Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Gwyddonwyr o Gymru: Gareth Roberts

(June 01, 2016)

English

Gareth Roberts (1940–2007)

Yr Athro Gareth Roberts, Hawlfraint Prifysgol Durham
Yr Athro Gareth Roberts
Delwedd: hawlfraint Prifysgol Durham

Mae adroddiadau ysgolion yn cyflwyno her i athrawon a disgyblion. Yn fy achos i, yn ddisgybl, yn aml roeddwn yn teimlo’n fwy annifyr na bodlon, yn enwedig gan, ‘gall wneud yn well’. Sut gwyddai fy athro pan wyddwn i - gwybod yn wir – pa mor galed yr oeddwn wedi paratoi i gyrraedd perfformiad gweddol? Teimlwn yn debyg, mewn ystyr ddeallusol, yng nghyd-destun pynciau nad oeddwn yn hoff ohonynt neu heb fawr o allu ynddynt, y rhai y gwyddwn – gwybod yn wir – nad oeddwn wedi paratoi ar eu cyfer. Ond hwyrach y sylw a’m brifodd fwyaf oedd, ‘siomedig’, oherwydd cafodd yr effaith o’m gadael yn teimlo’n euog nad oeddwn wedi chwarae fy rhan, gyda’m hathro, yn y fenter gydweithredol o hybu fy nhaith addysgiadol.

Pan ddes yn athro des yn ymwybodol o ing a deimlai’r rhan fwyaf o’m hathrawon. Yn nghyd-destun y baich o lenwi ugeiniau, os nad cannoedd, o adroddiadau rhaid bod y diflastod llethol o geisio bod yn deg a chefnogol yn sialens barhaus yn wyneb y reddf waelodol i fod yn oeraidd ddadansoddol a beirniadol. Heddiw, cymhellir athrawon, gorfodir yn wir, i gynnig ond sylwadau cadarnhaol; gwaherddir sylwadau negyddol. Mae’n fater o drafod a ydyw’r symud hwn at fod yn ddarbodus gyda’r gwir bob amser yn rhoi’r cyfarwyddyd gorau i bob disgybl. Yn sicr byddai condemniad heddiw ar ‘diogyn llwyr‘ neu ’bydd rhaid iddo weithio’n galed i ennill gradd isel’ a gofiaf o ddeugain mlynedd yn ôl.

Mae’n bur anhebygol y byddai athrawon Gareth Gwyn Roberts yn cael eu blino gan y cyfryw ystyriaethau gan ei fod yn cario pob dim o’i flaen ac yn seren ers yn ifanc iawn. Fe’i ganed ar y 16eg o Fai 1940 a’i fagu mewn teulu Cymraeg ei iaith. Yn ôl pob tystiolaeth fe’i breintiwyd a mwy na’i ddogn teg o allu deallusol cynhenid; yn ei ysgol gynradd (Ysgol Wladol Penmaenmawr) cafodd y llysenw ‘Proffesor’ ac yn ei ysgol uwchradd (Ysgol Ramadeg John Bright, Llandudno) roedd ei gyrhaeddiad 16+ (Lefel ‘O’ ar y pryd) yn odidog, gyda 10 gradd A. Ac eto, yn ôl ei addefiad ei hun, casaodd ei addysg gynradd ac uwchradd. Nid yw yn helaethu. Tybed a oedd y cwrs addysg yn brin o amrywiaeth sialens? Tybed a oedd y ddarpariaeth a fodlonai ddisgyblion cymhedrol yn diflasu disgybl dawnus a thalentog?

Yn ôl ei safonau ei hun rhaid ei fod wedi teimlo siom o ennill graddau B yn nhri phwnc ei arholiadau lefel A (ffiseg, mathemateg bur, mathemateg gymhwysedig). Serch hynny, pan aeth ymlaen at addysg uwch (yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor ar y pryd) dychwelodd ei ddisgleirdeb pan enillodd radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn ffiseg, yr unig un yn ei flwyddyn.

Treuliodd ddau gyfnod gwyliau coleg yn Harwell, prif weithle Awdurdod Egni Atomig y DU, gyda golwg ar arbenigo mewn ffiseg niwclear. Ond profiad diflas gafodd a chefnodd ar ei fwriad.

Er gwaethaf ei alluoedd deallusol digamsyniol a’i gasineb at ei addysg ysgol nid oedd yn unigolyn encilgar o bell ffordd. Ymhyfrydai mewn chwaraeon, yn enwedig peldroed i’r graddau iddo dderbyn gwahoddiad i dreial gyda chlwb Dinas Manceinion.

Yn dilyn ennill ei radd derbyniodd wahoddiad i ddilyn gwaith ymchwil ym Mangor dan gyfarwyddyd yr Athro Richard Tredgold; ei ddarlithoedd yntau ar fecaneg cwantwm a agorodd feddwl Gareth i fyd newydd.

Ei ddewis faes ymchwil oedd lled-ddargludyddion, sef, deunyddiau solid y mae trydan yn pasio trwyddynt ond i un cyfeiriad yn unig. Yn ffodus iddo dyma oedd y cyfnod pan welwyd gwawr y cyfrifiadur i gynorthwyo ymchwilwyr wrth drafod data. Er bod elfen o lwc yn y cyd-daro teg cydnabod bod Gareth wedi neidio at y cyfle a gwneud yn fawr ohono; bu’n arloesydd yn y maes er gwaethaf ei oedran ifanc a’i brofiad ymchwil byr-hoedlog. Mae’n dweud, wrth fwrw golwg yn ôl dros y cyfnod, iddo brofi moment Ewreka pan gafodd syniad chwildroadol; fel yn ôl y chwedloniaeth am Archimedes roedd Gareth yntau yn y bath pan drawyd ef.

