Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Emlyn Davies; Cofio Billy Hughes (Cymraeg)

(June 01, 2016)

English

Cofio Billy Hughes
(The Little Digger)
1862-1952

William Morris Hughes, Prif Weinidog Awstralia
William Morris Hughes,
Prif Weinidog Awstralia

Ar y ffordd adref o Eisteddfod Meifod y llynedd, penderfynodd fy ngwraig a minnau alw heibio i eglwys Llansantffraid-ym-Mechain, adeilad sy’n dwyn enw’r santes Ffraid ac yn dyddio’n ôl i’r ddeuddegfed ganrif. Yr hyn a’n denodd ni yno y diwrnod hwnnw oedd yr awydd i ail-ymweld â’r ffenest liw a osodwyd yno yn y flwyddyn 1921.

Oddi tani mae’r geiriau “Dedicated to the glory of God in memory of his mother Jane Hughes, a native of this parish, by the Right Honourable W. M. Hughes, Prime Minister of the Commonwealth of Australia.” A dyna danlinellu cysylltiad Cymreig nad oes llawer iawn o bobl yn gwybod amdano erbyn hyn.

Ffenest liw Eglwys Llansantffraid
Ffenest liw Eglwys Llansantffraid,
Llansantffraid-ym-Mechain, Powys

 

Pwy felly oedd William Morris Hughes?

Yn ardal Pimlico, yn Llundain y’i ganed, yn unig fab i William Hughes (1824-1891) o Gaergybi a Jane Morris (1823-1869) o Lansantffraid. Ganed ei fam ar fferm “Winllan”, yn ferch i’r ffermwr Peter Morris, ac aeth i Lundain yn ifanc i weithio, lle y cyfarfu â William Hughes, crefftwr oedd yn Gymro Cymraeg o Gaergybi, ac yn saer coed wrth ei waith, yn gweithio yn adeilad y senedd yn Westminster. Priodwyd y ddau yn 1861, a ganwyd eu hunig blentyn, William Morris Hughes, ar Fedi 25,1862. 

Yn drist iawn, bu farw ei fam mewn damwain trên, a hithau’n 46 oed, pan oedd William yn ddim ond saith oed. Ar y ffordd o Lundain i Lansantffraid yr oedd hi ar y pryd, a digwyddodd y drychineb yn ardal Clas-ar-Ŵy, ger Y Gelli Gandryll. O ganlyniad, anfonwyd y bachgen bach i fyw gyda’i fodryb, Mary Hughes, sef chwaer ei dad, oedd yn cadw gwesty o’r enw Bryn Rosa yn Abbey Road, Llandudnno. Yma y bu’n byw am bum mlynedd, a mynychai Ysgol Stryd Cwlach yn y dref, lle y meistrolodd y Gymraeg. Yn ddeuddeg oed, symudodd yn ôl i Lundain a chael lle fel disgybl-athro yn St Stephen’s School, Westminster. Pan ymwelodd yr arolygwyr â’r ysgol, rhoddwyd canmoliaeth uchel iawn i William Hughes a hynny gan neb llai na Matthew Arnold, y bardd a’r awdur.

Ond, erbyn cyrraedd ei 22 oed, penderfynodd William Hughes ymfudo i Awstralia, a bu’n symud o le i le yno yn gwneud unrhyw waith corfforol y medrai gael gafael arno. Yn 1886 dechreuodd gyd-fyw gyda merch y llety ble roedd yn aros yn Sydney, sef Elizabeth Cutts, ac fe gawson nhw chwech o blant, ond ddaru nhw ddim priodi erioed.
 

Billy Hughes
Billy Hughes

 

Wrth weithio fel hyn gyda’i ddwylo dechreuodd Billy Hughes gymryd diddordeb mewn hawliau gweithwyr, gan dynnu cryn sylw ato’i hun fel un oedd yn brwydro’n gyson dros degwch a chyfiawnder. Cafodd swydd fel trefnydd un o’r undebau llafur, a’r cam nesaf oedd cael ei ethol i senedd New South Wales yn 1894. Wedi ffurfio’r senedd ffederal, cafodd ei ethol i’r fan honno fel aelod o Dŷ’r Cynrychiolwyr.

Doedd neb yn synnu o gwbl iddo gael ei ddyrchafu’n Brif Weinidog yn 1915. Erbyn hynny roedd Elizabeth wedi marw, ond priododd William â Mary Ethel Campbell ym Melbourne, yn 1911, a ganwyd un ferch, Helen, iddyn nhw.

