Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Gwyddonwyr o Gymru: Handel Davies

(December 01, 2015)

English

Handel Davies (1912-2003)

Handel Davies

Mae llawer cyfeiriad mewn ysgrifau hynafol sy’n awgrymu dymuniad nifer o bobl i fod yn debyg i adar yn eu gallu i hedfan yn uchel ac ar draws pellteroedd mawr. Hwyrach yr enghraifft fwyaf cofiadwy yw honno o fytholeg Groeg lle sonnir am yr anghyfrifol Icarus yn ei fenter i gyrraedd yr Haul ar adenydd ffals wedi’u gludo at ei gorff gyda chŵyr. Bu rhaid aros tan yr ugeinfed ganrif nes gwireddu’r freuddwyd o berson yn hedfan (gyda chymorth mecanyddol go sylweddol). Mae’r erthygl hon yn sôn am un a gyfrannodd yn gyfoethog i’r gwireddiad hwnnw.

Ganed Handel Davies ar Fehefin 2ail, 1912, yn fab i lowr a’i fagu ym mhentref Llwydcoed ger Aberdâr. Treuliodd ei addysg gynradd yn ysgol y pentref ac yna symudodd i Ysgol Uwchradd y Gadlys yn Aberdâr gan iddo fethu’r arholiad 11+*. Yno daeth ei allu cynhenid i’r amlwg a threfnwyd yn 1927 iddo fynd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr. Ymhen amser cafodd lwyddiant cymhedrol yn Arholiad Uwch y Bwrdd Canolig Cymreig (yn cyfateb i Lefel Gyffredin TAG a TGAU 16+). Yn y Chweched Dosbarth wrth iddo ddilyn cyrsiau ffiseg a mathemateg (pur a chymwysedig) y disgleiriodd ei allu. Wedi dyddiau ysgol serenodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Caerdydd (fel yr oedd bryd hynny) gan ennill graddau Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn mathemateg (1933) a ffiseg (1934) a M.Sc. ffiseg (1935).

Roedd ei dueddiadau deallus naturiol yn ei dywys at ffiseg ddamcaniaethol ond, dan orfod realiti ennill bywoliaeth yn nyddiau economeg blin y 30au, cymerodd swydd Technegydd Cynorthwyol Dosbarth III yn nhwneli gwynt y Sefydliad Awyrennau Brenhinol (SAB) yn Farnborough. Golygai hyn gyflawni tasgau oedd yn debycach i ddatblygiad yn hytrach nag ymchwil wreiddiol. Serch hynny dysgodd lawer am her cymhwyso egwyddorion awyrenneg bŵeredig, a oedd ar y pryd yn ddisgyblaeth newydd a pheryglus mewn cyd-destun masnach. Dyma ddechreuad gyrfa ddisglair dros hanner canmlynedd gan rychwantu sawl disgyblaeth wrth iddo symud o fod yn fathemategydd pur i dechnolegydd, peiriannydd, dylunydd, arweinydd prosiectau, gwas sifil arbenigol, ymgynghorydd llywodraeth.
  

Hawker Hurricane Mk1, LlAB cyfres R4118; delwedd Adrian Pingstone
Hawker Hurricane Mk1, LlAB cyfres R4118
  Ffotograffydd Adrian Pingstone
 

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu’n gweithio’n agos gyda’r Llu Awyr Frenhinol ar geisio sicrhau gwelliannau i’r awyrennau Spitfire a Hurricane, nid yn lleiaf i wella eu hydrinedd er hybu gwell dealltwriaeth gan beilotiaid. Yn dilyn y rhyfel dychwelodd i SAB i gymryd swydd pennaeth Adran Ymchwil i Hedfaneg Aerodynamig. Golygai hyn gymryd cyfrifoldeb blaenllaw mewn cynllunio ac uwcharolygu hedfan arbrofol gyda mathau newydd o awyrennau, sef, y rhai turbo-jet, yn enwedig ymdrechion i ddatrys problemau goresgyn y rhwystr sonig. Yn y cyfnod hwn llwyddodd mewn cwrs i ennill trwydded peilot. Yn ei farn ef roedd ennill trwydded yn rhoi gwell ‘teimlad’ iddo parthed yr her a deimlai peilotiaid. Ni honnai am eiliad ei fod ar eu lefel nhw o ardderchogrwydd ond ar hyd ei yrfa byddai’n manteisio ar ei allu peilota i deithio’n helaeth ar fusnes.
 

Supermarine Spitfires LlAB, Yr Eidal, Ionawr 1944Supermarine Spitfire LlAB
Yr Eidal, Ionawr 1944

Sgematigau Supermarine SpitfireSgematigau Supermarine Spitfire
 

Yn y cyfnod 1952-55 ef oedd Prif Arolygwr y Sefydliad Awyrennau ac Arfogaeth yn Boscombe Down. Yno byddai pob awyren filitaraidd newydd yn cael ei phrofi parthed bod yn gymwys at wasanaeth yn y Llu Awyr Brenhinol neu’r Llynges Frenhinol. Davies oedd yn dyfarnu.

Wedi gyrfa o tua ugain mlynedd o weithgarwch uniongyrchol symudodd Davies i gyfrifoldebau rheolaeth ar lefelau uchel iawn oddifewn i wasanaethau hedfaneg y llywodraeth a busnesau masnachol.

