Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Emlyn Davies; Coed y Bleiddiau (Cymraeg)

(March 01, 2016)

English

Coed y Bleiddiau

coed y bleiddiau (hawlfraint y landmark trust)
Coed y Bleiddiau yn y 1930au
(hawlfraint y Landmark Trust)

Bwthyn bach diarffordd yng nghesail mynydd Y Garnedd yn ardal Maentwrog sy’n cael ein sylw y tro hwn, ond mae craffu ar hanes yr adeilad hynod yn codi cwr y llen ar nifer o gymeriadau diddorol tu hwnt, a rhai o’r rheiny yn adar brith, a dweud y lleiaf.

Dros yr wythnosau diwethaf fe lansiwyd apêl ariannol gan y ‘Landmark Trust’ sy’n ceisio codi £400,000 i atgyweirio’r bwthyn, ac o ganlyniad fe grwydrodd ei hanes ymhell. Prif ddiben yr ymddiriedolaeth hon yw adnewyddu hen adeiladau o werth pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a’u troi’n dai gwyliau. Erbyn heddiw, mae ganddynt dros 190 o adeiladau ledled gwledydd Prydain, yn dyddio’n ôl i’r Oesoedd Canol ac yn amrywio o gestyll i ffermydd, plastai, bythynnod, tai annedd, melinau a hyd yn oed ffug-dyrau.

Enw’r bwthyn hwn yw Coed y Bleiddiau, a chafodd unman erioed enw mwy addas. Fe saif reit ar ymyl lein trên bach Ffestiniog, ynghanol rhai o’r golygfeydd mwyaf trawiadol yn Eryri, ac fe’i codwyd yn wreiddiol yn 1863 ar gyfer Henry Hovendon, Arolygydd y Rheilffordd ar y pryd. Erbyn hyn, mae’n prysur fynd â’i ben iddo, a neb wedi byw yno ers degawd. Gan ei fod yn adeilad sydd wedi’i restru, mae ei apêl fel cartref i rywun lleol yn gyfyngedig iawn, ac ar wahân i ddim arall, dim ond ar y trên y mae modd ei gyrraedd i bob pwrpas ymarferol, er bod yna lwybr troed hynod o serth yn arwain ato o Faentwrog. Ond o leiaf, mae’n siŵr o fod yr unig fwthyn yng Nghymru gyda’i blatfform preifat ei hun ar gyfer y preswylwyr.

Y freuddwyd bellach yw sicrhau’r cyllid i adfer yr adeilad, ac erbyn mis Chwefror eleni roedd 140,000 o bobl wedi cyfrannu’n hael, a hanner yr arian angenrheidiol eisoes yn y coffrau. Medrwch ddarllen rhagor am yr apêl ei hun ac am gynlluniau’r ‘Landmark Trust’ ar eu gwefan drwy ddilyn y ddolen hon: www.landmarktrust.org.uk

Ond i’r sawl sydd yn gyfarwydd â’r bwthyn, braidd yn anghyflawn yw’r hanes a gyhoeddwyd. Mae ein diddordeb pennaf ni yn y tenantiaid a fu’n rhentu’r bwthyn dros y blynyddoedd. Ymhlith y rhai sy’n tynnu ein sylw fel un o’r cyn-denantiaid mae enw Syr Granville Bantock (1868-1946), y cerddor a’r cyfansoddwr toreithiog a fu’n Athro Cerdd ym Mhrifysgol Birmingham. Ef a sefydlodd gerddorfa symffoni enwog Birmingham, a chymaint oedd y parch ato yn ei faes fel mai iddo ef y cyflwynodd Sibelius ei Drydedd Symffoni. Hwn oedd ei dŷ haf yn y cyfnod hwnnw, a byddai mawrion y byd cerdd megis Edward Elgar yn treulio amser yma’n gyson.

 

Coed y Bleiddiau yn y 1930au (hawlfraint y Landmark Trust)
Coed y Bleiddiau yn y 1930au
(hawlfraint y Landmark Trust)

Ar ei ôl ef, cafodd Coed y Bleiddiau denant diddorol tu hwnt, sef Harry St. John Philby, ac mae’r ddogfen wreiddiol i nodi’r trefniant hwnnw ar gael yn Archifdy Gwynedd. Gwas suful oedd Philby, yn arbenigwr ar y byd Arabaidd, ac wedi ei eni yn yr hen Ceylon, er mai yn Ysgol Westminster ac yng Nghaergrawnt y cafodd ei addysg.

