Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Gwyddonwyr o Gymru: Ezer Griffiths

(March 04, 2016)

English

Ezer Griffiths (1888-1962)

Ezer Griffiths

Tua naw mlynedd yn ôl awgrymodd gwleidydd (Arglwydd Haskins) y dylai pobl sy'n hoff o gig oen ac yn pryderu am yr amgylchedd brynu cig oen Seland Newydd. Seiliwyd ei sylwadau ar adroddiad gan academyddion a brisiodd bob elfen o gynhyrchu cig oen mewn unedau an-ariannol, megis, tunnell o allyriant carbon diocsid a 'milltir-fwyd'. Honnent fod cig oen Prydain bedair gwaith mwy costus, yn bennaf oherwydd bod cig Seland Newydd, wedi'i rewi ac yn cyrraedd yma mewn llong, nid mewn awyren. Yn naturiol cafwyd ymateb cadarn gan ffermwyr Cymru.

Mae'r achos hwn yn enghreifftio'r math ar drafod y bydd rhaid i bawb fod yn rhan ohonno. Rydym oll yn rhannu cyfrifoldeb am yr amgylchedd, ond mae'n anodd dadansoddi'n deg. Wrth ddarllen am gig oen yn dod wedi'i rewi mewn llongau o Seland Newydd cofiais am wyddonydd disglair o Gymru, a gyfrannodd yn gyfoethog at ein deall o brosesau gwres ac oerni.

Ganed Ezer Griffiths (28ain Tachwedd 1888) yn Aberdâr, yn un o naw plentyn Abraham Lincoln Griffiths (am enw!) a’I wraig Ann; Ezer oedd yr hynaf o’r chwech mab. Addysgwyd ef yn yr ysgolion lleol, cyn mynd i'r brifysgol yng Nghaerdydd lle graddiodd mewn ffiseg a dilyn rhaglen ymchwil. Apwyntiwyd ef ym 1915 i'r Labordy Ffisegol Cenedlaethol (NPL) yn Teddington. Hwn oedd y prif sefydliad ar gyfer diogelu safonau i sicrhau cysondeb yn y defnydd o unedau mesur ar draws disgyblaethau academaidd a masnachol. Yno y bu Griffiths ar hyf ei yrfa broffesiynol tan 1953. Etholwyd ef yn F.R.S. yn 1926 ac O.B.E. yn 1950. Bu farw ar y 14eg o Chwefror 1962.

Y dylanwad mawr arno oedd y Prifathro E.H.Griffiths yng Nghaerdydd. Gydag ef y dechreuodd Ezer ei astudiaeth o ffiseg egni gwres, thema ei ymchwil gydol ei oes. Dyma’r cyfnod pan oedd cyffro ymhlith ffisegwyr parthed mesuriadau gwres sbesiffig deunyddiau ar dymereddau isel. Bu'r ddau yn rhoi prawf miniog ar ddamcaniaethau trwy arbrofion cywrain a mesuriadau gofalus.

Roedd yn awdur ar oddeutu 100 o bapurau a sawl erthygl i gylchgronau ffiseg gymwysedig ar galorimetreg, thermocyplau a thermomedrau. Cyhoeddodd ddau lyfr ar agweddau o fesur tymheredd ac un ar egwyddorion sylfaenol rheweiddiad.

Er bod ei waith yn bennaf yn Teddington, gofynnwyd iddo droeon gynnig cyngor i gyrff allanol ar faterion penodol. Dyfeisiodd ddull y sffêr claddedig i fesur gwrthedd thermol priddoedd a gysylltid gydag astudiaethau i amcangyfrif colled gwres o geblau trydan claddedig. Addasodd ei astudiaethau ar anweddiad dŵr o arwynebau at ddeall llwybrau cymylog a grewyd gan awyrennau; cynhaliwyd yr arbrofion hyn ar uchder o 35,000 troedfedd. Ymchwiliodd amodau byw milwyr tanciau yn anialwch Libya adeg yr Ail Ryfel Byd; daeth i'r amlwg bod gosod haenen denau o ddeunydd ynysydd-gwres ar arwyneb fewnol y tanc yn dwyn gwelliannau sylweddol.

Daeth Griffiths yn awdurdod ar ynysiad a throsglwyddiad gwres, Er bod llawer o enghreifftiau erbyn 1920 o storio-oer ar y tir, nid felly mewn llongau. Yn 1923 bu'n astudio cadw afalau'n ffres mewn llongau ac yn 1930 yn Seland Newydd yn datrys sialens rhewi cig oen.

Yn Cofiannau Bywgraffiadol Cymrodyr y Gymdeithas Frenhinol, ceir '… go brin ei fod yn ormod o ddweud bod cael cig oen ardderchog Canterbury yn siopau ein cigyddion i raddau helaeth yn ganlyniad gwaith Griffiths'. Braidd yn eironig felly yw'r ffrwgwd rhwng ffermwyr Cymru a Haskins.

Mae gyrfa a gwaith Ezer Griffiths yn enghreifftiau da o wyddoniaeth 'stafell gefn', y math o gyfraniad nad yw byth yn denu sylw'r cyfryngau torfol, dim byd tebyg i'r Higgs Boson na'r cyhoeddiadau diweddar am donnau disgyrchiant a champau'r gwyddonwyr yn yr Orsaf Ofod Ryngwladol. Serch hynny, beth am wyddoniaeth deunydd gwisg y gofodwyr?

Neville Evans, Mawrth 2016

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau y rhain gan Dr Neville Evans (Cymraeg):
     Gwyddonwyr o Gymru - Handel Davies; Rhagfyr 2016
     Gwyddonwyr o Gymru - Mathemategwyr; Medi 2015
     Gwyddonwyr o Gymru - Yr Athro Eleri Pryse; Mehefin 2015
     Gwyddonwyr o Gymru - William Robert Grove; Mawrth 2015

     Gwyddonwyr o Gymru - Frank Llewellyn-Jones; Rhagfyr 2014

     Gwyddonwyr o Gymru - Yr Athro Julie Williams; Medi 2014

     Gwyddonwyr o Gymru - Ieuan Maddock C.G.F.; Mehefin 2014

     Gwyddonwyr o Gymru - John Houghton C.G.F.; Mawrth 2014

     Gwyddonwyr o Gymru - David Brunt C.G.F.; Rhagfyr 2013

     Gwyddonwyr o Gymru - Yr Athro John Beynon; Medi 2013
     Gwyddonwyr o Gymru - John Meurig Thomas; Mehefin 2013

(Saesneg yn unig):
     Scientists of Wales - Robert Recorde and William Jones; March 2013
     Scientists of Wales - Richard Tecwyn Williams, F.R.S; December 2012

     Scientists of Wales - Lyn Evans; September 2012
     The rich science heritage of Wales - E G Bowen; June 2012
 

© 2016 Caregos Cyf. Hawlfraint

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create