Am bedair blynedd (1955-59) roedd yn Brif Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Sifil dros waith cynllunio ac uwcharolygu yn y diwydiant hedfan ac yn y Weinyddiaeth Amddiffyn; byddai hyn yn cynnwys rheoli ymchwil a datblygiad mewn perthynas ag awyrennau newydd. Yn 1959 dychwelodd i SAB y Ddirprwy Gyfarwyddwr ar amser cyffrous iawn pan oedd datblygiad arloesol yn digwydd ar gyfer adeiladu awyrennau uwchsonig gyda’r gallu i deithio dros Fôr Yr Iwerydd, hyn oll yn arwain at enedigaeth Concorde. Yn ychwanegol at yr estyniad rhyfeddwl hwn – yn sicr i olwg y cyhoedd – i fathau newydd o awyrennau roedd y diwydiant hedfan yn y DU yn ffynnu ar sawl her, er enghraifft, datblygu dulliau o lanio ‘dall’ ar gyfer awyrennau militaraidd a sifil a’r ymchwil i’r posibilrwydd o ddefnyddio deunydd ffibraidd yn lle aloiau ysgafn.

 

Concorde schematics; image Julien Scavini
Sgematigau Concorde
delwedd Julien Scavini
 

Yn 1963 dychwelodd Davies i’r Weinyddiaeth Hedfaneg i arwain tîmoedd Prydain mewn trafodaethau gyda thîmoedd tebyg o Ffrainc yn sgîl y cytundeb gwleidyddol rhwng y ddwy wlad i greu’r Concorde. Galwodd y cyfrifoldeb hwn ar holl ddoniau Davies mewn perthynas â’i ddealltwriaeth wyddonol a’i grebwyll gwleidyddol gan nad oedd y prosiect yn hoff fenter gan nifer ar sail ei chost i’r pwrs cyhoeddus. Ymhlith yr ‘amheuwyr’ mwyaf dygn oedd Roy Jenkins, y Gweinidog dros Hedfaneg. Roedd y cyfrifoldebau a ysgwyddai Davies mewm cylchoedd rhyng-lywodraethol yn cynnwys rhaglenni-ar-y-cyd ar gyfer awyrennau militaraidd Prydain a Ffrainc a rhaglenni prosiect y Tornado gyda llywodraethau Ffrainc a’r Eidal.

 

Concorde taking off from Kansai International Airport in 1994; image Spaceaero2
Mae Concorde yn codi o Faes Awyr Rhyngwladol Kansai ym 1994
delwedd Spaceaero2
 

Tua diwedd ei yrfa broffesiynol yn 1969, yn 57 oed, daeth Davies yn Gyfarwyddwr Technegol ac yn aelod o fwrdd gweithredol y Gorfforaeth Awyrennau Brydeinig. Ar y pryd roedd y cwmni yn cynhyrchu’r Concorde, Jaguar, Tornado a’r BAC 111 a hefyd yn flaengar mewn dilyn syniadau technegol newydd, y cyfan oddifewn i fframwaith ymdrechion i wella graddfa cynhyrchu a chyfoethogi arferion dirgelwch.

Derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys, am ei wasanaeth i sawl llywodraeth, bod yn Gydymaith Urdd y Baddon, yn Gymrawd y Gymdeithas Beirianneg Frenhinol ac yn Llywydd y Gymdeithas Aerodynameg Frenhinol.

Yn ei fywyd personol, yn aml gyda Mary ei wraig ers 1942, cynhaliodd ddiddordeb egnïol mewn hwylio, sglefrio, cerddoriaeth a hen hanes. O’i fachgendod ac ar hyd ei oes bu’n canu’r ffidil a’r trombôn i safon dda. Bu yntau a Mary yn hoff iawn o gerddoriaeth gerddorfaol ac yn dwli’n lân ar opera. Bu Mary hefyd farw yn 2003. Nid oedd ganddynt blant ond buont yn ffeind iawn wrth eu dau grwban, Tristan ac Isolde.

Roedd yr arholiad 11-plus yn brawf y bu rhaid i bob disgybl ei sefyll ym mlwyddyn olaf ei addysg gynradd. Bu’r prawf yn amlwg rhwng 1944 a 1968. Byddai’r canlyniadau yn penderfynu i ba ysgol y byddai disgybl yn mynd y flwyddyn ganlynol. O lwyddo byddai disgybl yn symud i ysgol ramadeg, o fethu i ysgol uwchradd fodern.

Neville Evans, Rhagfyr 2015

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau y rhain gan Dr Neville Evans (Cymraeg):
     Gwyddonwyr o Gymru - Mathemategwyr; Medi 2015
     Gwyddonwyr o Gymru - Yr Athro Eleri Pryse; Mehefin 2015
     Gwyddonwyr o Gymru - William Robert Grove; Mawrth 2015

     Gwyddonwyr o Gymru - Frank Llewellyn-Jones; Rhagfyr 2014

     Gwyddonwyr o Gymru - Yr Athro Julie Williams; Medi 2014

     Gwyddonwyr o Gymru - Ieuan Maddock C.G.F.; Mehefin 2014

     Gwyddonwyr o Gymru - John Houghton C.G.F.; Mawrth 2014

     Gwyddonwyr o Gymru - David Brunt C.G.F.; Rhagfyr 2013

     Gwyddonwyr o Gymru - Yr Athro John Beynon; Medi 2013
     Gwyddonwyr o Gymru - John Meurig Thomas; Mehefin 2013

(Saesneg yn unig):
     Scientists of Wales - Robert Recorde and William Jones; March 2013
     Scientists of Wales - Richard Tecwyn Williams, F.R.S; December 2012

     Scientists of Wales - Lyn Evans; September 2012
     The rich science heritage of Wales - E G Bowen; June 2012
 

© 2015 Caregos Cyf. Hawlfraint

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create