Pan ffurfiwyd Cabinet Rhyfel yr Ymerodraeth gan Asquith a Lloyd George, treuliodd Billy Hughes gyfnod o dri mis yn Llundain a manteisiodd ar y cyfle i ymweld â Llandudno a Llansantffraid. Yn rhifyn Mai 12fed, 1916 o’r Llangollen Advertiser, ceir adroddiad dan y pennawd “Australian Premier’s Visit to Llansantffraid”. Dywed y gohebydd mai dyma’r tro cyntaf i Hughes weld ei deulu yn fferm y Winllan ers deugain mlynedd, ond yn anffodus roedd ei fodryb Mrs Mary Mason wedi marw’r flwyddyn cynt. Galwodd i weld bedd ei fam yn yr eglwys, a bu’n siarad Cymraeg gyda rhai o’r trigolion wrth ymlwybro draw i’r ysgol gynradd, lle roedd y plant wedi dysgu canu anthem genedlaethol Awstralia.

Eglwys Llansantffraid
Eglwys Llansantffraid, Llansantffraid-ym-Mechain, Powys

Does dim dwywaith amdani fod Billy Hughes a Lloyd George wedi dod yn ffrindiau da yn ystod y cyfnod hwn. Dau Gymro Cymraeg, dau ddyn bychan o gorffolaeth, dau areithiwr tanllyd a dau gyda dawn arbennig i drin geiriau a ffurfio sylwadau coeglyd. Mae’n debygol iawn fod y ddau wedi trafod llawer ar orfodaeth filwrol, oherwydd roedd hwn yn bwnc llosg yn Awstralia fel ym Mhrydain. Roedd Hughes, neu’r Little Digger fel y cai ei adnabod oherwydd ei ddycnwch yn ystod y rhyfel, wedi ei lwyr argyhoeddi mai gorfodaeth oedd yr unig ateb, gan iddo weld cannoedd o filwyr mewn ysbytai wedi eu clwyfo, a miloedd wedi eu lladd, a’r rhengoedd yn mynd yn llai o ran niferoedd.

Erbyn iddo ddychwelyd i Awstralia, ddiwedd Gorffennaf 1916, roedd y wlad wedi ei rhwygo’n ddwy ar y pwnc. Dadleuai’r wasg a’r arweinwyr eglwysig o blaid consgripsiwn, ond plaid Billy Hughes ei hun, y Blaid Lafur, yn erbyn. Felly hefyd yr undebau llafur. Roedd hynny’n sefyllfa ryfedd – y gŵr a ddaeth i rym ar gefn yr undebau llafur yn cymryd safbwynt gwahanol i’w gefnogwyr. Ond penderfynodd Hughes eu herio i gyd, gan alw refferendwm ar y pwnc, a bu’r ymgyrch honno yn un chwerw a milain. Pan ddaeth y diwrnod mawr ar Hydref 28 y flwyddyn honno, trechwyd Billy Hughes yn llwyr.

Diarddelwyd ef o’r Blaid Lafur a chollodd ei swydd fel ysgrifennydd undeb yn ardal Sydney, ond llwyddodd i aros yn Brif Weinidog drwy ffurfio plaid newydd sbon, Y Blaid Lafur Genedlaethol, a chafodd gefnogaeth y Rhyddfrydwyr.

Roedd etholiad ar y gorwel, a gwyddai Hughes na chai byth ei ethol yn ei hen sedd yng ngorllewin Sydney, felly safodd mewn sedd arall, yn Bendigo, a’r rhyfeddod yw fod ei blaid newydd wedi ennill yn hawdd.

Roedd 1917 yn flwyddyn anodd. Gwelwyd gwrthdaro diwydiannol a streic chwerw iawn yn New South Wales. Cafwyd mwy a mwy o golledion yn Ffrainc, a phenderfynodd y Little Digger bod yr amser wedi dod i gael refferendwm arall, ychydig dros flwyddyn ar ôl y cyntaf. Y tro hwn, cafodd ei drechu’n waeth byth.

Roedd Hughes wedi addo na fyddai’n aros yn Brif weinidog pe bai’n colli’r ail refferendwm, ond aros a wnaeth. Daeth yn ôl i Lundain ym mis Mehefin 1918 i gyfarfod o’r cabinet, ac roedd yn dal yma ym mis Tachwedd pan ddaeth diwedd y rhyfel. Yn wir, bu i ffwrdd o Awstralia am dros flwyddyn a hanner, gan dreulio misoedd cyntaf 1919 ym Mhalas Versailles yn trafod y cytundeb heddwch. Dyma’r tro cyntaf erioed i Awstralia fod yn rhan o gytundeb rhyngwladol.

