Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Griffith Jenkins Griffith (Cymraeg)

(December 14, 2015)

English

  
Griffith Jenkins Griffith - Mr Hollywood

Arwydd Hollywood; delwydd Sten Rüdrich
Hŵre i Griffithwood? Yr arwydd enwog ym Mharc Griffith
Ffotograffydd Sten Rüdrich

Fel llawer o bobl gyda wreiddiau ym Mhrydain Fawr ac Iwerddon, mae Cymry wedi cyfrannu i datblygiad i wledydd trwy'r byd, ond mae cyfraniad y Cymry yn wahanol i'r Sais, Albanwyr a Gwyddelod yn bron anweledig yn eu hanesion. Dyma hanes o Gymro sy wedi gwneud argraff mawr yn yr Unol Daleithiau sef Griffith Jenkins Griffith. Darganwyd y straeon gan Matthew Rees, Cymro sy'n creu argraff ei hunan fel actor yn byd teledu americanaidd. Darganfodd Matthew a oedd parc mawr sy'n dwyn enw Griffith pan gyrrhaeodd e yn Hollywood. Mae'r straeon yn gymleth, rhyfedd a diddorol.

Griffith Jenkins GriffithGriffith J Griffith ym 1872

Ganwyd Griffith ym Metws ger Maesteg, Sir Morgannwg, ym 1850 ac ar ôl cael ei wrthod gan ei rhieni, chafodd e ei magu gan ei dad-cu a mam-gu ond yn anfoddus buon nhw farw pan oedd e ddim ond naw flwydd oed. Dechreuodd ei weithio i reilffordd ym Maesteg ac ar y pryd ni allai fe ysgrifennu na darllen ond dysgodd e sgiliau i dalu ffordd trwy'r wedill ei oes. Ymhen dwy flynydd, roedd e wedi cynilo digon i brynu docyn i'r Byd Newydd. Gadawodd e Lerpwl i Efrog Newydd, wedyn i Danville, Pennsylvania, lle a oedd ymsefydlu llawer o Gymry eraill. Cafodd Griffith waith gyda teulu yno; talwyd gan y teulu am ei addysg am cofnod byr ac gadawodd e Danville i Efrog Newydd i astudio. Er mwyn talu am mwy o addysg ffeindiodd e swydd fel swyddog y wasg gyda bragdy; roedd y swydd yn talu yn dda iawn ac cynilodd e $3000 a penderfynodd e treulio amser ymweld â sawl dinasoedd yn Ewrop. Cyn iddo fe ddychwelyd i America, aeth e i Fetws i ymweld â'r teulu ac pan oedd e yno, derbyniwyd newyddion ofnadwy, roedd ei banc yn mynd i'r wal ac roedd e wedi colli ei arian.

Dychwelodd Griffith i America, ac teithiodd e i San Francisco ac yno dechreuodd e swydd fel gohebydd i papur newydd lleol. Pan oedd ei bòs yn sôn am mwyngloddio, dwedodd Griffith a oedd profiadau gyda fe ynddo; cafodd cyflogi fel gohebydd mwyngloddio cyntaf yn y wlad a enillodd e $1000 y dydd am ei waith! Buddsoddodd e mewn sawl cwmni a symudodd e i Los Angeles, lle roedd e'n treulio wedill ei oes. Gwerthodd Griffith ei ddiddordebau mewn mwyngloddio a gwnaeth e ffortiwn unwaith eto. Penderfynodd e buddsoddi yn Los Angeles a phrynodd e ranch enfawr tu allan y ddinas; wedyn gwerthodd e hawliau dir i'r ddinas am ffortiwn arall, ac llwyddiodd y ranch gyda dull newydd o ffermio. Adeiladodd e ffordd i'r môr trwyr ddinas o'i ranch. Enw ffordd yn y ddinas nawr yw Sunset Boulevard.

Cerflun Griffith J Griffith ym Mharc Griffith, delwydd Minnaert
Cofadail Griffith J Griffith ym Mharc Griffith
ffotograffydd Minnaert

Priododd Griffith â Christina Mesmer a wedyn cawson nhw mab. Prynodd Griffith tir am barc, sy'n agor i bob person yn Los Angeles, ac hefyd Bryniau Griffith (nawr Hollywood Hills). Pan rhoddodd e'r tir - dros 3000 erw (12.20 km2) - fe dywedodd e i'r Cyngor Dinas Los Angeles, "It must be made a place of rest and relaxation for the masses, a resort for the rank and file, for the plain people. I consider it my obligation to make Los Angeles a happy, cleaner, and finer city. I wish to pay my debt of duty in this way to the community in which I have prospered." Fe gafodd y tir ei henw Griffith Park, er anrhydedd iddo.

Arsyllfa Griffith; delwedd Matthew FieldArsyllfa Griffith, ffotograffydd Matthew Field

Yn anffodus roedd ochr dywyll i Griffith a yfodd e mwy na chwart chwisgi y dydd ac roedd e ddechrau camdrin ei wraig a saithodd e ei wraig. Cafodd Griffith ei anfon i garchar am dwy flynydd a chafodd Christina ysgariad pan oedd e yno. Ar ôl i Griffith wedi cael ei carchariad, cafodd y pwynt uchaf Parc Griffith ei newid, o Gopa Griffith i Fynydd Hollywood.

Arsyllfa Griffith a gorwel downtown LA; delwedd David Iliff
Arsyllfa Griffith a gorwel canol LA
Ffotograffydd David Iliff

Buodd Griffith marw ym 1919 ac yn ei ewyllys gadawodd e arian i'r ddinas er mwyn adeiladu theatr, arsyllfa ac gwaithiau eraill. Roedd stori am Gymro a oedd ennill a chollodd mwy nag un fortiwn a gadawodd ei argraff ar hanes Los Angeles a Hollywood.

Mike McGrane, Rhagfyr 2015

© 2015 Caregos Cyf. | Hawlfraint

 

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create