaid nad oedd wedi ei gweld erioed. Cynhyrchwyd modelau bach porslen ohoni, posteri a matiau brodwaith. Crëwyd caneuon a barddoniaeth amdani, a hyn i gyd yn arwydd ei bod, efallai, y seren gyntaf i gael ei chreu gan y wasg.

Doedd hi ei hun ddim yn mwynhau’r enwogrwydd yn ôl pob sôn, a bu byw am hanner canrif ar ôl hynny, yn dioddef o iselder, ac yn gaeth i’w gwely am y rhan fwyaf o’r amser. Eto roedd y myth amdani yn dal yn fyw.

Y gwirionedd yw mai rheolwraig oedd Florence Nightingale, yn gweinyddu a threfnu, ac er y byddai weithiau’n mynd o gwmpas y wardiau yn y nos, nid ei phriod waith hi oedd nyrsio’r milwyr yn uniongyrchol. Mae’n wir iddi wneud cyfraniad aruthrol, a ffolineb fyddai bychanu hynny, ond doedd gwir natur ei chyfraniad ddim yn cyfateb i’r hyn a ddarluniwyd yn yr heip a ysgubodd drwy Brydain. Ei chymwynas fawr oedd gwella glendid mewn ysbytai, gwella cyfleusterau i gleifion, rhoi pwyslais ar fwyd, ac am y tro cyntaf erioed, gwneud nyrsio yn broffesiwn parchus, anrhydeddus.

Ond mae lle i gredu nad o ben a phastwn Florence Nightingale y daeth llawer o’r syniadau am y newidiadau hyn yn y byd nyrsio. Mae’n bosibl mai gweledigaeth Betsi Cadwaladr oedd amryw o’r diwygiadau.

Yn wahanol i Florence, nyrs ar y wardiau oedd Betsi, yn gweithio oriau meithion ddydd a nos ynghanol y cleifion, yn agos iawn at y brwydro ar y llinell flaen. A doedd Betsi a Florence ddim yn gweld lygad yn llygad. Roedden nhw’n ddwy bersonoliaeth gwbl wahanol, gyda Florence yn credu mewn cadw rheolau a chreu strwythurau, tra roedd Betsi yn fwy pragmataidd, yn mynnu newid pethau yn y fan a’r lle os oedd angen, hyd yn oed os oedd hynny’n groes i’r rheolau. Iddi hi, lles y milwyr oedd yn bwysig, ac nid y mân reolau, a dyna pam y byddai’r dwy ohonyn nhw’n gwrthdaro mor aml.
 

Florence Nightingale
Florence Nightingale, a lysenwyd "The Lady with the Lamp"

Maes o law, daeth Florence i weld mai Betsi Cadwaladr oedd yn iawn, ac fe gyfaddefodd hynny, gan dderbyn llawer o syniadau’r Gymraes.

Elizabeth Cadwaladr oedd ei henw bedydd, ac fe’i ganed yn un o 16 o blant i Dafydd Cadwaladr a’i wraig Judith Erasmus ar fferm Pen-Rhiw yn Llanycil, Y Bala. Bu farw ei mam pan oedd Betsi’n bump oed, ac felly syrthiodd y cyfrifoldeb o ofalu am y teulu ar ei chwaer. Roedd ei thad yn weinidog llym iawn ei ddisgyblaeth, ac er mawr ryddhad i’r eneth fach, cafodd ei hanfon yn forwyn, yn naw oed, at ŵr o’r enw Simon Lloyd ym Mhlas-yn-dre, Y Bala. Roedd hithau wrth ei bodd yno, a chafodd gyfle i ddysgu darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg, a chanu’r delyn deires. Cafodd Feibl yn anrheg gan Thomas Charles, a bu hwnnw ganddi drwy gydol ei hoes, dros y byd i gyd, hyd at ddydd ei marw.

Yn 14 oed, penderfynodd yr hoffai weld y byd, ac aeth i Lerpwl, lle y cafodd waith fel morwyn, a lle y newidiodd ei henw i Betsi Davis am bod pobl yn Lerpwl yn ei chael yn anodd i ynganu ‘Cadwaladr’. Bu’n ffodus i weithio i wahanol deuluoedd oedd yn teithio’n helaeth, ym Mhrydain ac ar y cyfandir, a dechreuodd ymddiddori yn y theatr. Symudodd i Lundain yn 1820 a dod yn nani i deulu capten llong cyfoethog.