Billy Hughes a Lloyd George ym Mhalas Versailles 1916
Billy Hughes a Lloyd George ym Mhalas Versailles 1916

Roedd pedwar cymeriad cryf eithriadol o gwmpas y bwrdd yn y cyfarfodydd hyn: Billy Hughes ar ran Awstralia, Georges Clemenceau, Prif weinidog Ffrainc, Woodrow Wilson, Arlywydd yr Unol Daleithiau, a David Lloyd George, Prif Weinidog Prydain. Buan y daeth hi’n amlwg fod Hughes a Wilson yn casáu ei gilydd â chas perffaith. Roedd Billy Hughes am ddial yn eithafol ar yr Almaen, a Wilson ychydig yn fwy cymodlon. Doedd gan Lloyd George ddim llawer i’w ddweud wrth Wilson ychwaith, ac mae sôn y byddai ef a Hughes yn siarad yn Gymraeg yn aml i gynllunio’u tactegau yn erbyn yr Unol Daleithiau heb i Wilson fedru eu deall. Dywedir bod Clemenceau wrth ei fodd gyda hynny, er ei fod yntau’n destun ambell i sgwrs y tu ôl i’w gefn heb yn wybod iddo. Does ryfedd fod Wilson wedi cyfeirio at Hughes fel a 'pestiferous varmint'. Yn sicr roedd Billy Hughes yn un byr ei dymer, yn ffrwydro fel matsien ar ddim.

Billy Hughes a Lloyd George 1916
Billy Hughes a Lloyd George 1916

Ar ôl Versailles, ac yntau wedi bod oddi cartref am ddeunaw mis, colli gafael ar rym gwleidyddol fu hanes Hughes. Yn ystod y blynyddoedd nesaf ffurfiodd blaid newydd unwaith yn rhagor, ond cael ei drechu, a’i orfodi i ymuno â Plaid Awstralia Unedig a hynny’n arwain at ddod yn ôl fel aelod o’r cabinet i ddal nifer o swyddi gwahanol. Mae ei stori’n gwbwl ryfeddol.

Newidiodd ei blaid unwaith yn rhagor cyn diwedd ei oes, a throi at y Rhyddfrydwyr y tro hwn, sef ei bumed plaid fel gwleidydd. Roedd wedi sefyll mewn 21 o etholiadau cyffredinol rhwng 1901 a 1951, a chael ei ethol bob tro.

Hanner canrif a rhagor ar ôl ei farwolaeth, daeth cyfrinach bersonol am Billy Hughes i’r amlwg. Gwyddai pawb mai ei ferch Helen, o’i briodas gyda Mary, oedd cannwyll ei lygad, a bu hi farw ar ei phen ei hun mewn cartref nyrsio yn Llundain yn 1937, a hithau o fewn tri diwrnod i gyrraedd ei phen-blwydd yn 22 oed. Doedd neb a wyddai beth oedd achos y farwolaeth. Yna, yn y flwyddyn 2004, daeth gwybodaeth newydd i’r fei. Darlledwyd rhaglen o’r enw Rewind ar sianel ABC yn Awstralia oedd yn profi mai marw ar enedigaeth plentyn wnaeth Helen, a bod y plentyn hwnnw, David, yn byw yn Awstralia. Llwyddwyd i gysylltu ag ef, a deall mai dim ond unwaith erioed yr oedd Billy Hughes a’i wraig wedi cydnabod ei fodolaeth, ac oherwydd hynny roedd yn bur chwerw. Teimlai bod gan Billy Hughes gywilydd fod Helen wedi cael plentyn a hithau’n ddi-briod. Yr hyn a barodd syndod i newyddiadurwyr a haneswyr yn Awstralia oedd y rhagrith ei fod wedi ceisio cuddio beichiogrwydd Helen ac eto roedd ganddo ef ei hun chwech o blant o’r berthynas gyda Elizabeth Cutts, y tu allan i briodas.

Billy Hughes fel hynafgwr
Billy Hughes fel hynafgwr

Cythraul mewn croen” oedd disgrifiad un newyddiadurwr o Gymro o Billy Hughes yn lled ddiweddar, ond deil llawer iawn o drigolion Awstralia i’w ystyried fel y Prif Weinidog mwyaf erioed yn hanes y wlad. Mae rhai yn credu i haneswyr a newyddiadurwyr wneud cam ag ef, tra bod eraill yn bendant iddo osod ei uchelgais bersonol uwchlaw pob egwyddor.

Yn sicr, dyw Billy Hughes ddim yn ddyn y medrwn ni ei anwybyddu.

Emlyn Davies, Mehefin 2016

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau hyn gan Emlyn Davies:

     Ynysyfelin: cymuned goll; Mawrth 2017
Laura Ashley; Rhagfyr 2016
Adelina Patti
, Medi 2016
Coed y Bleiddiau; Mawrth 2016
Betsi Cadwaladr; Rhagfyr 2015
Syr Thomas Artemus Jones; Medi 2015

Y ddau gochyn; Mehefin 2015

cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan:
Caregos Cyf.,
2016

 

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create