Erbyn heddiw, efallai ein bod ni’n fwy cyfarwydd â’i fab, Kim Philby, yr ysbïwr oedd ynghanol helyntion y cyfrinachau a werthwyd i’r Sofietiaid yn ystod pumdegau a chwedegau’r ganrif ddiwethaf. Un o weision bach MI6 yn Washington oedd Philby ar ddechrau ei yrfa, a chafodd y dasg o geisio casglu tystiolaeth fod Donald Maclean a Guy Burgess yn fradwyr, ond yr hyn na wyddai’r awdurdodau oedd bod Kim a hwythau yn gyfeillion mynwesol, a maes o law dihangodd y tri at eu meistri i’r Undeb Sofietaidd i chwilio am loches. Ond cyn y diweddglo dramatig hwnnw i anturiaethau’r ysbïwr eofn, byddai yntau’n ymwelydd cyson â bwthyn Coed y Bleiddiau, er nad oes wybod pwy a ddaeth yno i’w ganlyn, na pha gynllwynio ysgeler a ddigwyddodd yn sŵn trên bach ’Stiniog yn y dyddiau hynny.

Ond roedd gan y tad yntau ambell i ffrind oedd yn aderyn brith o’r iawn ryw. Roedd St. John Philby yn Sosialydd o argyhoeddiad, yn weithgar ym myd gwleidyddiaeth ac yn troi yn yr un cylchoedd â phobl fel Oswald Mosley. Ym 1939 safodd fel ymgeisydd i’r British People Party mewn is-etholiad yn Hythe, Caint, a bu mewn helynt droeon gyda’r awdurdodau oherwydd ei safiad yn erbyn rhyfel. Mae’n fwy na thebyg mai ei ddiddordeb yn y carfanau hyn o blith Sosialwyr a Ffasgwyr y cyfnod a seliodd ei gyfeillgarwch gyda gŵr o’r enw William Joyce, a ddaeth yn enwog yn y man dan y llysenw Lord Haw-Haw.

William Joyce, Lord Haw-HawWilliam Joyce, Lord Haw-Haw

 

Dyma’r gŵr fyddai’n codi braw ar bobl ledled gwledydd Prydain wrth ddarlledu yn Saesneg o’r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd yn arfer clodfori ymgyrch y Drydedd Reich, yn bychanu ymdrechion byddin Prydain ac yn bygwth bod yr ynysoedd hyn ar fin cael eu goresgyn. Roedd ganddo hefyd lais cofiadwy iawn, a’r ffaith ei fod yn arddel acen bendefigaidd a roes iddo’r ffugenw Lord Haw-Haw. Does ryfedd fod ei ddarllediadau’n anfon iasau i lawr asgwrn cefn ei wrandawyr.

Roedd Joyce yn ŵr galluog eithriadol, wedi ennill gradd dosbarth cyntaf ym Mhrifysgol Llundain, ond roedd â’i fryd ar wleidydda, a daeth yn aelod o’r Blaid Geidwadol. Wedi i Mosley sefydlu’r British Union of Fascists, daeth Joyce yntau’n gefnogol i’r mudiad hwnnw, a buan yr enillodd ei blwyf fel un o'r prif siaradwyr. Mynnodd weld newid enw’r blaid i gynnwys y geiriau “National Socialists” yn ogystal, ac fe’i penodwyd yn swyddog amser llawn. Roedd ei edmygedd o lwyddiannau Hitler yn Yr Almaen yn amlwg i bawb.

Americanwr o dras oedd William Joyce, wedi ei eni yn Efrog Newydd lle roedd ei dad yn ddyn busnes, ond fe symudodd y teulu i Brydain pan oedd yn dair oed. Roedd â’i fryd ar gael ei dderbyn fel dinesydd Prydeinig, ac felly gwnaeth gais am ddinasyddiaeth ddeublyg gan ddweud celwydd iddo gael ei eni yn Galway, yn Iwerddon, a chafodd basport. Yn eironig ddigon, bu hynny’n gamgymeriad angheuol ar ei ran, oherwydd pan ddaliwyd ef ar derfyn y rhyfel cafodd ei erlyn fel bradwr ar sail y darllediadau o’r Almaen, ei ganfod yn euog a’i grogi yng ngharchar Wandsworth. Pe na bai yn berchen ar basport Prydeinig, mae’n bosibl y byddai wedi osgoi’r dynged honno.