Yn 23 oed ac yn dal yng nghyfnod cynnar ei ymchwil apwyntiwyd ef yn is-ddarlithydd ym Mangor. Bu’r profiadau newydd hyn o gyflwyno’i faes i eraill yn achos iddo fagu archwaeth at ddarlithio a gweinyddu mewn addysg uwch, dwy wedd y bu’n disgleirio ynddynt maes o law.

Mewn achlysur cymdeithasol bu sgwrs hap yn gyfrwng iddo fynd yn 1966 i weithio gyda Chorfforaeth Xerox yn Rochester, Efrog Newydd. Wedi dwy flynedd yno dychwelodd i’r DU i ail-gydio mewn partneriaeth ymchwil gyda Richard Tredgold a oedd erbyn hynny ym Mhrifysgol Newydd Ulster. O’r cyswllt hwn datblygodd ei yrfa ar garlam yn Ulster, yn dywysydd grwpiau ymchwil ac arweinydd adran. Nid syndod oedd iddo dderbyn gwahoddiad yn 1971 i Gadair Ffiseg Gymwysedig ym Mhrifysgol Durham. Erbyn hyn roedd ei faes arbenigol yn canolbwyntio ac arloesi ar electroneg molecwlar gyda deunydd organig. Daeth pentyrau o anrhydeddau a gwobrau i’w ran, nid yn lleiaf gael ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1984.

Professor Gareth Roberts at the Ogden Centre, University of Durham
Yr Athro Gareth Roberts
yn yr Ogden Centre, Prifysgol Durham
Delwedd: hawlfraint Prifysgol Durham

Dros y cyfnod 1985 i 1991 cyflawnodd ddwy yrfa yn cyd-redeg â’i gilydd, sef bydoedd academia a diwydiant. Ym Mhrifysgol Rhydychen sefydlodd grwp ymchwil newydd a bu’n Gyfarwyddwr Ymchwil cwmni THORN EMI, sefydliad rhyngwladol enfawr yn arbenigo ar ddatblygiad teledu, sganio ymennydd a sain stereoffonic.

Yn 51 oed, er iddo gadw’n glos at ei grwpiau ymchwil, symudodd pwyslais ei amser a’i egni at gyfrifoldebau cynllunio strategaethol a gweinyddiad addysgiadol. Yn 1991 derbyniodd swydd Is-Ganghellor Prifysgol Sheffield, ble cyflawnodd waith arloesol yn hyrwyddo cysylltiadau amrywiol rhwng y brifysgol a’r ddinas. Bu’n aelod o nifer o bwyllgorau dan y llywodraeth, yn nodedig rhai yn ddylanwadol iawn parthed ariannu prifysgolion a chyflenwad athrawon gwyddoniaeth. Dyrchafwyd yn farchog yn 1997.

Heb amheuaeth roedd Roberts yn berson o awdurdod yn ei faes penodol o ymchwil uniongyrchol mewn electroneg moleclwlar ac yn ei weledigaeth parthed gweinyddiad prifysgol. Roedd yn meddu ar stôr o egni personol gyda dymuniad a phenderfyniad i hyrwyddo effeithlonrwydd ym mhob maes y bu’n ymwneud ag ef. Bu ei yrfa yn amlygiad o’i argyhoeddiad mai hanfod cynnydd yw gofalu am drefn wrth newid ac i ofalu am newid wrth drefnu.

Ei gyfrifoldeb ffurfiol olaf oedd bod yn Llywydd Coleg Wolfson ym Mhrifysgol Rhydychen. O’r safle hon amlygodd weledigaeth dreiddgar ynghylch natur addysg ar bob lefel, yn y DU a thramor. Ni adawodd i’r canser a gydiodd ynddo fod yn esgus dros lacio ar ei gyfrifoldebau; bu wrth ei ddesg hyd at ddau ddiwrnod cyn ei farw ar y 6ed o Chwefror 2007 yn 66 oed.

Yn ei adroddiad ysgol, dyddiedeg 29 Gorffennaf 1949, pan oedd yn 9 oed ysgrifennodd ei athro dosbarth, ‘Nid yw Gareth yn caniatau i’r un peth ei drechu; dylai fynd yn bell’. A fu erioed ddarogan mwy cywir?

Neville Evans, Mehefin 2016

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau y rhain gan Dr Neville Evans:

Yn y gyfres Gwyddonwyr o Gymru

     Ezer Griffiths; Mawrth 2016
Handel Davies; Rhagfyr 2015
Mathemategwyr; Medi 2015
Yr Athro Eleri Pryse; Mehefin 2015
William Robert Grove; Mawrth 2015

Frank Llewellyn-Jones; Rhagfyr 2014

Yr Athro Julie Williams; Medi 2014

Ieuan Maddock C.G.F.; Mehefin 2014

John Houghton C.G.F.; Mawrth 2014

David Brunt C.G.F.; Rhagfyr 2013

Yr Athro John Beynon; Medi 2013
John Meurig Thomas; Mehefin 2013

Yn y gyfres Scientists of Wales (Saesneg yn unig)

     Robert Recorde and William Jones; March 2013
Richard Tecwyn Williams, F.R.S; December 2012

Lyn Evans; September 2012
The rich science heritage of Wales - E G Bowen; June 2012

 

 

cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan:
Caregos Cyf., 2016

 

 

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create