Ymhen amser, trodd at nyrsio, a chael swydd yn Ysbyty Guy’s yn nyrsio cleifion preifat.

Cythruddwyd hi gan yr adroddiadau papur newydd am yr ymladd yn y Crimea, ac felly yn 1854, gwnaeth gais am gael mynd i ganol y brwydro. Gwireddwyd ei dymuniad, ac fe’i cafodd ei hun yn atebol i Florence Nightingale yn Ysbyty Scutari, sef y brif ysbyty Brydeinig yn y Crimea.

Roedd Betsi erbyn hyn yn 65 oed, ac roedd bydoedd Florence a hithau ymhell ar wahân.

Dwy wraig gydag ewyllys gref, yn methu gweld lygad yn llygad, ac yn sicr o wrthdaro. Roedd Betsi yn wallgof am fod Florence yn ei gorfodi i wnïo crysau a thrwsio hen blancedi oedd yn pydru. Gadawodd yr ysbyty a theithio i ysbyty arall yn ardal Balaclava oedd ar y llinell flaen, lle roedd hi’n gofalu am y milwyr oedd newydd gael eu clwyfo yn y brwydro. Yn y fan honno, daeth yn amlwg fod ganddi ddawn arbennig i goginio bwyd da, maethlon, a chafodd ei rhoi yng ngofal yr adran oedd yn gofalu am ddeiet y milwyr gydag anghenion arbennig. Roedd wedi gwneud argraff fawr ar bawb, nid yn unig am ei gwaith caled, ond am ei bod yn rhoi lles y milwyr o flaen unrhyw fân reolau dibwys. Betsi oedd yr un oedd yn medru cyflawni rhywbeth wedi i bawb arall fethu. O weld ei llwyddiant, cyfaddefodd Florence Nightingale fod dulliau Betsi’n gweithio.

Yn anffodus, oherwydd blinder ac oherwydd i’w hiechyd dorri, bu’n rhaid i Betsi ddychwelyd i Brydain, ond mynnodd Florence ei bod yn cael pensiwn gan y wladwriaeth. Roedd Florence yn llawn edmygedd a chanmoliaeth o Betsi erbyn hyn, ond fu gan Betsi erioed air da i’w ddweud am Florence. Roedd yn ddeifiol ei beirniadaeth ohoni.

Pan ddaeth yn ôl i Lundain, aeth i fyw at ei chwaer, Bridget, oedd wedi bod yn gweithio i Arglwyddes Llanofer drwy ei hoes. Ym 1860 bu farw Betsi yn Llundain, a chladdwyd hi mewn bedd tlotyn ym mynwent Abney Park, Llundain, sef yr un fynwent a ble y claddwyd Henry Richard, yr Apostol Heddwch.

Am flynyddoedd lawer, doedd neb yn gwybod dim am hanes Betsi, nac am fan ei chladdu, ond yn Awst 2012, cynhaliwyd gwasanaeth ar lan ei bedd gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Nyrsus, a dadorchuddiwyd cofeb iddi.

Roedd hi’n wraig benderfynol, a does dim dwywaith amdani mai ei syniadau a’i gweledigaeth hi a fu’n gyfrifol am lawer o’r newidiadau yn y Crimea y cafodd Florence Nightingale y clod amdanyn nhw.

Emlyn Davies, Rhagfyr 2015

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau hyn gan Emlyn Davies:

     Canon William Evans; Medi 2017
Robert Owen; Mehefin 2017
Ynysyfelin: cymuned goll; Mawrth 2017
Laura Ashley; Rhagfyr 2016
Adelina Patti
, Medi 2016
Billy Hughes
; Mehefin 2016

Coed y Bleiddiau; Mawrth 2016
Syr Thomas Artemus Jones; Medi 2015

Y ddau gochyn; Mehefin 2015

cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan:
Caregos Cyf.,
2015

 

 

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create