Ond beth yw cysylltiad Joyce â bwthyn Coed y Bleiddiau? Ar un adeg, doedd dim prinder o bobl a fyddai’n tystio’n daer, ar eu llw, i Joyce fod yn ymwelydd cyson â’r lle. Y gred yn lleol oedd ei fod, fel un o gyfeillion mynwesol St. John Philby, yn hoff iawn o ardal Maentwrog ac yn mwynhau tawelwch a phrydferthwch yr ardal.

Ymhlith y rhai a fyddai’n haeru hynny roedd Bob a Babs Johnson a fu’n byw yng Nghoed y Bleiddiau yn ystod blynyddoedd olaf y ganrif ddiwethaf. Roedd Bob yn un o bedwar o frodyr a fu’n ymladd yn yr Ail Ryfel Byd, a chlywsai ei dad yn dweud fod Lord Haw-Haw wedi gofyn ar ei ddarllediad unwaith, “Tybed beth yw hanes y brodyr Johnson erbyn hyn? Pryd y dônt i sylweddoli eu bod yn ymladd yn ofer?” Ac nid dyma’r unig deulu oedd yn grediniol i William Joyce fod yn aros yn y bwthyn. Roedd Bessie a Wil Jones yn gofalu am orsaf Tan y Bwlch, ar y ffordd i Benrhyndeudraeth, ac fe’u clywyd yn dweud droeon iddynt weld William Joyce yn cerdded ar hyd y rheilffordd ar ei ffordd i’r pentref, ond nad oedd ganddo fawr o sgwrs. O leiaf, roedd ei ymweliadau honedig â Choed y Bleiddiau yn egluro pam y bu iddo sôn am lefydd yn yr ardal megis Plas Tan y Bwlch a Dôl y Moch.

 

Bob a Babs Johnson
Bob a Babs Johnson

Roedd yr ofn a gododd yn sgil darllediadau Lord Haw-Haw yn ymestyn ymhellach na Maentwrog. Yn ystod blynyddoedd y Rhyfel roedd yna ffatri gynhyrchu rhannau i awyrennau wedi ei lleoli yng nghysgod y chwarel lechi yn Llanberis, sef ffatri cwmni Necaco. Yn ôl y sôn, rywdro yn y flwyddyn 1943, fe haerodd William Joyce yn ei ddarllediad ei fod yn gwybod am y ffatri hon ar lan Llyn Peris. “Un o’r nosweithiau hyn”, meddai, “bydd awyrennau’r Almaen yn dod ac yn cael gwared â’r ffatri hon unwaith ac am byth.”

Roedd straeon tebyg i’w cael ledled Prydain, er nad oedd gan ambell i ardal unrhyw eglurhad amlwg am wybodaeth leol William Joyce. Ond eto i gyd, mae’r Imperial War Museum yn bendant na fu i Joyce erioed enwi unrhyw leoliad penodol yn ei ddarllediadau, ac mai ensyniad ac awgrym a chwythu bygythion yn unig oedd ei arddull. Yn ôl y newyddiadurwr a’r awdur Nigel Farndale, sydd wedi ysgrifennu’n helaeth am Joyce, roedd y syniad yn gyffredin iawn ym mhob cwr o Brydain fod Joyce wedi cyfeirio’n fanwl at eu hardal hwy, ond does dim tystiolaeth hanesyddol o hynny o gwbl.

Felly, a fu Joyce yng Nghoed y Bleiddiau mewn gwirionedd? Mae’r straeon yn lleng, ond wyddom ni ddim i sicrwydd a yw hynny’n ffeithiol gywir. Mae’n anodd credu nad oes unrhyw sail i’r honiad, a’r unig beth a wyddom ni yw fod y gred hon wedi dylanwadu ar fywydau pobl yn union fel pe bai hynny’n wir. Mae’n atgoffa dyn o’r frawddeg enwog honno yn un o ffilmiau mawr John Ford am y Gorllewin Gwyllt, “When the legend becomes fact, print the legend.”

Emlyn Davies, Mawrth 2016

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau hyn gan Emlyn Davies:

     Ynysyfelin: cymuned goll; Mawrth 2017
Laura Ashley; Rhagfyr 2016
Adelina Patti
, Medi 2016
Billy Hughes
; Mehefin 2016

Betsi Cadwaladr; Rhagfyr 2015
Syr Thomas Artemus Jones; Medi 2015

Y ddau gochyn; Mehefin 2015

cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan:
Caregos Cyf.,
2016

  

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create