Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Y Ddiwydiant Glo - Bendith neu Felltith?

(June 01, 2016)

English

Y Ddiwydiant Glo - Bendith neu Felltith?

Miner's Rescue, by Les JohnsonAchub Glöwr, gan Les Johnson
Efydd, ar blinth tywodfaen pennant

Cofeb Cloddio Glo Cenedlaethol Cymru, Senghennydd

Ar ôl rhai, dim ond gwaed, trafferth, dagrau a chwys i gamdifynnu’r geiriau Winston Churchill oedd y diwydiant glo yn ei gynnig. Roedd mwyngloddio ar raddfa fach wedi bodoli am filoedd o flynyddoedd. Ddarganfuwyd bwyeill cerrig ac efydd mewn gwythiennau glo, dangosai hynny bod ein cyndeidiau yn mwyngloddio yno. Yn yr Oes Rhufainig ym Mhrydain ar diwedd yr ail ganrif OC roedd bob maes glo heblaw am rhai yn Siroedd Stafford yn cael eu gweithio. Defnyddiwyd nhw er mwyn gwneud haearn a chalch.

Heb y glo ni fasai’r Chwyldro Diwydiannol wedi digwydd. Roedd y glo galluogi’r peirannau’r ager, ac ehangai’r masnachu rhyngwladol pan gawson nhw eu hadeiladu a galluogodd y glo i’r rheilffyrdd a llongau stēm weithio. Tyfai’r pyllau glo newydd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ond roeddent yn beryglus iawn i’r plant, merched a dynion a weithiai ynddynt am un ar ddeg i ddeuddeg awr y dydd mewn amodau erchyll a’r merched a‘r plant yn gweithio am gyflog llai na’r dynion.

Digwyddodd damwain ym Mhwll Glo Huskar ger Barnsley, Sir Efrog yn 1838 pan orlifodd nant iddo; lladdwyd un ar ddeg merch rhwng wyth ac un ar bymtheg mlwydd oed a phymtheg bachgen rhwng naw ac un ar ddeg mlwydd oed. Ar ôl Ymchwiliad Comisiwn Brenhinol yn 1842 gwaharddwyd merched yn llwyr a bechgyn llai na deg oed i weithio mewn pyllau glo; roedd y gwaharddiad ar ferched achos eu bod yn gweithio mewn trowsus ac yn fron-noeth yn hytrach na rhesymau eraill!

Lladdwyd canoedd a brifwyd mwy ar hyd y flynyddoedd hyd at gau’r pyllau diwetha, achos frwydriadau, tanau, cwympiau, damweiniau danddaearol ac ar y wyneb. Hefyd lladdwyd plant yn y damwain yn Aberfan yn 1966 - dyna’r cost y ddiwydiant mewn gwaed, aelodau corff, silicosis, heintiau eraill a bywydau.

Senghenydd CollieryGlofa'r Universal, Senghennydd, Morgannwg;
collodd 439 o ddynion a bechgyn eu bywydau ar ôl ffrwydrad ar 14 Hydref 1913

Ond datblygodd llawer o lles o ganlyniad i’r caledi a brawdgarwch y pyllau glo; datblygwyd syniadau gwleidyddol o gyfrifoldeb personol a chymdeithasol. O’ ddechrau’r Chwyldro Diwydiannol ac yn gynharach ceisiai glowyr, fel gweithwyr eraill gefnogi ei gilydd er mwyn gwella eu amodau gweithio. Daethai glowyr yn rhan o Derfysg Merthyr ac ymdrech y Siartwyr yng Nghymru yn ogystal a cheisio dechrau undebau llafur yma yng Nghymru ac yn Lloegr; llwyddodd bob pwynt yn y Siarter heblaw am y seneddau blynyddol.

Roedd Undeb Gwladol y Glowyr yn flaengar yn natblygiad Cyngres yr Undebau Llafur. Talai glowyr rhan o’u cyflog yn wythnosol i gronfeydd ysbytai a llyfrgelloedd; felly roeddent yn llais pwysig yn nechrau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac yn flaengar yn nechrau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr ac addysg i’r werin cyffredin mewn ffordd.

Dechreuodd ymgyrchoedd i wella‘r amodau yn y gweithle’ felly dechreusant wreiddiau Deddfau Iechyd a Diogelwch ac yn y blaen, yn ogystal â’r Deddfau sydd yn amddiffyn hawliau yn y gwaith a democratiaeth yn gyffredinol yn ein oes fodern.

Newidiadau demograffig i’r iaith yng Nghymru

Roedd gostyngiad dramatig yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ystod y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Denwyd mewnfudwyr o'r tu allan i Gymru gan y diwydiannau a oedd yn datblygu o amgylch y meysydd glo ym Mlaenau'r Cymoedd, Gwent, Morgannwg a thua'r gorllewin; ar yr un pryd gadawodd llawer o bobl yr ardaloedd gwledig i ddod o hyd waith yn Llundain a thramor.

Diflannodd llawer o gymunedau Cymraeg ei hiaith oherwydd nifer fawr o fewnfudwyr o Loegr ac Iwerddon. Hyd yn oed er bod tua deugain o gyhoeddiadau Cymraeg yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg dechreuodd y defnydd o Gymraeg gan y rhan fwyaf ostwng. Daeth dau grŵp iethyddol i'r amlwg yng Nghymru, y Fro Gymraeg yn y gogledd a'r gorllewin lle mae mwy nag wythdeg y cant yn siarad Cymraeg a'r de a'r dwyrain lle mae llai na deg y cant yn siarad Cymraeg. Fodd bynnag hyd yn oed yn y de a'r dwyrain ar ddechrau'r ugeinfed ganrif roedd bron i hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg.

A oedd y ddiwydiant glo belltith neu'n fendith? Efallai, dim ond Duw a ŵyr.

Mike McGrane, Ebrill 2016

 
cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan:
Caregos Cyf., 2016

 

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create